Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i gymryd rhan yn ei hymweliad marchnad allforio â Doha, Qatar. 
 


Pam Qatar?
Er bod Qatar yn wlad gymharol fach, mae hi gyda’r gyfoethocaf yn y byd gyda GDP y pen uchel iawn.  Mae’r farchnad gyfoethog hon â’i phoblogaeth ar gynnydd yn cynnig cyfleoedd i fusnesau o’r DU mewn amrywiaeth o sectorau.

Er ei chronfeydd olew a nwy anferth, mae’r llywodraeth am arallgyfeirio’r economi.  Yn Qatar y mae un o raglenni seilwaith mwyaf uchelgeisiol y byd.  Y bwriad yw buddsoddi hyd at £140 biliwn mewn seilwaith dros y 7 mlynedd nesaf.  Mae llawer o’r prosiectau’n ganlyniad i gynnal Cwpan y Byd yn 2022.

Qatar offers good export opportunities to Welsh businesses in the high value Manufacturing, life Science, clean energy and tech sectors.

Pam Mynd ar yr Ymweliad?
Bydd yn rhoi’r cyfle i chi i arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y farchnad hon.

Drwy fod yn rhan o’r ymweliad, byddwch yn elwa o’r canlynol:

• Ffordd gost effeithiol o ymweld â'r farchnad.
• Rhwydweithio a chysylltu â busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn y farchnad
• Rhannu gwybodaeth gydag eraill sy’n cymryd rhan
• Help gyda’r trefniadau teithio drwy asiant teithio penodedig
• Mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio
• Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata ar gyfer yr ymweliad

Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth* i gwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad hwn â marchnad allforio. Mae dau opsiwn cymorth ar gael ar gyfer yr ymweliad:

Cymorth o ran teithio yn unig
Mae’r gost yn £1,200. Mae hyn yn cynnwys:

• Hedfan allan ac yn ôl
• Trosglwyddiadau o fewn y farchnad
• Llety am 6 noson gyda brecwast
• Mynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad
• Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata

Os hoffech wneud y gorau o'ch amser yn y digwyddiad, gallwn gynnig cymorth i drefnu rhaglen o gyfarfodydd 3-4 i chi gan un o'n hymgynghorwyr busnes. Bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei gynnwys yn y costau uchod.

Mae’r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmni.

Mae recriwtio ar gyfer y digwyddiad yma bellach wedi cau

*Yn amodol ar fod yn gymwys.