Mae Air Covers yn Wrecsam yn arbenigo mewn dylunio a chynhyrchu gorchuddion amddiffynnol ar gyfer awyrennau, cychod a cherbydau sifil a milwrol.
Sefydlwyd Air Covers gan y pâr priod, John a Sasha Pattinson yn 2006, ac mae’r cwmni’n cyflenwi sefydliadau o’r sectorau preifat a chyhoeddus, gan gynnwys cwmnïau awyrennau masnachol, cynhyrchwyr badau hwylio moethus, y lluoedd arbennig ac asiantaethau amddiffyn. Mae’r gorchuddion yn helpu i amddiffyn awyrennau, cerbydau tir sych a badau môr rhag difrod cyrydiad, traul tywod, lleithder, halen, gwres ac ia, gan leihau’r angen am waith cynnal-a-chadw a gwella eu hargaeledd trwy hynny.
Heddiw, mae Air Covers yn allforio i dros 50 o wledydd ar draws Ewrop, America, y Dwyrain Canol, Awstralia, Seland Newydd ac Asia. Ymhlith cwsmeriaid allweddol y cwmni mae Airbus, Leonardo, General Dynamics, Babcock a Gweinyddiaeth Amddiffyn y DU, yn ogystal â gweithredwyr morwrol a gwasanaethau meddygol ym mhedwar ban y byd. Allforion sydd i gyfrif am 70% o fasnach y cwmni ar hyn o bryd, ac mae Air Covers yn gweld twf ar farchnadoedd rhyngwladol a domestig flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Gyda’u prif ffocws ar farchnadoedd Ewropeaidd, yn ddiweddar llofnododd y gweithgynhyrchwr gytundebau gyda Leonardo yn yr Eidal i ddarparu amddiffyniad ar gyfer platfformau hofrenyddion, yn ogystal â chontract gyda chynllun Eurofighter Llu Awyr yr Almaen i ddarparu gorchuddion amddiffynnol ar gyfer 75 o awyrennau.
Mae cymorth Llywodraeth Cymru wedi hwyluso llwyddiant allforio Air Covers yn sylweddol ers iddo gael ei sefydlu’n wreiddiol. Mae’r cymorth yma wedi caniatáu i’r cwmni fynychu nifer o deithiau masnach a sioeau rhyngwladol sydd, yn eu tro, wedi denu darpar-gwsmeriaid a sbarduno busnes newydd.
Dywedodd John Pattinson, sylfaenydd a rheolwr gyfarwyddwr Air Covers:
“Mae gweithio gyda Llywodraeth Cymru wedi ein cynorthwyo ni i ddyblu ein busnes allforio dros y pum mlynedd diwethaf, a hynny er gwaethaf sialensiau fel y pandemig. Gyda’u cymorth nhw, rydyn ni wedi mynychu amryw o deithiau masnach ac arddangosfeydd rhyngwladol sydd wedi bod yn allweddol i dwf ein hallforion.
“Mae arddangos mewn sioeau masnach wedi bod yn rhan allweddol o’n strategaeth allforio, a dyma’n prif ddull o ddiogelu busnes. Rydyn ni’n gweithio i fynychu o leiaf pedwar neu bump sioe bob blwyddyn am eu bod nhw’n hanfodol er mwyn i ni gyfarfod â darpar-gleientiaid ac adeiladu ar berthnasau sy’n bodoli eisoes. Maen nhw’n ein galluogi ni i weld y tueddiadau diweddaraf yn y diwydiant hefyd, ac i glywed o lygad y ffynnon pa broblemau mae peirianwyr a pheilotiaid yn eu hwynebu fel y gallwn barhau i wella ac addasu ein cynnyrch.
Wrth edrych tua’r dyfodol, mae Air Covers yn gobeithio targedu mwy o fusnes yn Ewrop, y Dwyrain Canol a Gogledd America, trwy gymryd rhan mewn teithiau masnach rithiol yn y rhanbarthau hyn dros y 12 mis nesaf. Mae arbenigwyr allforio Llywodraeth Cymru wedi chwarae rhan annatod wrth gyflwyno Air Covers i bobl gyswllt yn y rhanbarthau hyn, gan gynnwys cynrychiolwyr swyddfeydd y consyliaid perthnasol.
Nawr mae’r cwmni’n bwriadu defnyddio cronfa Ymweliadau Datblygu Busnes Tramor Llywodraeth Cymru, cronfa sydd wedi dod â llwyddiant iddo mewn meysydd eraill yn y gorffennol, i’w alluogi i ymweld â marchnadoedd sydd o ddiddordeb iddo â chymhorthdal.
Ychwanegodd John: “Bydden i’n argymell fod unrhyw allforiwr sydd am ehangu eu hallforion yn cysylltu â Llywodraeth Cymru am y gallan nhw gynnig pob math o gymorth i chi, boed hynny’n waith ymchwil a chyngor i ganfod y rhanbarthau a fyddai’n gweithio orau i’ch cwmni chi, cymorth i’ch cysylltu chi â phobl mewn marchnadoedd targed, neu’n syml i gynnig anogaeth.”