Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i gymryd rhan yn ei hymweliad marchnad allforio â Charlotte a Greenville, Gogledd North and De Carolina, USA
Pam UDA?
UDA yw un o brif farchnadoedd allforio Cymru a dyma’r farchnad fwyaf yn y byd.
Mae UDA yn farchnad ddeniadol oherwydd ei phoblogaeth fawr, gefnog ac amrywiol. Ei heconomi sefydlog gyda rhwystrau rheoleiddio cymharol isel. Dyma'r farchnad dechnoleg fwyaf yn y Byd ac un o'r rhai sy'n gwario fwyaf ar ofal iechyd a chynhyrchion meddygol.
Mae UDA yn cynnig cyfleoedd allforio da i gwmnïau o Gymru yn y sectorau cynhyrchion defnyddwyr, technoleg a gwyddor bywyd.
PAM MYND AR Y RHITH-YMWELIAD?
Bydd yn rhoi’r cyfle i chi i arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y farchnad hon.
Drwy fod yn rhan o’r rhith-ymweliad, byddwch yn elwa o’r canlynol:
Ffordd gost-effeithiol o ymchwilio i’r farchnad heb orfod gadael eich swyddfa na’ch cartref
Golwg gyffredinol ar y farchnad a’r sefyllfa ddiweddaraf
Rhith-gyfarfod i dod i adnabod cysylltiadau busnes a phenderfynwyr defnyddiol yn y farchnad
Cymorth un-i-un gan ein cynrychiolydd yn y farchnad
Eich cynnwys mewn deunydd marchnata digidol.
Y GOST
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth* i gwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad hwn â marchnad allforio. Mae’r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmni. Mae’r gost yn £1,500.00. Mae hyn yn cynnwys:
- Hedfan allan ac yn ôl
- Trosglwyddiadau o fewn y farchnad
- Llety am 6 noson gyda brecwast
- Mynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad
- Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
MANYLION Y DIGWYDDIAD
Pryd: 16 - 22 Hydref - 2022
Sectorau: pob un (gan gynnwys Gweithgynhyrchu Falfiau Uchel)
Ble: Greenville, De Caroline, a Charlotte, Gogledd Carolina
Os hoffech wneud y gorau o'ch amser yn y digwyddiad, gallwn gynnig cymorth i drefnu rhaglen o gyfarfodydd 3-4 i chi gan un o'n hymgynghorwyr busnes. Bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei gynnwys yn y costau uchod.
Sylwch, os hoffech gael y cymorth hwn, yna rhaid i chi gyflwyno eich cais 8 wythnos cyn i’r ymweliad â marchnad allforio neu’r arddangosfa ymadael. Os cyflwynir eich cais ar ôl 22 Awst 2022, yna ni allwn warantu bod digon o amser i ddarparu'r cymorth ychwanegol hwn yn effeithiol.
Mae recriwtio ar gyfer y digwyddiad yma bellach wedi cau
*Subject to eligibility.