Mae darparwyr gofal wedi bod dan bwysau aruthrol yn ystod pandemig Covid-19. Y tu hwnt i’r argyfwng presennol, bydd gan y sector rwystrau tymor hwy i’w goresgyn, fel dod o hyd i staff sy'n meddu ar sgiliau ynghyd ag ymdopi ag elw is.

Sefydlwyd Pineshield Management yn 2002 ac mae’n darparu gofal i bobl hŷn â dementia ac i oedolion a phlant ag anableddau.

 

Mae’r cwmni, sy'n cael ei arwain gan y cadeirydd James Dwyer, wedi gweld newidiadau a heriau sylweddol ers iddo gael ei sefydlu, ac mae wedi arddangos gwytnwch rhyfeddol. Manteisiodd y cwmni ar arbenigedd a chefnogaeth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, sy’n darparu cymorth wedi’i dargedu i gwmnïau uchelgeisiol sy’n tyfu. Mae’r rhaglen yn cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Mae’r cwmni’n dweud bod y gefnogaeth hon wedi bod yn amhrisiadwy er mwyn diogelu ei ddyfodol.

Yma, mae James Dwyer yn adrodd hanes y cwmni ac yn cynnig cyngor i bobl eraill sy’n arwain busnes drwy gyfnod heriol.

 

Dywedwch wrthym ni am Pineshield Management
Gadewch i ni ddechrau yn y dechrau, tua 18 mlynedd yn ôl yn 2002, pan sefydlais y busnes. Bryd hynny, roedd yn ddeiliad masnachfraint gofal cartref, a pharhaodd hynny am tua 14 mlynedd, cyn i ni brynu’r fasnachfraint ac ymsefydlu fel Pineshield.

Erbyn hyn, mae gennym 45 aelod o staff ac oddeutu 80 o gwsmeriaid.

 

Yn 2011, gwnaethom sefydlu chwaer-gwmni o’r enw Menter Training, a oedd yn canolbwyntio ar ddarparu hyfforddiant a chymwysterau wedi’u cyllido gan brentisiaethau i’r sector gofal cymdeithasol yn ogystal â hyfforddiant iechyd a diogelwch. Mae fy ngwraig Catrina wedi bod yn rheolwr gyfarwyddwr Menter dros y tair blynedd diwethaf.

Ond ni fydd y dyfodol yn gwbl ddidrafferth, ac nid yw’r blynyddoedd diwethaf wedi bod ychwaith. Rydym wedi wynebu nifer o fygythiadau i hyfywedd y busnes. Ac mae’r sector yn gyffredinol wedi bod yn wynebu gostyngiad cyffredinol o ran maint elw mewn gofal cymdeithasol dros y 10 mlynedd diwethaf, a gwelwyd hynny yn ein helw ninnau yn ystod y cyfnod hwnnw.

Roeddem hefyd wedi llithro i ddiwylliant gwael o fewn y busnes, a arweiniodd at drosiant sylweddol o staff ar ddiwedd 2019 oherwydd argyfwng gyda morâl yn y gweithlu gofal.

Yn sgil hynny, dioddefodd ansawdd y gwasanaeth a ddarparwyd gennym, a gostyngodd ein refeniw 20% o’r hyn a welwyd yn ei anterth. Roeddwn i’n teimlo'n gryf mai methiannau rheoli oedd y tu ôl i hyn, a bod angen rheolwyr newydd arnom i newid pethau er gwell. Mi soniaf mwy am hynny yn nes ymlaen. Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed i newid pethau, rydyn ni’n bendant wedi profi ein gwytnwch ac erbyn hyn mae gennym ni dîm sy’n credu yn y busnes ac rydyn ni’n credu ynddynt hwythau.

 

Rydyn ni wedi gweld gwelliant sylweddol ym morâl y staff yn ddiweddar. Ym mis Awst, roedd yn rhaid i ni ynysu 50% o’r gweithlu ar ôl i ddau weithiwr gofal brofi'n bositif am Covid-19. Torchodd y 50% arall eu llewys i wneud yn siŵr ein bod yn gallu ymdopi â'r llwyth gwaith. Mae’n deg dweud na fyddai hynny wedi digwydd yn 2019.

Rydym hefyd wedi gweld gostyngiad mawr yn nifer y galwadau sy’n cael eu canslo gennym am nad oes gweithwyr gofal ar gael. Credaf fod hyn yn dangos bod lefelau uwch o ran cymhelliant yn ein gweithlu erbyn hyn, a bod pob un ohonom am weld y busnes yn llwyddo.

 

 

Beth ydych chi fwyaf balch ohono o safbwynt busnes hyd yn hyn?

Ymddangosodd un o’n gweithwyr gofal yn hysbyseb Gofalwn Cymru, sy’n cael ei redeg ar draws nifer o sianeli'r cyfryngau ar hyn o bryd. Yn yr hysbyseb mae’n egluro sut mae hi’n helpu cleient â dementia yn ystod Covid-19. Mae’n crynhoi popeth sy’n wych am ein staff a’n sector. Ac er gwaethaf yr holl drafferthion rydyn ni wedi’u cael, mae gofal wrth galon yr hyn rydyn ni’n ei wneud, a dyna pam rydyn ni yn y busnes hwn.

 

Pa heriau ydych chi wedi’u hwynebu ym myd busnes?
Rydyn ni wedi wynebu pentwr! Mae’r 12 mis diwethaf wedi bod yn gyfnod arbennig o anodd. Ond rydym yn eu goresgyn, ac, fel y dywedais yn gynharach, mae ein staff yn fwy brwd ynghylch y cwmni a’i ddyfodol nawr.

Ym mis Ionawr 2020, roedden ni wedi wynebu argyfwng llif arian, ar ôl prynu cyfran ein cyn reolwr-gyfarwyddwr a oedd yn berchen ar 33% o’r busnes. Gwelsom ostyngiad mewn refeniw yn ogystal â nifer o gostau sylweddol gan gynnwys ymdrin â materion perfformiad yn y gweithlu.

Ar ben hynny, gwrthododd ein banc i roi cyllid i’n helpu i ddelio â’r sefyllfa hon, am nad oeddem yn gwneud elw. Ac roedd ein cais am gyfleuster gorddrafft gyda’n banc masnachol yn aflwyddiannus.

Fy nghynilion bywyd a oedd yn cadw wyneb y cwmni uwchben y dŵr. Byddai ddim modd dal ati fel arall.

Yna, ddiwedd mis Ionawr 2020, fe wnes i ddioddef nifer o broblemau personol trychinebus. Cefais fy nerbyn i ofal dwys gyda ffliw H1N1, bu farw fy chwaer tra roeddwn i yno, a chafodd fy mam drawiad ar y galon. Bu farw fy mam ym mis Ebrill ar ôl i ni lwyddo i ymweld â hi yn Awstralia, cwta dau ddiwrnod cyn i’r cyfyngiadau symud ar ei chartref gofal ddechrau.

Digwyddodd hyn oll ychydig cyn i sefyllfa Covid-19 ddigwydd. Wrth i hynny waethygu, gwelsom ein refeniw yn gostwng 40% arall o ganlyniad i ganslo galwadau gofal oherwydd ofnau trosglwyddo’r feirws. Yn y cyfamser, cynyddodd costau cyfarpar diogelu personol.

Fe wnaethom geisio cymorth gan yr amrywiol gynlluniau cymorth sydd ar gael, ac yn y lle cyntaf nid oeddem yn llwyddiannus â’r Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yr oeddem yn bwriadu ei ddefnyddio i ail-gyllido ein benthyciad presennol. Nid oeddem yn bodloni’r meini prawf ar gyfer rhyddhad ardrethi busnes ac nid oedd ein landlord yn fodlon ail-negodi’r rhent.

Gwelodd Menter Training ei fusnes hyfforddiant yn gostwng bron i ddim dros nos diolch i Covid. Roeddem eisoes yn gwybod nad oedd fawr o obaith cael cyllid parhaus ar gyfer y cymwysterau prentisiaeth oherwydd y pwysau cyllido a oedd yn wynebu’r colegau. Roedd Menter mewn dyled o tua £130,000 i Pineshield a’i gyfarwyddwyr; byddai hynny wedi bod yn ben ar Pineshield pe na fyddai’n gallu ad-dalu cyfran sylweddol o’r dyledion hynny.

Roedd hyn i gyd yn erbyn cefndir o newid enfawr yn y busnes. O ddiwedd 2019, roedden ni wedi bod yn canolbwyntio ar wella’r diwylliant gweithio er mwyn mynd i’r afael â morâl isel ymysg staff.

Ymunodd Jayne Holloway, Cyfarwyddwr Gweithrediadau newydd, â ni ym mis Medi 2019 ynghyd â’r Swyddog Prosiect ac Ansawdd newydd, Jo Sulman. Aeth y ddwy ati i weithio gyda’i gilydd i wneud yn siŵr bod ein staff yn cael cefnogaeth well ac yn cael eu cydnabod. Roedd hyn hefyd yn golygu gosod safonau a ffiniau clir. Yn ddiddorol, croesawodd rhai o’r staff mwy beirniadol y newid ac ers hynny maen nhw wedi ymgymryd â rolau mwy canolog yn y busnes.

Daeth hyn yn bwysig yn ystod sefyllfa Covid pan dderbyniodd ein staff gofal yr her o ddarparu gofal yn ystod cyfnod llawn pryder. I bob golwg roedden nhw’n cael nerth o gael eu cydnabod fel gweithwyr allweddol a chyfrannu at les eu cleientiaid. Ers hynny, rydym wedi adeiladu ar hyn drwy sefydlu tîm rheoli pum person, lle nad oedd un yn bodoli o’r blaen. Rydym wedi rhoi amcanion busnes clir ar waith sy’n dilyn i lawr i amcanion tîm ac amcanion personol.

 

O safbwynt busnes, yr unig strategaeth a oedd ar gael i ni wrth i Covid frathu oedd canolbwyntio ar gyllid y Llywodraeth. Roedd ein cais am Fenthyciad Adfer yn llwyddiannus, a oedd yn golygu bod modd i Pineshield ail-gyllido ein benthyciad presennol o dan delerau llawer gwell.

 

Roeddem hefyd yn gallu cael rhywfaint o gyllid o gam 2 y Gronfa Cadernid Busnes ar gyfer Menter Training. Roedden ni hefyd wedi rhoi pobl ar ffyrlo.

Daeth y gefnogaeth fwyaf, fodd bynnag, gan Gyngor Caerdydd a gytunodd i gyllido gofal a gafodd ei ganslo oherwydd bod cleientiaid yn poeni am ddod i gysylltiad â’r feirws.

Mae llawer o bethau wedi newid, a bu’n rhaid i’r busnes gael ei ailstrwythuro. Llwyddais i sicrhau bod busnes Menter Training yn cael ei werthu’n gyflym i fusnes hyfforddiant lleol arall. Gwnaethom hynny o fewn tua dau fis o ddechrau’r trafodaethau.

Roedd hyn yn golygu ein bod yn gallu diogelu un swydd, a gafodd ei throsglwyddo i’r busnes newydd. Law yn llaw â chymorth Covid, roedd gwerthu’r busnes yn ddigon i gwmni Menter allu ad-dalu’r rhan fwyaf o’i ddyledion i Pineshield. Rydyn ni hefyd yn gobeithio trosglwyddo’r ddau aelod o staff sydd ar ôl i Pineshield ar ôl i’r cyfnod ffyrlo ddod i ben.

 

Y prif broblem yw bod gennym bellach ormod o le eiddo tirol sy’n annhebygol o gael ei isosod mewn pryd ar gyfer diwedd y brydles ym mis Tachwedd 2021.

 

 

Pe baech chi’n dechrau eto, beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol?
Fyddwn i ddim wedi prynu cyfran fy mhartner busnes pan wnes i. Wedi dweud hynny, byddai’r newid diwylliannol yr oedd ei angen i weddnewid y cwmni wedi cael ei ohirio nes bod y trosglwyddiad wedi digwydd.

 

Sut mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Mae Andy Bird o Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi bod o gymorth mawr, ac mae wedi cynnig cefnogaeth a chyngor wedi’i dargedu yn ystod y cyfnod anodd rydyn ni wedi’i wynebu.

Ar un adeg yn y broses hon, roeddwn i’n ystyried dirwyn y busnes i ben ac roedd Andy yn gallu trefnu galwad gyda rhywun a oedd yn gallu rhoi cyngor a ddaeth â mi yn ôl o’r dibyn.

Mae Andy a’i gysylltiadau wedi helpu i gael gafael ar gyllid gan y llywodraeth ac wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i mi am bob datblygiad newydd. Yn fwy diweddar, rydym wedi penodi ymgynghorydd Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru i ail-lunio ein proses recriwtio a fydd yn allweddol i’n twf.

Ym mis Ionawr 2020, trefnodd Andy astudiaeth o farchnad yr Emiraethau Arabaidd Unedig, a’m helpodd i baratoi ar gyfer yr ymweliad masnach Cymreig â chynhadledd Arab Health yn Dubai.

Yn anffodus, dyma pryd y bu i mi ddal y ffliw H1N1 a chael fy nerbyn i ofal dwys am wythnos. Rydyn ni wedi rhoi’r prosiect hwn o’r neilltu am y tro wrth i ni wneud ein gorau glas i ymdopi â’r pwysau eraill sy’n ein hwynebu, ond mae’n rhywbeth rydw i’n gobeithio edrych arno eto cyn bo hir.

 

Pa gyngor ac arweiniad fyddech chi’n ei roi i fusnesau eraill sy'n dechrau arni?

●     Byddwch yn benderfynol ac yn gadarn. Mae pawb yn mynd drwy gyfnod anodd. Os gallwch oroesi’r rheini, gallwch fanteisio ar yr amseroedd da. Os byddwch yn rhoi’r ffidil yn y to, fyddwch chi byth yn cael cyfle i wneud hynny.

●     Mae eich busnes yn adlewyrchiad o’ch staff. Mae parch, eglurder ynghylch rolau swyddi ac agweddau cadarnhaol yn cael effaith fawr ar eich busnes.

●     Gwnewch yn siŵr fod gennych gynghorwyr gwych o’ch cwmpas.

●     Mae rhwydweithiau ardderchog yn helpu eich busnes mewn amseroedd da ac mewn amseroedd pan fydd pethau’n anodd.

I gael rhagor o wybodaeth am Pineshield ewch
yma.

Mwy o wybodaeth am 
Raglen Cyflymu Twf
Busnes Cymru.

 

Share this page

Print this page