Heb os golff yw un o'r chwaraeon mwyaf heriol yn y byd, gan estyn y gallu i ganolbwyntio a sgili i'r eithaf Mae'r awydd i lwyddo a gwella yn ysgogydd cyson i lawer o golffwyr, boed yn chwaraewyr proffesiynol ar binacl eu gêm neu amaturiaid yn eu clybiau lleol. Mae sylfaenydd Dr Golf, Zach Gould, wedi’i leoli ym Mhenarth, a chymaint roedd yn uniaethu ag awydd pobl i wella eu gêm ac i wella eu...
Freight Systems Express Wales (FSEW) yn gosod archeb gyntaf y DU ar gyfer unedau tractor trydan
Mae’r blaenyrwyr llwythi o Gaerdydd, Freight Systems Express Wales (FSEW), wedi gosod archeb gyntaf y DU ar gyfer unedau tractor trydan trwm, fel rhan o ymrwymiad y cwmni i leihau ei allyriadau carbon 50% o fewn blwyddyn. Mae FSEW yn gwmni logisteg a blaenyrru llwythi rhyngwladol a leolir ar safle Freightliner yng Ngwynllŵg, Caerdydd. Ar hyn o bryd mae’r cwmni yn cyflogi tua 76 o bobl, ac yn darparu gwasanaethau cludo llwythi i gleientiaid yn...
Sut mae un busnes teuluol yn anelu at ddod yn frand beicio modur eiconig yng Nghymru unwaith eto.
Mae beic modur Wardill 4 wedi'i saernïo'n hyfryd gan beirianwyr medrus ac mae’n addo cynnig rhywbeth gwirioneddol wahanol – a Chymreig - i feicwyr modur brwd pan fydd yn mynd ar werth. Mae Wardill Motorcycles yn fusnes teuluol sydd wedi'i leoli ym Mhontypridd. Mae Mark Wardill, gor-ŵyr sylfaenydd y cwmni, Henry Wardill, yn brysur yn adfywio cwmni ag iddo hanes llwyddiannus. Ac mae ganddo ddigon o gynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol. Mae Wardholl Motorcycles...
Cwmni atebion busnes am ehangu’n fyd-eang ar ôl sicrhau buddsoddiad.
I entrepreneuriaid, gall manteisio ar arbenigedd busnes penodol fod yn amhrisiadwy pan fydd ganddyn nhw fusnes sy’n tyfu ac yn datblygu. Mae Business Butler yn blatfform ar gyfer talent ar alw yng Nghymru, ac maent yn helpu'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau busnes i wneud hynny drwy eu rhoi mewn cysylltiad â phanel o arbenigwyr busnes – sydd wedi cael eu fetio – drwy eu porth ar-lein. Mae'n wasanaeth hanfodol mewn byd lle mae rhwydweithio wyneb...
Y cwmni technoleg addysgol sy'n arwain y sector – ac sy'n parhau i dyfu.
Mae'r ffordd y cyflwynir dysgu yn esblygu'n gyson. Mae'r esblygiad hwn wedi cyflymu yn y degawdau diwethaf ochr yn ochr â datblygiadau technolegol, sydd wedi arwain at bosibiliadau niferus o ran datblygu adnoddau addysgol. Mae'r cwmni technoleg addysgol CDSM Interactive Solutions o Abertawe wedi bod yn flaenllaw iawn o ran y newid hwnnw, gan gefnogi busnes a'r llywodraeth i ddarparu addysgu a dysgu digidol i ystod eang o ddefnyddwyr. Mae CDSM Interactive Solutions wedi cael...
Hanes cwmni cyfreithwyr sy’n dilyn model dyngarol unigryw
A oes modd i gwmni cyfreithwyr weithio fel busnes cwbl ddyngarol? Mae cwmni AltraLaw o Gaerffili yn brawf bod model chwyldroadol o’r fath yn bosib, ac y gall fod yn sbardun i dyfu. Mae cymwynasgarwch yn rhan cwbl annatod o’r cwmni cyfreithwyr hwn. Cafodd ei sefydlu gan Nathan Vidini ac mae’n wahanol iawn i gwmnïau traddodiadol. Ac mae stori Nathan yn profi mor llwyddiannus y gall cwmni cyfreithwyr di-elw fod. Cafodd AltraLaw o Gaerffili help...
Sut mae un cwmni o Gymru yn helpu pobl i godi yn ôl ar eu traed ar ôl difrod i’w cartrefi
Mae’r gwaith adfer wedi’r difrod a achoswyd gan ddigwyddiadau fel llifogydd neu dân yn rhywbeth brawychus ac emosiynol i unrhyw berchennog tŷ. Mae un cwmni o Gymru, TSG, wedi cynnig atebion arloesol i’r sector yswiriant i gefnogi gwaith adfer a helpu deiliaid tai i adennill rhywfaint o normalrwydd tra bod eu cartrefi yn cael eu hatgyweirio a’u hadnewyddu. Dechreuodd y cwmni yn 2012 ac ers hynny mae ei drosiant wedi tyfu i £4m, gan gyflogi...
Mae gan fferyllfa ar-lein sy’n helpu cleifion a chartrefi gofal i reoli eu presgripsiynau’n fwy effeithiol uchelgeisiau mawr ar gyfer tyfu
Mae awtomeiddio ym maes gofal iechyd yn helpu cleifion, fferyllfeydd a pherchnogion cartrefi gofal i reoli eu meddyginiaeth yn well. Mae’r fferyllfa ar-lein PillTime ar flaen y gad yn y maes hwn. Gan ddefnyddio roboteg a deallusrwydd artiffisial, mae'r cwmni wedi creu amlenni meddyginiaeth sy’n cael eu dosbarthu yn awtomatig, gan ei gwneud yn haws i bobl gymryd eu meddyginiaeth ar yr adeg gywir ac ar y diwrnod cywir. Mae PillTime wedi cael eu cefnogi...
Entrepreneur yn rhannu sut mae wedi goresgyn rhwystrau personol i lywio cwmni glanhau sy’n tyfu’n gyflym i lwyddiant.
Mae goresgyn heriau yn brofiad cyffredin i’r rhan fwyaf o entrepreneuriaid. Fodd bynnag, mae rhai rhwystrau’n fwy nag eraill. Mae Rayner Davies yn entrepreneur sydd wedi troi ei busnes yn llwyddiant ysgubol diolch i’w dycnwch a’i natur benderfynol. Mae ei stori ysbrydoledig yn profi sut gall ysbryd entrepreneuraidd a meddylfryd o ddyfalbarhad, sbarduno twf personol a busnes. Mae ei chwmni, Gwasanaethau Glanhau A&R, wedi cael cymorth drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru. Mae Rhaglen Cyflymu...
Mae gan gwmni technoleg newydd olwg 360 gradd wrth iddo edrych ymlaen at ddyfodol cyffrous.
Mae'r defnydd o dechnoleg rithwir i gynorthwyo busnesau ar draws amrediad o sectorau’n tyfu. Gwelodd myfyrwyr Prifysgol Caerdydd George Bellwood a Robin David fwlch, a datblygu dechnoleg i lenwi’r bwlch hwnnw, gan ddefnyddio eu harbenigedd a'u sgiliau pan oedden nhw yn eu blynyddoedd olaf yn y brifysgol. Mae eu cwmni, Virtus Tech, yn gwmni realiti rhithwir a dealltwriaeth data sy'n darparu platfformau rhithwir i fusnesau. Mae eu DIGI Tour blaenllaw yn defnyddio delweddau 360 gradd...