Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i arddangos gyda ni yn Arddangosfa Niwclear y Byd 2020, Villepinte, Paris o 30 Tachwedd hyd 2 Rhagfyr 2021.  

Pam yr arddangosfa hon?

Arddangosfa Niwclear y Byd yw’r sioe fasnach fwyaf ar gyfer y sector niwclear, ac mae’n denu dros 730 o arddangoswyr o 65 o wledydd, sy’n amrywio o sefydliadau byd-eang blaengar i gwmnïau bach. Mae dros 23,000 o bobl yn ymweld â’r sioe ac mae’n cynnig cyfleoedd allforio da i fusnesau Cymreig.

Pam mynychu? 

Bydd yr ymweliad hwn yn creu cyfle i chi gyflwyno eich cwmni, meithrin cysylltiadau defnyddiol a chynyddu eich allforion yn y sector hwn.

Trwy gymryd rhan yn yr ymweliad hwn byddwch yn elwa ar y canlynol:

  • Dull cost effeithiol o ymweld â’r canlynol.
  • Rhwydweithio ac ymwneud â busnesau allweddol a phobl sy’n gwneud penderfyniadau o fewn y farchnad
  • Rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth gyda chyfranogwyr eraill
  • Cymorth â threfniadau teithio drwy asiant teithio penodedig
  • Cyfle i fynychu digwyddiadau rhwydweithio
  • Cewch eich cynnwys mewn unrhyw ddeunyddiau marchnata

Y Gost

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi* cwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad hwn â marchnad allforio. Gallwch fynychu’r digwyddiad hwn fel arddangosydd neu ymwelydd:

Y gost i arddangos fydd oddeutu £1,700.00 ar gyfer gofod cydarddangos ar Bafiliwn Cymru neu oddeutu £600.00 ar gyfer ymweld yn unig. **

  • Teithiau awyr dwy ffordd a chludiant o’r maes awyr ac yn ôl yno
  • Llety am 3/4 noson (yn cynnwys brecwast)
  • Tocyn arddangos am 3 diwrnod
  • Gofod arddangos a chofrestru i arddangos

Mae’r cynnig hwn ar gael i ddau gynrychiolydd y bob cwmni. 

** Bydd y costau’n dibynnu ar nifer yr arddangoswyr.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau fydd yn 15 Hydref 2021

* Yn amodol ar gymhwystra.

Dim ond nifer cyfyngedig o becynnau sydd ar gael ar gyfer yr arddangosfa hon: cofrestrwch yn gynnar rhag ichi gael eich siomi. Sylwer: oherwydd COVID-19 a chyfyngiadau teithio, gallai'r arddangosfa hon gael ei newid neu ei chanslo ar fyr rybudd. Dim ond yn amodol ar reoliadau diweddaraf Lywodraeth Cymru ac ar y cyfyngiadau yn y farchnad hon y caniateir teithio.