Mae Ymddiriedolaeth, sy’n gorff o wirfoddolwyr lleol, wedi ei sefydlu i achub safle treftadaeth Tŵr Marcwis.

Image removed.

Golygfa o Bont Grog Menai Thomas Telford

 

Mae’r tŵr hwn yn sefyll 106 o fetrau uwchlaw Afon Menai, ac mae’r Ymddiriedolaeth yn gobeithio ei adfer i’w ysblander gwreiddiol. Mae Tŵr Marcwis, a adeiladwyd yn 1817, yn gofeb i ddathlu cyfraniad pwysig Marcwis cyntaf Môn ym Mrwydr Waterloo. Mae’r tŵr wedi sefyll yma fel tirnod poblogaidd ers hynny ac mae wedi denu twristiaid sy’n awyddus i ddringo ei 115 o risiau a mwynhau golygfeydd panoramig o Ogledd-orllewin Cymru.

Yn anffodus, caeodd y tŵr yn 2012 pan benderfynwyd bod y grisiau mewnol yn beryglus. Yn 2017, pan oedd hi’n 200 mlynedd ers agor y tŵr, sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth i’w drwsio ac i wella profiad ymwelwyr drwy ddarparu cyfleusterau ychwanegol yn cynnwys caffi, toiledau a siop. Mae gan yr Ymddiriedolaeth hefyd gynlluniau i greu llwybr bordiau hygyrch o amgylch y safle fel bod pobl sydd â namau corfforol yn gallu mwynhau’r ardal, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n gallu dringo’r grisiau i ben y golofn.

 

Sut rydym wedi helpu 

Roedd y grŵp yn ansicr iawn ynglŷn â’u rôl a’u cyfrifoldebau ac yn teimlo bod angen cymorth arnyn nhw i fapio’r camau angenrheidiol i symud ymlaen â’r prosiect. Ar ôl derbyn argymhellion gan gleientiaid blaenorol, aeth yr Ymddiriedolaeth at Fusnes Cymdeithasol Cymru i gael cymorth. Rhoddodd y corff hwnnw gefnogaeth i’r fenter gyda chanllawiau am rolau a chyfrifoldebau cyfarwyddwyr, drwy gryfhau eu harferion llywodraethu, drwy roi gwybod am ffynonellau grant posibl iddynt a thrwy eu cynghori am dreth ar werth. Hefyd, darparodd Busnes Cymdeithasol Cymru bolisïau datblygiad cynaliadwy, yn cynnwys polisi amgylcheddol, cynllun gweithredu amgylcheddol a chod eco.

 

Effaith y gefnogaeth

Mae’r cymorth eang hwn wedi cael effaith enfawr ar yr Ymddiriedolaeth gan alluogi iddyn nhw sicrhau cyllid o amrywiol ffynonellau yn cynnwys Ymddiriedolaeth Gaynor Cemlyn Jones, Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn, y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol, Magnox, Historic Houses Foundation, Ymddiriedolaeth Wolfson, Ymddiriedolaeth y Pererin, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a chefnogaeth gan nifer o unigolion sydd â gwerth net uchel.

Meddai’r Fonesig Enid Bibby, yr is-gadeirydd “Rydym yn eithriadol o ddiolchgar am y cymorth a gawsom ac am y ffordd wych y darparwyd y cymorth i ni. Mae wedi gwella ein dealltwriaeth a’n galluoedd, ac yn fwy na dim ein gallu i ateb gofynion y cyllidwyr.”

Mae’r cyfraniad hwn wedi galluogi i’r grŵp ddatblygu’n endid cryf a chanddo strwythur da, sydd wedi llwyddo i sicrhau’r arian sy’n ofynnol i wneud y gwaith atgyweirio heriol a chreu lle cymunedol.

Yn ddiweddar dywedodd y Cyfarwyddwr arall, Peter Davies OBE, bod “yr Ymddiriedolaeth yn gwerthfawrogi’r cymorth a’r cyngor a dderbyniwyd gan Fusnes Cymdeithasol Cymru ar y daith honno o ddechreuad y prosiect yn 2018.“Trwy gyfrwng y gwasanaethau y mae Busnes Cymdeithasol Cymru wedi eu darparu, mae’r Ymddiriedolaeth wedi gallu rhoi strwythurau llywodraethu cadarn ar waith, ynghyd â pholisïau y mae’n rhaid i fusnes modern eu cael yn gyfreithiol, a dull o ymdrin â materion amgylcheddol. Mae’r polisïau hynny wedi eu cynnwys mewn Llawlyfr Staff a fydd yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd.

 

“Mae’r Ymddiriedolaeth yn ddiolchgar i Fusnes Cymdeithasol Cymru am ein helpu i osod sylfeini busnes cadarn a’n grymuso i gamu ymlaen yn hyderus i’r dyfodol. Gwyddom yn awr fod Busnes Cymdeithasol Cymru yno i’n helpu pan fyddwn eu hangen.”

 

Ariennir Busnes Cymdeithasol Cymru gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru ac mae’n cael ei ddarparu gan Ganolfan Cydweithredol Cymru.