Pel-droed yn y Gymuned – Llandudno (FITC)

Young child kicking a Football

#UnClwbUnGymuned

Rydym yn darparu cyfleusterau arwain dosbarthiadau, gan gynnwys ystafell gyfrifiaduron lawn, a chae pêl-droed 3g

  • Rydym yn sefydliad nid er elw sy’n ceisio, trwy effaith ddylanwadol pêl-droed, dod â newid cadarnhaol i’n cymuned leol

  • 19,000 Nifer y plant a gyrhaeddwyd yn ystod 2015/16

  • 19 o sesiynau pêldroed a gyflwynwyd bob wythnos

  • Byddwn yn ymgysylltu ag ysgolion uwchradd ac yn cynnal mwy o raglenni yn yr ardal, i gynyddu ein cyrhaeddiad a’n heffaith gymdeithasol

"Mae Busnes Cymdeithasol Cymru wedi bod yn rhan o'n tîm ers y cychwyn cyntaf. Yn ogystal â'n helpu i sefydlu ein Menter Gymdeithasol trwy Ymgorffori, mae wedi cefnogi ein twf dros y saith mlynedd diwethaf, ac yn parhau i wneud hynny heddiw. Mae pêl-droed yn ffordd bwerus iawn o ymgysylltu â phobl, ac mae poblogrwydd enfawr y gamp, yn lleol ac yn genedlaethol, yn golygu bod modd ei defnyddio i sicrhau newid cadarnhaol mewn cymunedau. Gyda'n gilydd, ein nod yw defnyddio pŵer pêl-droed a chwaraeon i sicrhau'r newid hwnnw".

Tracey Jones, Rheolwr Prosiectau yn Llandudno FCITC

Children playing Football

Yn aml, mae ehangu’n digwydd yn organig, ond bydd hynny’n golygu heb gynllunio priodol, diwydrwydd a dadansoddiad risg, yna gall arwain at drafferth. Os yw’ch busnes eisiau cynyddu trosiant neu ehangu ei wasanaethau i faes neu farchnad newydd, gall Busnes Cymdeithasol Cymru helpu.

I gael mwy o wybodaeth am ein cymorth teilwredig, rhad ac am ddim, ffoniwch 03000 6 03000 a gofynnwch am Fusnes Cymdeithasol Cymru.