Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i gymryd rhan yng Nghynhadledd Rithwir a Sioe Fasnach Cymdeithas Niwclear Canada, 12-14 Ebrill 2022.
Pam Cymdeithas Niwclear Canada?
Ni all nod Canada o gyflawni allyriadau sero net erbyn 2050 ond gael ei gyflawni drwy ddatblygiadau blaengar ym maes cynhyrchu ynni glân.
Mae disgwyl i’r diwydiant niwclear chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o drawsnewid systemau ynni ledled y byd, gydag adweithyddion modiwlaidd bach (SMRs), datblygiadau mewn hydrogen ac isotopau, a datblygiadau arloesol eraill. Mae Cynhadledd a Sioe Fasnach flynyddol eleni yn archwilio'r prosiectau a thechnolegau blaengar sy'n addo gwneud diwydiant niwclear Canada yn rhan anhepgor o'n dyfodol ynni glân.
Bydd CNA2021 yn cael ei chynnal mewn gofod rhithwir ond bydd yn dal i gynnwys amrywiaeth eang o siaradwyr a phanelwyr blaenllaw. Bydd seminarau gydag arbenigwyr a hyrwyddwyr y diwydiant niwclear hefyd ar gael er mwyn rhoi llwyfan i syniadau a mewnwelediadau newydd.
Rydyn ni’n gobeithio cynnwys ymweliadau â safleoedd CNL a Bruce Power cyn y Gynhadledd. Bydd hyn yn dibynnu ar y tywydd a’r trefniadau teithio, felly gallai amserau’r daith newid ond rhagwelir y byddwn yn gadael y DU ar 8 Ebrill 2022.
Pam Mynychu?
Bydd yr ymweliad hwn yn rhoi cyfle i chi arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a chynyddu eich allforion yn y sector hwn.
Trwy gymryd rhan yn y digwyddiad rhithwir hwn byddwch yn elwa ar y canlynol:
- Trwy gymryd rhan yn yr ymweliad hwn byddwch yn elwa ar y canlynol:
- Dull cost effeithiol o ymweld â’r canlynol.
- Rhwydweithio ac ymwneud â busnesau allweddol a phobl sy’n gwneud penderfyniadau o fewn y farchnad
- Rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth gyda chyfranogwyr eraill
- Cymorth â threfniadau teithio drwy asiant teithio penodedig
- Cyfle i fynychu digwyddiadau rhwydweithio
- Cewch eich cynnwys mewn unrhyw ddeunyddiau marchnata
Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi* cwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad hwn â marchnad allforio. Gallwch fynychu’r digwyddiad hwn fel arddangosydd neu ymwelydd:
Y gost i arddangos fydd oddeutu £3,500.00 (Mae’r cynnig hwn ar gael i ddau gynrychiolydd y bob cwmni) ar gyfer gofod cydarddangos ym Mhafiliwn Cymru neu oddeutu £1,750.00 y cynrychiolydd ar gyfer ymweld yn unig. **
- Teithiau awyr dwy ffordd a chludiant o’r maes awyr ac yn ôl yno
- Llety am hyd at 7 noson (yn cynnwys brecwast)
- Tocyn arddangos am 3 diwrnod
- Gofod arddangos a chofrestru i arddangos
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau fydd 18 Mawrth 2022.
* Yn amodol ar gymhwystra.