Nick Davidson - FAW

Efallai bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru (yr FAW) yn cael ei chydnabod am ei llwyddiant diweddar yn cymhwyso ar gyfer pencampwriaethau mawr ond mae hefyd yn prysur gael ei hadnabod yn rhyngwladol am ei chymwysterau hyfforddi.

 

Mae’r FAW, sy'n cyflogi dros 150 o hyfforddwyr ledled Cymru, yn cynnig cyrsiau hyfforddi ar draws y byd. Dechreuodd y gymdeithas allforio ei chymwysterau hyfforddi pêl-droed yn dilyn llwyddiant Cymru yn Ewros 2016. Taniwyd diddordeb byd-eang mewn technegau hyfforddi Ewropeaidd, ac yn enwedig dull Cymru o ddatblygu chwaraewyr yn sgil llwyddiant y tîm.


Wedi'u cynllunio i addysgu ymgeiswyr yng ngofynion technegol, corfforol, seicolegol a chymdeithasol pêl-droed modern, mae'r cyrsiau hyfforddi yn gweithio i wella gallu’r chwaraewyr i gynllunio, paratoi, cyflwyno a myfyrio ar eu sesiynau hyfforddi.  Cyflwynir y dysgu drwy weithdai ar-lein, e-ddysgu a gwaith cwrs.


Ers Cwpan y Byd FIFA 2022, bu diddordeb cynyddol yn rhaglenni hyfforddi rhyngwladol corff llywodraethu pêl-droed Cymru, ac mae’r refeniw o werthu cyrsiau tramor wedi treblu dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae allforion yn cyfrannu mwy na £300,000 y flwyddyn at drosiant yr FAW, gyda'r gymdeithas yn allforio ei chymwysterau i Tsieina, Hong Kong, Gwlad Thai, Japan, Ynysoedd y Philipinau a'r Unol Daleithiau.


Trwy ei phartneriaethau newydd, mae’r FAW bellach yn bwriadu cynyddu ei masnach ryngwladol o 10% bob blwyddyn hyd at 2026. Mae'r targed yn cyd-fynd â strategaeth ehangach i dyfu ym marchnad yr UD cyn Cwpan y Byd 2026.


Mae  arbenigwyr masnach ryngwladol Llywodraeth Cymru wedi bod yn allweddol i lwyddiant allforio’r FAW.  Bu’r cynghorwyr allforio yn ymchwilio ac yn canfod cyfleoedd i werthu dramor ac yn nodi’r heriau posibl.


Mae’r FAW hefyd yn mynychu arddangosfeydd rhyngwladol yn rheolaidd fel rhan o wahanol deithiau masnach, i gwrdd â darpar gwsmeriaid ledled y byd. Mae hyn wedi arwain yn uniongyrchol at fusnes newydd.


Dywedodd Nick Davidson, Pennaeth Datblygu Busnes yr FAW: "Roeddem wedi bod yn ystyried allforio ein cyrsiau hyfforddi ers peth amser, ond heb anogaeth, cefnogaeth ariannol ac arbenigedd Llywodraeth Cymru, fydden ni ddim wedi cymryd y cam.


"Mae eu harbenigedd yn y farchnad wedi bod yn wirioneddol amhrisiadwy i ni. Mae’r cynghorwyr masnach ryngwladol wedi arbed amser ac egni i ni, gan ymchwilio i farchnadoedd newydd. Ac mae eu gwybodaeth fewnol wedi canfod cyfleoedd posibl sydd wedi arwain yn uniongyrchol at fusnes newydd i ni. Fel Gogledd Carolina, er enghraifft - doedd gennym ddim syniad pa mor broffidiol allai'r farchnad honno fod i ni hyd nes i Lywodraeth Cymru ein darbwyllo a'n galluogi i ddenu cleientiaid newydd yno.


 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen