Sefydlwyd Helix Operations ym Mangor yn rhan o grŵp DMM Cymru yn 2016, ac mae’r cwmni wedi ennill ei blwyf fel un o gynhyrchwyr mwyaf blaenllaw offer diogelwch arbenigol ar gyfer gweithio o uchder er mwyn helpu cwsmeriaid i fynd i fyny, i lawr a chyflawni gwaith achub wrth weithio’n uchel i fyny.
Mae’r cwmni wedi datblygu pecyn cynhwysfawr o offer sy’n cael ei ddefnyddio gan dimau chwilio ac achub, adrannau amddiffyn cenedlaethol, ac unedau heddlu arbenigol er mwyn cyflawni gwaith cyrchu fertigol cymhleth.
Mae ei bortffolio’n cynnwys harneisi dringo pwrpasol, ysgolion cyfansawdd, offer dringo â modur, a thaflwyr angorau bachu, ynghyd â chyrsiau hyfforddi pwrpasol a gwaith cynnal a chadw gan gyn-arbenigwyr gweithredol.
Twf yn y Farchnad Rydyeddol
Er i Helix Operations ddechrau trwy gyflenwi cwsmeriaid yn y DU yn unig, agorodd enw da o fewn y sector gartref ddrysau i’r cwmni ehangu’n rhyngwladol. Erbyn hyn, allforion sydd i gyfrif am 65% o drosiant y cwmni, gydag offer Helix yn cael ei ddefnyddio mewn 51 o wledydd ar draws Ewrop, Gogledd America, America Ladin, y Dwyrain Canol, Awstralia a Sgandinafia.
Mae gwerthiannau rhyngwladol wedi mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd, gyda Helix yn diogelu cadwyn o gontractau allforio tramor, gan gynnwys pum cytundeb aml-flwydd gwerth cyfanswm o €13 miliwn gyda thair gwlad yn Ewrop – a hynny o ganlyniad i flynyddoedd o feithrin perthnasau yn y farchnad.
Mae Helix Operations wedi cryfhau ei bresenoldeb hefyd, gan ddiogelu archeb fawr yn y Dwyrain Canol. Bu’r cytundeb o ganlyniad uniongyrchol i bresenoldeb Helix mewn arddangosfa fasnach ryngwladol yn Dubai gyda chymorth Llywodraeth Cymru, lle cafodd y cwmni’r cyfle i ddangos ei offer i ddefnyddwyr yn uniongyrchol.
Mae’r cwmni ar y trywydd iawn i bron â dyblu ei drosiant i £8 miliwn eleni, a hynny diolch i raddau helaeth i’r galw cynyddol gan gwsmeriaid tramor.
Mae llwyddiant allforio Helix Operations wedi cael ei gynorthwyo gan Llywodraeth Cymru sydd wedi helpu’r cwmni i fynychu ymweliadau masnach, gan ei alluogi i gwrdd â darpar-gwsmeriaid a’i wneud yn fwy gweladwy mewn marchnadoedd allweddol. Mae cyngor pwrpasol Ymgynghorwyr Masnach Ryngwladol am farchnadoedd penodol wedi helpu’r busnes i ehangu i mewn i diriogaethau newydd a chyflymu ei dwf hefyd.
Erbyn hyn, mae Helix Operations yn cyflogi 17 aelod o staff rhwng ei bencadlys ym Mangor a’i gyfleuster hyfforddi yn Abergele, gyda grŵp DMM Cymru’n cyflogi 175 yn rhagor o staff yn y ffatri yn Llanberis.
Gyda diddordeb cynyddol o Sgandinafia, De-ddwyrain Asia a’r Unol Daleithiau, mae’r cwmni’n gobeithio gweld y twf cadarn yma’n parhau dros y ddwy flynedd nesaf. Gyda gwerth £11 miliwn o archebion allforio eisoes yn y rhagolygon ar gyfer 2026, mae Helix yn rhagweld y bydd yn parhau i dyfu’n gadarn dros y ddwy flynedd nesaf.
Dywedodd Simon Marsh, Rheolwr Gyfarwyddwr Helix Operations:
“Allforio yw ein busnes ar hyn o bryd. Pan mae’r defnyddwyr yn gweld beth maen nhw’n gallu ei wneud gyda’n hoffer, ein systemau a’n hyfforddiant, maen nhw’n fwy tebygol o lawer o fod am weithio gyda ni. Mae’r gallu i deithio i farchnadoedd targed, arddangos ein hoffer ac ennill ffydd cwsmeriaid wyneb yn wyneb wedi bod yn allweddol i’n twf rhyngwladol.
“Mae’r contractau diweddaraf yma yn Ewrop yn adlewyrchu blynyddoedd o waith yn meithrin perthnasau, yn gwrando ar ddefnyddwyr ac yn mireinio ein cynnyrch at eu hanghenion. Rydyn ni’n eithriadol o falch fod sefydliadau ar draws y byd yn ymddiried mewn offer sy’n cael ei greu yma yng Nghymru i gadw eu gweithredwyr yn ddiogel wrth weithio o uchder.
“Mae cymorth Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y cyllid i’n helpu ni i fynychu ymweliadau â marchnadoedd a sioeau masnach, wedi bod yn hanfodol bwysig wrth alluogi’r tîm i gwrdd â’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau, cynnal arddangosfeydd a meithrin perthnasau mewn tiriogaethau allweddol.”