Mae technoleg yn tyfu’n erfyn fwyfwy pwysig ar draws y sector gofal iechyd. Ac mewn nifer o ffyrdd, mae COVID-19 wedi prysuro’r broses honno, gan ddod â thriniaethau newydd a dulliau newydd o roi diagnosis ac ymgynghori i’r amlwg. Mae Agile Kinetic, busnes ifanc, wedi datblygu deallusrwydd artiffisial (AI) i helpu staff iechyd i wella gwasanaethau i gleifion. Mae’r cwmni wedi cael ei helpu trwy Raglen Cyflymu Twf (AGP) Busnes Cymru sy’n targedu cwmnïau ifanc...
Cwmni gofal iechyd newydd yn benderfynol o wella profiad y claf.
Mae'r ffordd y mae gofal iechyd yn cael ei ddarparu yn newid ac yn gwella'n gyson. Erbyn hyn, mae COVID-19 wedi effeithio ar y ffordd y darperir gwasanaethau gofal iechyd mewn llu o ffyrdd. Mae Concentric Health yn gwmni newydd technolegol sy'n trawsnewid y ffordd rydym yn gwneud penderfyniadau am ein hiechyd, gydag ymagwedd radical at brofiad cleifion wrth iddynt symud drwy'r system. Mae'r cwmni o Gaerdydd am darfu ar y sector iechyd er gwell...
Targedau twf uchelgeisiol cwmni recriwtio ar ôl llywio 2020 heriol
Recriwtio'r bobl iawn ar gyfer eich busnes yw un o'r elfennau allweddol ar gyfer llwyddiant. Ar gyfer Gyrwyr Go2, sydd wedi'u lleoli ym Mae Colwyn, mae'r ethos hwnnw'n hollbwysig. Darparu talent i'r sector logisteg fu ei nod canolog ers ei sefydlu yn 2011. Yma, mae'r rheolwr gyfarwyddwr Christopher Hughes yn rhoi trosolwg o hanes y cwmni ac yn rhannu cyngor gwerthfawr i eraill sy'n dechrau ar eu taith entrepreneuraidd eu hunain, Dywedwch wrthym am Yrwyr...
Yn ôl o’r dibyn: Sut mae cefnogaeth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi diogelu dyfodol cwmni gofal sy’n tyfu
Mae darparwyr gofal wedi bod dan bwysau aruthrol yn ystod pandemig Covid-19. Y tu hwnt i’r argyfwng presennol, bydd gan y sector rwystrau tymor hwy i’w goresgyn, fel dod o hyd i staff sy'n meddu ar sgiliau ynghyd ag ymdopi ag elw is. Sefydlwyd Pineshield Management yn 2002 ac mae’n darparu gofal i bobl hŷn â dementia ac i oedolion a phlant ag anableddau. Mae’r cwmni, sy'n cael ei arwain gan y cadeirydd James Dwyer...
Dyfodol cyffrous ym marchnad Japan i frand ffasiwn Mabli
Mae gan Gymru hanes blaenorol cadarn o gynhyrchu a meithrin labeli ffasiwn o ansawdd uchel. Mae nifer o frandiau blaenllaw byd-eang naill ai wedi cael eu sefydlu yng Nghymru neu mae ganddynt bresenoldeb gweithgynhyrchu yng Nghymru – Laura Ashley, Toast, Burberry, Hiut Denim a JoJo Maman Bébé i enwi ond rhai. Yn dilyn ôl troed y traddodiad hwnnw y mae Mabli – brand sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd sy’n profi llwyddiant mewn marchnadoedd tramor. Yma...
Cwmni TG yn sefyll yn gadarn drwy COVID-19
Mae cwmni cymorth TG Metalogic wedi bod yn darparu arbenigedd a chymorth i fusnesau bach ers 2003. Symudodd y busnes, a sefydlwyd ac a arweinir gan Mike Parfitt, i gyfnod lle y caniatawyd iddo ehangu wrth i'r wasgfa gredyd daro, pan wnaeth y cyfnod orfodi cwmnïau i archwilio sut y gallent wneud arbedion effeithlonrwydd. Ers hynny mae'r cwmni wedi mwynhau twf pellach, gan ehangu ei weithlu ac ennill cleientiaid newydd. Mae’r cwmni wedi cael cymorth...
Darparwr gofal yn ceisio darparu gwasanaeth o ansawdd uchel ar gyfer preswylwyr yn Wrecsam
Mae gofal o ansawdd uchel yn hwyrach mewn bywyd yn bwysig i bawb, ac i Orchard Care, sy’n berchen ar ddau gartref yn ardal Wrecsam, mae darparu gofal o ansawdd uchel ar gyfer eu preswylwyr yn ganolog i’w ethos. Pan ymunodd Dave a Gemma Atkins â’r sector yn 2009, gwelon nhw ar unwaith yr angen am ddarpariaeth gofal o ansawdd uchel yn Wrecsam, ac roedden nhw’n ceisio rhoi’r ansawdd bywyd gorau posibl i’r rheini a...
I QuoteOnSite, cwmni fintech o Abertawe, datrys problemau busnesau eraill yw hanfod eu cynnig.
Wedi’i sefydlu gan TJ Amas o Nigeria, mae QuoteOnSite yn darparu cyfres unigryw o feddalwedd rheoli dyfynbrisiau yn y cwmwl. Mae’n caniatáu i reolwyr-berchnogion busnesau ddatblygu a chynnig dyfynbrisiau proffesiynol er mwyn tyfu eu busnes. I fusnesau bach a chanolig, a busnesau mwy, mae’r feddalwedd yn ei gwneud hi’n bosib rheoli timau sy’n rhan o’r broses gosod pris. Er ei bod yn ddyddiau cynnar ar y busnes o hyd, mae wedi denu amrywiaeth o gleientiaid...
Trosiant o fwy na £3 miliwn gan gwmni diogelwch, a’i fryd ar ragor o dwf
Sicrhau bod busnesau eraill, a phobl, yn parhau'n ddiogel sydd wrth wraidd yr hyn y mae Parallel Security o Wrecsam yn ei wneud. Mae'r cwmni, a sefydlwyd gan y rheolwr gyfarwyddwr Francis Johnson yn 2014, wedi tyfu cryn dipyn ers iddo ddechau rhyw chwe blynedd yn ôl. Â’i gynllun uchelgeisiol i ehangu hyd yn oed yn fwy, mae'r busnes yn mwynhau cyfnod cyffrous. O ddarparu goruchwylwyr wrth y drws i waith diogelwch a glanhau masnachol...
Hanes cwmni dŵr mwynol o Gymru sydd bellach yn un o frandiau mwyaf poblogaidd y DU.
O ddechrau di-nod ar fferm deulu i fod yn un o frandiau dŵr mwynol mwyaf poblogaidd y DU – mae hanes Radnor Hills yn un cyffrous, a stori o lwyddiant i Gymru sy’n destun balchder. Mae’r busnes wedi sicrhau ei fod mewn sefyllfa i fanteisio ar y twf yn y sector diodydd ysgafn, ac wedi ennill llawer o gontractau uchel eu proffil ar y ffordd. Yma mae Penny Butler o Radnor Hills yn egluro sut...