Ail Gyfle-Second Chance
Ymgysylltu â chyn-droseddwyr i wella eu cyflogadwyedd
Mae Ail Gyfle-Second Chance yn gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Adsefydlu Cymunedol Cymru i wella hunan-barch, cronfa sgiliau a chyflogadwyedd unigolion. Mae’n gwneud hyn trwy gymryd rhan mewn menter gymdeithasol werdd sy’n creu a gwerthu cynhyrchion arloesol i’r cartref a’r ardd, gan gynnwys eitemau wedi’u taflu i ffwrdd mewn amgylchedd dysgu â chymorth.
“Ar ôl hyfforddiant llwyddiannus ar faterion llywodraethu a’n strategaeth busnes, mae gennym y sylfeini cywir ar waith i dyfu ein menter gymdeithasol a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.”
Deborah Chapman, Ail Gyfle-Second Chance
O gyngor ar sefydlu’r math cywir o fusnes i hyfforddiant ar faterion llywodraethu a chynllunio busnes, mae Busnes Cymdeithasol Cymru yn darparu’r arbenigwyr a’r gwasanaethau i helpu eich busnes.
I gael mwy o wybodaeth am ein cymorth teilwredig, rhad ac am ddim, ffoniwch 03000 6 03000 a gofynnwch am Fusnes Cymdeithasol Cymru