Am y lleoliad
Bydd Stadiwm Liberty yn Abertawe yn croesawu cynhadledd a gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru.
Teithio mewn car:
Os byddwch yn teithio'n syth i'r Stadiwm ac yn defnyddio system llywio â lloeren, defnyddiwch y cod post: SA1 2FA
Dilynwch yr M4 i gyfeiriad Abertawe
Gadewch yr M4 wrth Gyffordd 45
Cadwch i'r chwith, gan gymryd yr A4067 i gyfeiriad Canol y Ddinas
Dilynwch yr arwyddion ar gyfer y Stadiwm am ryw chwe milltir, yna byddwch yn gweld y Stadiwm ar eich ochr chwith
Mae'r fynedfa i faes parcio'r Stadiwm wrth fynedfa Parc Manwerthu Morfa. Dilynwch y ffordd heibio i fwyty Frankie & Benny's, a chymerwch y troad cyntaf i'r chwith
Mae maes parcio ar gael yn y lleoliad. Os oes arnoch angen man parcio anabl, anfonwch e-bost at events@wales.coop i drefnu hyn ymlaen llaw.
Cludiant Cyhoeddus
Mae Gorsaf Reilffordd Abertawe 15 munud i ffwrdd ar droed o'r Stadiwm. I gael amserau'r trenau, ewch i www.nationalrail.co.uk.
Llety
Er mwyn i gynadleddwyr gael cymaint o hyblygrwydd a rheolaeth â phosibl dros eu cyllideb, dylent wneud eu trefniadau llety eu hunain. Y gwestai cadwyn agosaf i'r Stadiwm yw Premier Inn Gogledd Abertawe (3 milltir) a Mercure Abertawe (1.9 milltir). Am awgrymiadau eraill ac adolygiadau gan rai sydd wedi aros yno, ewch i Trip Advisor.
Gennych gwestiwn am sut mae cyrraedd y lleoliad? Anfonwch e-bost at events@wales.coop
I gofrestru eich lle yng Nghynhadledd a Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2016: