Mae Flamgard Calidair, cwmni gweithgynhyrchu Cymreig y mae eu cynnyrch wedi cael ei ddefnyddio mewn prosiectau blaenllaw ym mhedwar ban y byd, yn ffeindio bod ei strategaeth allforio'n talu ar ei ganfed gyda gwerthiannau’n torri pob record. 

Mae Flamgard yn disgwyl torri ei record trosiant yn 2021 ac mae golygon y cwmni ar ddyblu hyn erbyn 2025 trwy ehangu'r sylfaen o gwsmeriaid byd-eang eto fyth.

Mae Flamgard Calidair o Bont-y-pŵl, sy'n cyflogi 68 o bobl, yn gwmni rhyngwladol blaengar wrth ddylunio a chynhyrchu systemau amddiffyn rhag tân a ffrwydradau ac awyru ar gyfer y diwydiannau niwclear, twnelu ac olew a nwy. Mae cynnyrch y cwmni'n cael ei ddefnyddio i gyfyngu mwg, tân, nwyon gwenwynig a thonnau ffrwydro trwy'r system awyru pan fo damwain yn digwydd.

Sefydlwyd y cwmni'n wreiddiol ym 1981, ac mae hi wedi mwynhau digon o lwyddiant domestig, ond ni ddechreuodd Flamgard fasnachu dramor tan ganol yr 80au. Dechreuodd ei siwrnai allforio ar ôl iddo ddenu sylw nifer o gwmnïau amlwladol yr oedd wedi bod yn gweithio gyda nhw ar brosiectau yn y DU ym Môr y Gogledd, a berodd iddynt ddewis defnyddio Flamgard ar gyfer prosiectau rhyngwladol diweddarach. Mae cangen allforio Flamgard wedi parhau i dyfu byth ers hynny.  

Tri-chwarter y gwerthiant o dramor

Erbyn heddiw, gwerthiannau rhyngwladol sydd i gyfrif am tua 75 y cant o fasnach Flamgard, gyda'r cwmni'n allforio cynnyrch i dros 10 o wledydd ar draws yr UE, Awstralia, UDA, De America a De-ddwyrain Asia. Mae gan y cwmni gontractau gydag enwau mawr y diwydiant gan gynnwys Chevron, Exxon mobile, Shell, BP, Siemens a Rolls Royce.

Yn fwyaf diweddar, mae'r cwmni wedi darparu damperau tân ar gyfer datblygiad alltraeth Greater Tortue Ahmeyium BP yng Ngogledd Affrica. Mae Flamgard yn gweithio gyda Golden Pass LNG, gan gyflenwi damperau chwyth ar gyfer ei safle yn Texas hefyd.

Nôl adref, mae Flamgard yn gweithio ar brosiect niwclear Hinkley Point C yng Ngwlad yr Haf lle mae'n gyfrifol am ddylunio a phrofi'r genhedlaeth nesaf o ddamperau awyru diogelwch critigol.  Yn ogystal, mae'r cwmni wedi llofnodi contractau gyda Thames Tideway yn ddiweddar i weithio ar y prosiect uwch garthffosydd £4.1bn yng Nghanol Llundain.

Y prosiectau newydd yma yw'r diweddaraf mewn cadwyn o gynlluniau uchel eu proffil ar gyfer Flamgard, sydd wedi chwarae rhan allweddol hefyd yn y gwaith hirdymor i wneud safle trychineb niwclear Chernobyl yn ddiogel, gan ddarparu damperau tân a systemau neilltuo ar gyfer y dom Cyfyngu Diogel Newydd ar y safle. Mae'r cwmni wedi cyflenwi cynnyrch ar gyfer system uchelgeisiol metro Riyadh yn Saudi Arabia hefyd, y disgwylir iddi gael ei chwblhau'r flwyddyn nesaf.

Allforion sy’n hanfodol ar gyfer cadernid

Yn ogystal â helpu i dyfu'r busnes dros y ddau ddegawd diwethaf, mae Flamgard yn gweld allforion fel rhywbeth sy'n allweddol i wytnwch y cwmni mewn cyfnodau anodd, gan ei gynorthwyo i amrywio ei farchnadoedd.

Mae Flamgard yn priodoli llawer o'i lwyddiant dramor i gymorth Llywodraeth Cymru. Mae'r cwmni wedi mynychu nifer o deithiau masnach ac arddangosfeydd a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys ymweliadau ag Abu Dhabi, Texas, Tokyo a Pharis, sydd wedi galluogi iddo feithrin cysylltiadau â chwmnïau yn y rhanbarthau hynny a diogelu nifer o gontractau yn y pen-draw, gan gynnwys gwaith gyda Siemens ac EDF.  Mae'r cwmni wedi cael cymorth hefyd i gyflawni gwaith ymchwil i'r farchnad er mwyn clustnodi cyfleoedd busnes dramor, a chyllid i'w gynorthwyo â gwaith ymchwil a datblygu.

Erbyn hyn mae Flamgard am hybu allforion eto fyth yn rhan o'i strategaeth dwf. Ei nod yw dyblu ei drosiant erbyn 2025, ac mae'n gweld allforio fel llwybr pwysig i gyflawni'r nod.

Dywedodd Shuresh Maran, Rheolwr Datblygu Busnes y cwmni: "Trwy allforio i nifer o leoliadau, â lledaeniad daearyddol a sectoraidd da, rydyn ni wedi sicrhau nad ydym yn hollol ddibynnol ar un farchnad yn unig. Mae hyn wedi bod yn hollbwysig wrth sicrhau ein gwytnwch er gwaetha'r sialensiau i'r sector olew a nwy, yn ogystal â'r pandemig.

“Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru wedi bod yn allweddol i'n hehangiad rhyngwladol, gan ein galluogi ni i fynd ar deithiau masnach amhrisiadwy na fyddem wedi gallu mynd arnynt fel arall oherwydd y cyfyngiadau ar ein cyllidebau teithio.  Maen nhw wedi ein cynorthwyo ni â gwaith ymchwil hanfodol i'r farchnad hefyd er mwyn deall pa sectorau a rhanbarthau y gallem weithio gyda nhw, lle mae cymorth ariannol wedi ein cynorthwyo ni â gwaith ymchwil a datblygu i'n galluogi i arloesi a chyflawni gofynion y prosiect.

“Hoffwn annog unrhyw gwmni sy'n ystyried allforio i gysylltu â nhw. Mae ganddynt gyfoeth o ymgynghorwyr arbenigol ar allforio sy'n gallu helpu eich cwmni a'ch cynhyrchion ar y llwyfan rhyngwladol.”

I gael rhagor o wybodaeth am Flamgard Calidair, ewch i: https://flamgard.co.uk/ 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen