Mae’r ysbrydoliaeth o ran syniad am fusnes yn aml yn deillio o brofiad personol. Ac roedd hynny’n wir i Vicky North, sefydlydd Bird Kitchen, sy’n cyflenwi dillad gwaith i fenywod sy’n gweithio’n y diwydiant bwyd a diod. Cafodd y brand ei eni pan sylweddolodd y perchennog caffi, Vicky, fod y dillad neillryw a gyflenwyd yn y sector fel arfer wedi’u dylunio ar gyfer dynion. Ar ôl sylweddoli hyn, dechreuodd ei busnes, sydd bellach ar daith...
Cwmni powdr metel o ansawdd yn darparu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol.
Ymdrech gyfunol yw'r dasg o ddiwallu anghenion sgiliau Cymru mewn economi sy'n newid. Mae gan fusnes rôl hanfodol i'w chwarae wrth sicrhau bod gweithlu'r genedl yn barod ar gyfer y dyfodol. Mae'r gwneuthurwr powdr metel o Sir Gaerfyrddin, LSN Diffusion, yn enghraifft wych o hyn. Nid yn unig y mae'n darparu cyflogaeth sy’n gofyn am lefel uchel o sgiliau yn ei gymuned leol, ond mae hefyd yn rhoi cyfle i weithwyr wella a chynyddu eu...
Cwmni stripio weiar yn cynhyrchu cynnyrch ar gyfer cwmnïau uwch-dechnoleg ledled y byd.
Prin fod llawer yn meddwl am y peirianneg manwl sydd ei angen i gynhyrchu’r rhannau mewn cynnyrch trydanol. Un o’r prosesau angenrheidiol hynny yw stripio weiars – sef tynnu’r haen allanol o blastig oddi ar weiars trydan. I sicrhau cysylltiadau trydanol diogel a da, rhaid stripio’r weiar yn lân ac yn gywir. A hwythau wedi chwyldroi’r diwydiannau meddygol, data a moduron, diolch i’w technoleg arloesol, mae Laser Wire Solution o Bont-y-pridd yn geffylau blaen yn...
Cwmni gwirodydd a photelu teuluol o Dde Cymru yn croesawu twf o 900%.
Mae'r farchnad ar gyfer gwirodydd o safon uchel yn un sy'n tyfu. Gwerth y farchnad wirodydd yn y DU oedd tua £15 biliwn yn 2021, gyda modelau'n rhagweld twf parhaus yn y sector. Caiff y twf hwnnw ei yrru gan arloesi i raddau helaeth, gan ganolbwyntio ar ansawdd ac arallgyfeirio i wirodydd alcohol isel a dim alcohol. Ymhlith y distyllfeydd yng Nghymru sy'n dod yn amlwg yn y sector, sy'n mwynhau twf ac yn manteisio...
Pam bod rhoi budd i’r gymuned wrth galon menter newydd yn Sir Benfro.
Mae amgylchedd Cymru'n un o asedau allweddol y wlad. Mae’n hollbwysig i ni ei ddiogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol a sicrhau bod pobl yn byw yn gytûn gyda’r byd naturiol os ydym am adeiladu economi mwy cynaliadwy. Mae un busnes (a dweud y gwir, mae’n gymdeithas er budd y gymuned) yn Sir Benfro - heb os, dyma ranbarth arfordirol poblogaidd mwyaf enwog Cymru - yn edrych ar sut y gallwn ni ailystyried sut rydyn ni’n...
Gweithgynhyrchydd iechyd yn paratoi ar gyfer newidiadau dynamig sydd i ddod.
Gall fod sawl ffactor sy’n ysgogi rheolwyr i brynu’r cwmni (MBO) y maent yn gweithio iddo. Roedd yr hyn a ysgogodd y tîm arwain yn Minerva, gwneuthurwyr mowldiau clust wedi’u teilwra o Gaerdydd, i wneud hynny yn glir, sef sicrhau dyfodol disglair i’r busnes. Ers cwblhau’r MBO yn llwyddiannus yn 2017, mae Minerva wedi bod ar ei ennill drwy dyfu a buddsoddi yn ei waith ymchwil a ddatblygu i sicrhau ei fod ar flaen y...
Yr entrepreneur heb ei ail sy'n gobeithio gwneud ynni adnewyddadwy yn fwy cynaliadwy byth.
Wrth inni symud tuag at sector ynni sy'n defnyddio rhagor o ynni adnewyddadwy, mae'n bosibl hefyd y bydd cyfleoedd i wella a diogelu ein byd naturiol hefyd. Dyna beth mae arweinydd busnes o Sir Benfro yn gobeithio ei ddatblygu wrth iddo arwain ymchwil i gynhyrchu ynni ar y môr a'r ffordd y gall ddiogelu planhigion ac anifeiliaid brodorol. Mae Jonathan Williams wedi bod yn gweithio gyda'r Rhaglen Cyflymu Twf Gwyrdd i archwilio ei syniadau. Cafodd...
Mae cael achrediad ISO yn allweddol i uchelgeisiau rhyngwladol cwmni meddalwedd.
O bryd i’w gilydd mae angen i’r cwmnïau mwyaf uchelgeisiol sy’n tyfu, hyd yn oed, wneud rhywbeth ychydig yn wahanol er mwyn sicrhau busnes mewn amgylchedd byd-eang cystadleuol. Mae Amplyfi, sydd â’i bencadlys yng Nghaerdydd, yn enghraifft wych o’r gwaith caled mae angen ei wneud yn aml er mwyn sicrhau bod cwmni’n meddu ar y fantais gystadleuol sydd ei hangen arno i lwyddo . Mae Amplyfi wedi cael cefnogaeth drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru...
Sut mae un cwmni cyfreithiol o Gymru wedi rhoi iechyd meddwl a thosturi tuag at bobl wrth wraidd ei weithrediadau – gan roi hwb i gynhyrchiant a chadw staff.
Yn gynyddol, mae arweinwyr busnes yn deall bod iechyd meddwl gweithlu yn hanfodol i les busnes. I Ron Davison, rheolwr gyfarwyddwr Gamlins Law yn y gogledd, mae dealltwriaeth reddfol o'r ffaith honno, a welwyd o safbwynt personol iawn, wedi gweld y cwmni'n datblygu cefnogaeth ar gyfer iechyd meddwl i'w staff mewn swyddfeydd ar draws y gogledd, sy'n arwain y diwydiant. Cefnogwyd Gamlins Law drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP). Mae'r AGP yn darparu cefnogaeth...
Mae Forever Mortal yn cynnig atebion arloesol ar gyfer diogelu gwaddolion ar-lein mewn ffyrdd na welwyd erioed o’r blaen.
Mae ein hôl troed yn codi cwestiwn difyr. Beth ydych chi’n ei wneud – neu’n bwysicach, beth mae eich teulu a’ch anwyliaid yn ei wneud – gyda’ch ôl troed digidol ar ôl ichi farw? Mae dyddiau’r albwm ffotograffau llychlyd ar ben; bydd y rhan fwyaf ohonom yn berchen ar ffôn symudol o’r chweched genhedlaeth erbyn hyn, gyda phob dyfais yn llawn atgofion, fideos a ffotograffau – degau o filoedd ohonynt o bosib. Beth wnewch chi...