Hoffai Llywodraeth Cymru eich gwahodd i gymryd rhan yng Nghynhadledd ADIPEC 2026.

Pam ADIPEC?
Mae ADIPEC yn blatfform rhyngwladol sy’n dod â chynhyrchwyr ynni byd-eang, defnyddwyr, ac arloeswyr ynghyd i gyflymu datrysiadau cyffrous a chynnydd trawsnewidiol ar gyfer dyfodol ynni.

Dyma arddangosfa allweddol ar gyfer busnesau yn y sector ynni, ac mae’n cynnig cyfleoedd allforio da i fusnesau o Gymru, a bydd dros 2,250+ o arddangoswyr o 60 o farchnadoedd a thros 205,000 o bobl yn mynychu.

Pam ddylech gymryd rhan yn ADIPEC?
Bydd yn rhoi’r cyfle i chi i arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y farchnad hon.

Drwy fod yn rhan o’r ymweliad, byddwch yn elwa ar y canlynol:

•    Ffordd gost effeithiol o ymweld â'r farchnad. 
•    Rhwydweithio a chysylltu â busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn y farchnad
•    Rhannu gwybodaeth gydag eraill sy’n cymryd rhan
•    Help gyda’r trefniadau teithio drwy asiant teithio penodedig
•    Mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio
•    Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
 

Pwy all ymgeisio? 
•    Cwmnïau sy’n gwerthu cynnyrch, gwasanaeth neu gysyniad sy’n cyfrannu at waith trawsnewid Cymru yn wlad sero net.

•    Cwmnïau yn y gadwyn gyflenwi ynni sy’n cefnogi ymdrechion i weithio at effeithlonrwydd ynni neu allyriadau, iechyd a diogelwch, gwelliannau cymdeithasol ac amgylcheddol, neu ddiwygio’r farchnad ynni.

•    Cwmnïau sy’n cefnogi’r gwaith o ddatgomisiynu asedau ynni tanwydd ffosil presennol.

•    Prosiectau Dal a Storio Carbon (CCS), neu brosiectau Dal, Defnyddio a Storio Carbon (CCUS).

•    Rhaid i gwmnïau ddangos eu cyfraniad at waith trawsnewid Cymru i sero net mewn unrhyw negeseuon marchnata neu hyrwyddo.
 

Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth* i gwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad hwn â marchnad allforio. Ar gyfer y digwyddiad hwn, gallwch gymryd rhan naill ai fel arddangoswr neu fel ymwelydd: 

Arddangoswr - Mae'r gost arddangos naill ai yn £6,000 am stondin mawr neu’n £4,800* am uned fetr sgwâr.
•    Tocynnau hedfan dwyffordd 
•    Y daith o’r maes awyr ac yn ôl yn yr UAE (os teithiwch gyda'r grŵp)
•    Llety am 6 noson gyda brecwast (Dydd Sul – Dydd Gwener)
•    Tocyn i’r arddangosfa 
•    Stondin arddangos a chofrestriad ar gyfer yr arddangosfa
•    Mynediad ar-lein/catalog 
•    Mynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad
•    Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
 

Mae’r cynnig hwn ar gael i ddau gynrychiolydd o bob cwmni. 

Ymwelydd - Y gost yw £1,800*. Mae hyn yn cynnwys:

•    Hediad allan ac yn ôl a throsglwyddiadau o fewn y farchnad i’r maes awyr
•    Llety am 6 noson gyda brecwast (Dydd Sul – Dydd Gwener)
•    Tocyn ymwelydd
•    Mynediad i stondin Cymru
•    Mynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad
•    Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
 

Cynigir y cyfle hwn i un cynrychiolydd yn unig o bob cwmni.

Manylion y Digwyddiad
Pryd – 31 Hydref – 6 Tachwedd 2026
Sectorau – Ynni, Ynni Glân
Ble - Abu Dhabi, UAE
 

Trefn
31 Hydref – Gadael am Abu Dhabi
2–5 Tachwedd – ADIPEC/Cyfle i gwmnïau drefnu eu cyfarfodydd eu hunain / dilyn rhaglen wedi’i threfnu o gyfarfodydd
6 Tachwedd – Dychwelyd i Gymru
 

Gwasanaeth Trefnu Cyfarfodydd

Os hoffech wneud y gorau o'ch amser yn y digwyddiad, gallwn gynnig cymorth i drefnu rhaglen o 3–4 gyfarfodydd i chi gan un o'n hymgynghorwyr busnes. Mae cost y gwasanaeth hwn yn dechrau ar £500.

 

Sylwch, os hoffech y cymorth hwn,  rhaid i chi gyflwyno eich cais ddeg wythnos cyn i ymweliad y farchnad allforio neu'r arddangosfa ymadael. 

 

Os cyflwynir eich cais ar ôl 21 Awst 2026, yna ni allwn warantu y bydd digon o amser i ddarparu'r cymorth ychwanegol hwn yn effeithiol.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau:
21 Awst 2026 (Teithio a chyfarfodydd a drefnwyd ymlaen llaw)
3 Hydref 2026 (Teithio yn unig)
 

Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau o fewn 24 awr - os nad ydych yn derbyn yr e-bost yma neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y daith fasnach cysylltwch â'n blwch Masnach Ryngwladol - internationaltrade@llyw.cymru 

*Yn amodol ar gymhwysedd.

*Mae ffi arddangoswr yn destun TAW

 

Rydyn ni bellach yn derbyn ceisiadau ar gyfer y digwyddiad hwn.

Ar ôl 18 Mehefin 2026, nid yw Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu Llywodraeth (FCDO) y DU bellach yn cynghori peidio teithio i’r UAE oni bai bod gwir angen – fodd bynnag, mae’r sefyllfa ddiogelwch yn parhau i gael ei monitro’n agos. Mae’r cyngor hwn ar gael yn United Arab Emirates travel advice - GOV.UK.

Os bydd amgylchiadau’n newydd, neu os bydd yr FCDO yn ailgyflwyno’r cyfyngiadau teithio, mae’n bosibl y bydd y daith fasnach yn cael ei chanslo neu ei gohirio ar fyr rybydd. Os bydd hyn yn digwydd byddwn yn gweithio gyda threfnwyr y sioe ac ymgeiswyr i benderfynu beth yw’r ffordd orau o gefnogi pob ymgeisydd yn yr amgylchiadau sy’n bodoli ar y pryd.