Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i arddangos gyda ni yn Arddangosfa Niwclear y Byd (WNE) 2020, Villepinte, Paris.
Pam yr arddangosfa hon?
WNE yw’r sioe fasnach fwyaf ar gyfer y sector niwclear, ac mae’n denu dros 730 o arddangoswyr o 65 o wledydd, sy’n amrywio o sefydliadau byd eang blaengar i gwmnïau bach. Mae dros 23,000 o bobl yn ymweld â’r sioe ac mae’n cynnig cyfleoedd allforio da i fusnesau Cymreig.
Pam mynd?
Bydd yr ymweliad hwn yn creu cyfle i chi gyflwyno eich cwmni, meithrin cysylltiadau defnyddiol a chynyddu eich allforion yn y sector hwn.
Trwy gymryd rhan yn yr ymweliad hwn byddwch yn elwa ar y canlynol:
- Dull cost effeithiol o ymweld â’r canlynol.
- Rhwydweithio ac ymwneud â busnesau allweddol a phobl sy’n gwneud penderfyniadau o fewn y farchnad
- Rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth gyda chyfranogwyr eraill
- Cymorth â threfniadau teithio drwy asiant teithio penodedig
- Cyfle i fynychu digwyddiadau rhwydweithio
- Cewch eich cynnwys mewn unrhyw ddeunyddiau marchnata
Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi* cwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad hwn â marchnad allforio. Gallwch fynychu’r digwyddiad hwn fel arddangosydd neu ymwelydd:
Y gost i arddangos fydd oddeutu £2,000 ar gyfer gofod cydarddangos ym Mhafiliwn Cymru neu oddeutu £750 y cynrychiolydd ar gyfer ymweld yn unig. **
- Teithiau awyr dwy ffordd a chludiant o’r maes awyr ac yn ôl yno
- Llety am 3/4 noson (yn cynnwys brecwast)
- Tocyn arddangos am 3 diwrnod
- Gofod arddangos a chofrestru i arddangos
Mae’r cynnig hwn ar gael i ddau gynrychiolydd y bob cwmni.
Gwasanaeth Trenu Cyarfordyyd
Os hoffech elwa i’r eithaf ar eich amser yn y digwyddiad gallwn gynnig cymorth drwy raglen o 3-4 o gyfarfodtydd ar eich cyfer a fydd wedi’u trefnu gan un o’n hymgynghorwyr busnes. Gallwn drefnu hyn am £500 neu fwy.
Nodwch: Os hoffech fanteisio ar y cymorth hwn, mae’n rhaid i chi gyflwyno eich cais 8 wythnos cyn yr ymweliad neu’r arddangosfa. Os caiff eich cais ei gyflwyno ar ôl 6 Hydref ni allwn warantu y bydd digon o amser i gynnig y cymorth ychwanegol hwn i chi
Cofrestru bellach ar gau