Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i gymryd rhan yn ei hymweliad marchnad allforio â JEC World ym Mharis, Ffrainc (yn amodol ar ganllawiau a diogelwch o ran Covid).
Pam JEC World?
JEC World yw un o’r prif sioeau masnach i’r diwydiant deunyddiau cyfansawdd. Mae’n denu dros 1,300 o arddangoswyr o 112 o wledydd, a mwy na 45,000 o ymwelwyr. Yn y sioe, ceir archwilio technolegau newydd, atebion newydd a datblygu busnes newydd. Mae JEC World yn cynnig cyfleoedd da i allforwyr o Gymru yn y sector uwch ddeunyddiau.
Pam Mynd ar yr Ymweliad?
Bydd yn rhoi’r cyfle i chi i arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y sector hwn.
Trwy fod yn rhan o’r ymweliad, byddwch yn elwa ar y canlynol:
- Ffordd gost effeithiol o ymweld â'r farchnad.
- Rhwydweithio a chysylltu â busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn y farchnad
- Rhannu gwybodaeth gydag eraill sy’n cymryd rhan
- Help gyda’r trefniadau teithio drwy asiant teithio penodedig
- Mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio
- Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth* i gwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad hwn â marchnad allforio. Ar gyfer y digwyddiad hwn, gallwch gymryd rhan naill ai fel arddangoswr neu fel ymwelydd:
Arddangoswr
Mae gofod arddangos ar ffurf pod ar gael ar y stondin, ochr yn ochr â chwmnïau arddangos a oedd wedi bwriadu arddangos yn nigwyddiad 2020 a gafodd ei ohirio.
Ni fydd Llywodraeth Cymru yn codi tâl am arddangos eleni. Mae pecyn teithio am bris gostyngol ar gael i chi am £1,000. Mae hyn yn cynnwys cymhorthdal gwerth 50% o’r gost tuag at:
- Hedfan allan ac yn ôl
- Llety am 3 noson (gyda brecwast)
- Stondin arddangos a chofrestru ar gyfer yr arddangosfa
- Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
Mae’r cynnig hwn ar gael ar gyfer hyd at ddau gynrychiolydd o bob cwmni.
Efallai y byddai’n well gennych ymweld â’r sioe am gyfnod byrrach, a chrwydro’r arddangosfa yn 2022. Mae hyn ar gael i chi hefyd:
Ymwelydd
Y gost yw £500. Mae hyn yn cynnwys cymhorthdal gwerth 50% o’r gost tuag at:
- Hedfan allan ac yn ôl.
- Llety am 3 noson (gyda brecwast)
- Pas ymwelydd
- Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
Mae’r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmni.
Os hoffech elwa i’r eithaf ar eich amser yn y digwyddiad, gallwn gynnig cymorth i drefnu rhaglen o 5-6 cyfarfod yn ystod y digwyddiad gan un o’n hymgynghorwyr busnes. Bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei gynnwys o fewn y costau uchod.
*Os ydych yn gymwys.
Mae recriwtio ar gyfer y digwyddiad yma bellach wedi cau
Dim ond nifer cyfyngedig o becynnau sydd ar gael ar gyfer yr arddangosfa hon: cofrestrwch yn gynnar rhag ichi gael eich siomi. Sylwer: oherwydd COVID-19 a chyfyngiadau teithio, gallai'r arddangosfa hon gael ei newid neu ei chanslo ar fyr rybudd. Dim ond yn amodol ar reoliadau diweddaraf Lywodraeth Cymru ac ar y cyfyngiadau yn y farchnad hon y caniateir teithio.