Diolch i'w ddull o weithredu sy'n canolbwyntio ar allforio, ac archebion helaeth i allforio'i nwyddau, mae'r cwmni ar y trywydd i daro £3 miliwn gan dorri ei record gwerthiannau blaenorol.


Busnes teuluol arobryn yng Nghorwen, Sir Ddinbych, yw Ruth Lee Ltd. Mae’n arbenigo mewn creu dymis hyfforddi realistaidd a chymhorthion eraill sy'n cael eu defnyddio gan arbenigwyr diogelwch mewn ffug-senarios achub ar draws y byd. Mae gan y cwmni 25 o staff, sy'n gweithio ar draws y busnes mewn amrywiaeth o rolau, o ddylunio a chynhyrchu, i farchnata a gwerthu.

Sylfaenwyr y cwmni yw’r pâr priod, Ruth a Ron Lee. Gwniadyddes oedd Ruth yn wreiddiol, a gof oedd Ron, a ffocws gwreiddiol y busnes oedd darparu gwasanaeth trwsio cyffredinol.

Ond cafodd Ruth ei hysbrydoli gan ymweliad ar hap gan ddyn tân a oedd am gael dymi hyfforddi wedi ei greu'n bwrpasol i ymestyn ei sgiliau i ddylunio a chreu model mwy gwydn. Roedd y Gwasanaeth Tân wrth eu bodd ar y dymi newydd a gwell yma, a daethant nôl i osod archeb am 10 arall, a dyna sut y ganed cwmni dymis hyfforddi Ruth Lee.

Bu archebion domestig yn allweddol i lwyddiant cynnar y cwmni, gyda'r cwmni'n cronni rhestr nodedig o gwsmeriaid ar draws Prydain, gan gynnwys gwasanaethau tân ac achub, y Weinyddiaeth Amddiffyn, gwasanaethau'r heddlu, yr RNLI a chartrefi gofal. Ond denodd cyfarfod gyda dirprwyon o Siapan mewn sioe fasnach ddiddordeb rhyngwladol, a hyn oedd y sbardun i Ruth Lee fynd ati i ymchwilio i drafodion masnach rhyngwladol.

O ddomestig i ryngwladol

Am fod y cwmni'n gwybod bod yna botensial aruthrol i allforio, penododd Ruth Lee Fwrdd o arbenigwyr a rheolwr gyfarwyddwr i yrru'r busnes yn ei flaen fel y gallent elwa ar y cyfleoedd i allforio.

Cafodd y cwmni cryn dipyn o gymorth gan Lywodraeth Cymru, a gyrchwyd trwy Fusnes Cymru, yn ystod y cyfnod trosiannol yma, gan gynnwys cyngor ar gyllid, cymorth gydag ymchwil i'r farchnad, a chymorth i ddiogelu gwahoddiadau i fynd ar deithiau masnach a mynychu cynadleddau rhyngwladol a roddodd gyfle i'r staff gwrdd â dosbarthwyr posibl - y mae llawer ohonynt bellach ymysg prif gwsmeriaid Ruth Lee.

Ers penodi’r rheolwr gyfarwyddwr a throi ei ffocws strategol at allforion, mae'r cwmni wedi tyfu'n gyflym, ac erbyn hyn, allforion sydd i gyfrif am ryw 70% o werthiannau'r cwmni. Mae sylfaen sylweddol o gwsmeriaid gan y cwmni ar draws Ewrop, Gogledd America, Asia ac Awstralia, ac yn ddiweddar mae hi wedi cyhoeddi trafodion masnach gyda chwmnïau yn Ne America, y Dwyrain Canol a Tsieina - marchnadoedd yr oedd y cwmni wedi ei chael hi'n anodd torri i mewn iddynt o’r blaen.

Addasu i fodloni twf mewn galw

Dros y blynyddoedd, mae prosesau gweithgynhyrchu Ruth Lee wedi cael eu diweddaru, gan ddatblygu sgiliau'r staff i ddefnyddio bwrdd torri awtomatig, yn hytrach na thorri templedi â llaw. Llwyddodd y cwmni i gaffael rhagor o le i ddarparu ar gyfer y cynnydd mewn archebion a'r niferoedd cynyddol o staff.

Dros y ddwy flynedd diwethaf yn unig, mae'r cwmni o'r gogledd wedi gweld twf o 65% yn ei drosiant, ac mae’n priodoli’r llwyddiant yma i fod yn fwy proffesiynol ei natur a rhoi mwy o ffocws ar allforion.

Dywedodd Paul McDonnell, rheolwr gyfarwyddwr Ruth Lee:

"Er taw asgwrn cefn y busnes yw ein masnachu ym Mhrydain ers y dechrau’n deg, rydyn ni'n cydnabod bod allforio'n cynnig cyfleoedd aruthrol i ni i dyfu, ac roedd angen i ni addasu ein strwythur i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd yn y marchnadoedd rhyngwladol yma sydd bron a bod yn ddiderfyn. Fe gyflogon ni bobl marchnata a datblygu busnes arbenigol â phrofiad rhyngwladol, a staff swyddfa ychwanegol i gynorthwyo twf y tîm. Nod pob penderfyniad a wnaed gennym oedd symud y busnes i'r lefel, nesaf a datblygu ein llwyddiant trwy allforio ”

Wrth siarad am y penderfyniad i archwilio opsiynau ar gyfer masnach rhyngwladol a chynnig cyngor i bobl sy'n ystyried mynd ar drywydd allforio, dywedodd McDonnell: "Mae meithrin perthnasau gwaith da â dosbarthwyr rhanbarthol yn hanfodol. Nhw yw wyneb eich brand yn y gwledydd tramor, felly mae sicrhau eu bod nhw'n deall y cynnyrch yn llwyr, ac yn wirioneddol angerddol yn ei gylch, yn hanfodol. Mae mynychu achlysuron masnach yn ffordd wych o feithrin perthnasau â darpar-ddosbarthwyr a chwsmeriaid fel ei gilydd, ac mae Llywodraeth Cymru'n cynnal Teithiau Masnach rheolaidd y mae’n werth chweil mynd arnynt.”

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen