Innotrans yw prif ffair fasnach y byd ar gyfer technoleg trafnidiaeth. Rhoddir sylw arbennig i dechnoleg trenau, seilwaith rheilffyrdd, trafnidiaeth gyhoeddus ac adeiladu twneli.  Gyda thros 3,000 o arddangoswyr o 60 o wledydd a thros 153,000 o ymwelwyr, mae’n cynnig cyfleoedd allforio da i fusnesau Cymreig yn y sector. 

 

Mae InnoTrans yn llenwi’r 42 o neuaddau sydd ar gael ar Dir Arddangos Berlin. Mae’r ardal arddangos awyr agored yn gartref i system draciau 3,500 metr, ac mae arddangosfeydd yn cynnwys nifer o drenau, locomotifau, cerbydau nwyddau,  tramiau, cerbydau adeiladu a cherbydau dwyffordd. Mewn Arddangosfa Bysiau yn y Sommergrarten, mae gwneuthurwyr cerbydau yn arddangos bysiau, rhai sy’n llonydd a rhai sy’n gweithredu ar y cwrs arddangos 500 metr cyfagos.


Yn InnoTrans, mae gwaith arloesi ysbrydoledig a rhoi golwg gyntaf ar ddyfeisiau sy’n torri tir newydd wedi bod yn ychwanegu grym gwerthfawr at y diwydiant rheilffordd byd-eang. Mae rhaglen o gynadleddau o ansawdd uchel yn cyd-fynd â’r arddangosfa. 


Bydd Llywodraeth Cymru yn bresennol yn InnoTrans 2024, Berlin (24-27 Medi).   Gallwch chi hefyd fod yn bresennol neu ymweld â’r sioe.

Pam Mynd ar yr Ymweliad?
Bydd y digwyddiad yn rhoi’r cyfle i chi i arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y farchnad hon.

Drwy fod yn rhan o’r ymweliad, byddwch yn elwa o’r canlynol:

  • Ffordd gost effeithiol o ymweld â'r farchnad. 
  • Rhwydweithio a chysylltu â busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn y farchnad
  • Rhannu gwybodaeth gydag eraill sy’n cymryd rhan
  • Help gyda’r trefniadau teithio drwy asiant teithio penodedig
  • Mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio
  • Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata ar gyfer yr ymweliad

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth* i gwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad hwn â marchnad allforio.  Ar gyfer y digwyddiad hwn, gallwch gymryd rhan un ai fel arddangoswr neu fel ymwelydd:  

Arddangoswr
Mae’r gost yn £1,900.  Mae hyn yn cynnwys:

  • Man arddangos brand ar stondin Cymru 
  • Cymhorthdal o 50% tuag at deithio dwyffordd a llety am 4 noson gyda brecwast
  • Tocyn arddangos ar gyfer un person
  • Mynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad, yn cynnwys digwyddiadau rhwydweithio i fusnesau
  • Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
  • Mynediad i fan cyfarfod ar stondin Cymru

Gall ail gynrychiolydd fod yn bresennol am £900 ychwanegol. Cyfanswm y cymorth i ddau berson yw uchafswm o £2,800.

Ymwelydd
Mae mynychu fel ymwelydd yn rhoi'r rhyddid i chi gerdded y llawr a thargedu cwmnïau.  
Mae’r gost yn £900.  Mae hyn yn cynnwys:

  • Cymhorthdal o 50% tuag at deithio dwyffordd
  • Llety am 4 noson gyda brecwast  
  • Tocyn(nau) ymwelydd i’r sioe fasnach
  • Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata 
  • Mynediad i le storio a man cyfarfod ar stondin Cymru
  • Y dewis o fynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad, yn cynnwys digwyddiadau rhwydweithio i fusnesau

Mae’r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmni.