Bydd Llywodraeth Cymru yn bresennol yn InnoTrans 2024, Berlin, Yr Almaen
Pam InnoTrans?
Innotrans yw prif ffair fasnach y byd ar gyfer technoleg trafnidiaeth. Rhoddir sylw arbennig i dechnoleg trenau, seilwaith rheilffyrdd, trafnidiaeth gyhoeddus ac adeiladu twneli. Gyda thros 3,000 o arddangoswyr o 60 o wledydd a thros 153,000 o ymwelwyr, mae’n cynnig cyfleoedd allforio da i fusnesau Cymreig yn y sector.
Mae InnoTrans yn llenwi’r 42 o neuaddau sydd ar gael ar Dir Arddangos Berlin. Mae’r ardal arddangos awyr agored yn gartref i system draciau 3,500 metr, ac mae arddangosfeydd yn cynnwys nifer o drenau, locomotifau, cerbydau nwyddau, tramiau, cerbydau adeiladu a cherbydau dwyffordd. Mewn Arddangosfa Bysiau yn y Sommergrarten, mae gwneuthurwyr cerbydau yn arddangos bysiau, rhai sy’n llonydd a rhai sy’n gweithredu ar y cwrs arddangos 500 metr cyfagos.
Yn InnoTrans, mae gwaith arloesi ysbrydoledig a rhoi golwg gyntaf ar ddyfeisiau sy’n torri tir newydd wedi bod yn ychwanegu grym gwerthfawr at y diwydiant rheilffordd byd-eang.
Mae rhaglen o gynadleddau o ansawdd uchel yn cyd-fynd â’r arddangosfa.
Pam Mynd ar yr Ymweliad?
Bydd y digwyddiad yn rhoi’r cyfle i chi i arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y farchnad hon.
Drwy fod yn rhan o’r ymweliad, byddwch yn elwa o’r canlynol:
• Ffordd gost effeithiol o ymweld â'r farchnad.
• Rhwydweithio a chysylltu â busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn y farchnad
• Rhannu gwybodaeth gydag eraill sy’n cymryd rhan
• Help gyda’r trefniadau teithio drwy asiant teithio penodedig
• Mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio
• Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata ar gyfer yr ymweliad
Y Pecyn a’r Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth* i gwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad hwn â marchnad allforio. Ar gyfer y digwyddiad hwn, gallwch gymryd rhan un ai fel arddangoswr neu fel ymwelydd:
Arddangoswr
Mae’r gost yn £1,900. Mae hyn yn cynnwys:
• Man arddangos brand ar stondin Cymru
• Cymhorthdal o 50% tuag at deithio dwyffordd a llety am 4 noson gyda brecwast
• Tocyn arddangos ar gyfer un person
• Mynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad, yn cynnwys digwyddiadau rhwydweithio i fusnesau
• Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
• Mynediad i fan cyfarfod ar stondin Cymru
Gall ail gynrychiolydd fod yn bresennol am £900 ychwanegol. Cyfanswm y cymorth i ddau berson yw uchafswm o £2,800.
Ymwelydd
Mae mynychu fel ymwelydd yn rhoi'r rhyddid i chi gerdded y llawr a thargedu cwmnïau.
Mae’r gost yn £900. Mae hyn yn cynnwys:
• Cymhorthdal o 50% tuag at deithio dwyffordd
• Llety am 4 noson gyda brecwast
• Tocyn(nau) ymwelydd i’r sioe fasnach
• Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
• Mynediad i le storio a man cyfarfod ar stondin Cymru
• Y dewis o fynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad, yn cynnwys digwyddiadau rhwydweithio i fusnesau
Mae’r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmni.
Manylion y Digwyddiad
Pryd: 21 – 25 Medi 2026
Sectorau: Rheilffordd, technoleg trafnidiaeth
Ble: Berlin, Yr Almaen
Amserlen
21 Medi – Gadael am Berlin
22 – 25 Medi – InnoTrans
25 Medi – Dychwelyd i Gymru.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau:
1 Mai 2026 10:00
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau o fewn 24 awr - os nad ydych yn derbyn yr e-bost, cysylltwch â'r blwch post masnach - internationaltrade@llyw.cymru
*Os bydd lle ar gael.