Ers lansio Rhug Wild Beauty yn 2021, mae golygon y cwmni wedi bod ar efelychu llwyddiant ei gynhyrchion cig dramor, ac wedi bod wrthi’n ddiwyd yn datblygu strategaeth allforio gyda chymorth ymgynghorwyr Masnach Tramor Llywodraeth Cymru.
Mae gan y cwmni ddosbarthwr sefydlog yng Nghanada hefyd, sydd wedi caniatáu i’r brand gyrraedd marchnad Canada gyda’n cynhyrchion gofal croen. Ar hyn o bryd, mae Ystâd Rhug yn ymdrechu i ennill ei blwyf ar farchnad gogledd America trwy ennill troedle yn UDA, ac mae’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddod o hyd i gyfleoedd a meithrin perthnasau â dosbarthwyr ac adwerthwyr yn y farchnad allweddol yma sy’n cynhyrchu refeniw yn y degau o biliynau ar gyfer gofal croen organig bob blwyddyn.
Gydag achau’n dyddio nôl i’r 11eg ganrif, daeth Rhug i feddiant Arglwydd Newborough ym 1998, a gwnaed y penderfyniad i droi’r ystâd yn hollol organig â ffocws ar gynaliadwyedd. Dechreuodd adwerthu cig organig Rhug yn 2002 cyn allforio am y tro cyntaf yn 2006. Cymaint yw ei barch ar y farchnad, cafodd Gwarant y Tywysog Ystâd Rhug ei huwchraddio’n Warant y Brenin gan y Brenin Charles III yn ddiweddar.
Allforion sydd i gyfrif am tua 12% o fasnach Rhug erbyn hyn, ac er taw ei allforion cig sy’n gyrru hyn yn bennaf ar hyn o bryd, mae disgwyl i’r farchnad fyd-eang am gynnyrch gofal croen organig a naturiol ddyblu dros y pum mlynedd nesaf, felly mae Rhug yn disgwyl i’r ffigur yna dyfu’n sylweddol dros y blynyddoedd sydd i ddod wrth i Rhug Wild Beauty ennill troedle cadarn mewn marchnadoedd rhyngwladol. Ei nod nawr yw sicrhau taw allforion sydd i gyfrif am hanner ei drosiant erbyn 2026.
Dywedodd Arglwydd Newborough, Perchennog Ystâd Rhug: “Mae cynaliadwyedd a chynnyrch organig, naturiol wedi bod wrth galon gwaith Rhug ers y dechrau’n deg, ac erbyn hyn, gyda’n nwyddau ffordd o fyw, gallwn helpu pobl i gadw’n iach ar y tu fewn a’r tu allan. Bydd cyflwyno gofal croen a nwyddau i’r cartref yn ein helpu ni yn ein cenhadaeth i fod yn frand gwirioneddol fyd-eang.
“Mae peidio â gosod ffocws ein hymdrechion gwerthu yn y DU yn unig, a bod â phortffolio cymysg o gleientiaid mewn amryw o farchnadoedd rhyngwladol, wedi caniatáu i ni amrywio ein busnes ac aros yn gadarn trwy gyfnod ymestynnol dros ben.”
Yr allwedd i lwyddiant allforio Rhug yw cefnogaeth arbenigwyr allforio Llywodraeth Cymru trwy Busnes Cymru, sydd wedi helpu’r busnes i gyrchu cymorth ariannol yn ogystal â chyngor ar farchnadoedd a phartneriaethau posibl.
Ychwanegodd Arglwydd Newborough: “Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Llywodraeth Cymru am y cymorth rydyn ni wedi ei gael i’n helpu ni i dyfu ochr allforio ein busnes, o gymorth ariannol i gymorth i fynychu sioeau masnach, a chyngor ac arweiniad i ffeindio’n ffordd o gwmpas cytundebau allforio. Mae’r cymorth a’r cysylltiadau a ddarparwyd gan swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn y Dwyrain Canol, Asia a gogledd America wedi bod yn amhrisiadwy.”