Gweithdai

Women talking around a table

Mae’r sesiynau grŵp hyn, a gyflwynir gan arweinwyr yn y sector busnes cymdeithasol, wedi’u bwriadu’n benodol i ddarparu ysbrydoliaeth, syniadau a sgiliau ymarferol i fentrau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol a chwmnïau cydfuddiannol a fydd yn eu galluogi i dyfu a bod yn fwy cynaliadwy. 

Sylwer: ailadroddir y gweithdai yn ystod y dydd, felly bydd cyfle i gynrychiolwyr fynd i fwy nag un sesiwn.

1. Sut i gyflwyno ac ysbrydoli

Cyflwynydd: Ruth Anslow, cydsylfaenydd hiSbe

A minnau’n gydsylfaenydd hiSbe Food, rwy’ wedi profi uchafbwyntiau, isafbwyntiau, peryglon a maglau cyflwyno! Rwy’n gwybod sut gall y ffordd rydych chi’n cyflwyno’ch menter gymdeithasol i bobl wneud gwahaniaeth rhwng cyffroi pobl ynglŷn â’ch cefnogi chi, neu weld yr olwg farwaidd honno ar ochr arall y ddesg. Felly, rwy’n mynd i rannu’r hyn yr wyf i wedi’i ddysgu am gyflwyno’n llwyddiannus, i’ch helpu i greu cyflwyniad sy’n ysbrydoli pobl.

2. Amrywiaethu eich ffrydiau incwm

Cyflwynwyr: Gofal Enterprise, Vi-Ability, Greenwillow Funerals, Down to Earth

Mae amrywiaethu’n anoddach na’r dewis “mwy o’r un peth” i fusnesau cymdeithasol oherwydd ei fod yn golygu datblygu a darparu cynhyrchion neu wasanaethau y tu hwnt i’r hyn sy’n gyfforddus iddynt ar hyn o bryd. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn amrywiaethu eich ffrydiau incwm ond nid ydych yn gwybod ble i ddechrau, dyma’r sesiwn i chi. Bydd panel o arbenigwyr wrth law i ateb eich cwestiynau yn ystod y drafodaeth bord gron hon a fydd yn canolbwyntio ar arfer gorau a rhannu dysgu mewn perthynas ag amrywiaethu.

3. Achub y blaen: Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Cyflwynydd: Andy Middleton, Sylfaenydd Gyfarwyddwr, Grŵp TYF

Mae’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cynrychioli newid sylweddol i’r sector menter gymdeithasol – mae’n gosod dyletswydd ar y llywodraeth i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae cynaliadwyedd ac effaith gymdeithasol eisoes wrth wraidd ein harferion busnes. Felly, sut gallwn droi’r gwerthoedd hynny’n gyfleoedd busnes newydd a gwneud yn siwr mai ni yw’r dewis cyntaf wrth sicrhau contractau newydd mawr a gaffaelir gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol? Bydd y gweithdy hwn, a arweinir gan yr entrepreneur cymdeithasol a’r meddyliwr strategol, Andy Middleton, yn archwilio’r cyfleoedd cyffrous sydd i ddod.

4. Gwneud eich gwefan yn ased

Cyflwynydd: Rebecca Rae, Reason Digital

Mae Rebecca Rae, sef Pennaeth Strategaeth a Dealltwriaeth yr asiantaeth ddigidol a’r fenter gymdeithasol Reason Digital, yn cyflawni canlyniadau pendant yn y sector elusennau, codi arian a dielw. Fe’i henwyd ymhlith y ’30 menyw bwysicaf dan 30 oed yn y sector digidol’ gan gylchgrawn Drum, ac mae gan Rebecca lawer o brofiad o rannu gwybodaeth, ffurfio syniadau newydd a herio’r sefyllfa bresennol. Yn y gweithdy hwn, bydd Rebecca yn edrych ar y camau ymarferol y gall busnesau cymdeithasol eu cymryd i wneud eu gwefan yn ased gwerthfawr sy’n cyflymu twf ac effaith gymdeithasol.

5. Rheoli ymgysylltu â gweithwyr yn ystod adeg o newid

Cyflwynwyr: Busnes Cymdeithasol Cymru, Grŵp Arup, Canolfan Hamdden Splash Magic

Gall trosglwyddo asedau cymunedol, cyfuno a chaffael neu berchenogaeth gan weithwyr achosi i lawer o weithwyr deimlo’n ddryslyd neu’n ansicr ynglŷn â’u lle yng nghyfeiriad newydd y sefydliad. Gallai ansicrwydd a gwrthdaro o ran rolau arwain at oedi wrth gyflawni nodau tra bod prosesau penderfynu a chyllidebau newydd yn cael eu datblygu. Bydd y gweithdy hwn, a arweinir gan Fusnes Cymdeithasol Cymru, Grŵp Arup (a berchenogir gan weithwyr) ac Ymddiriedolaeth Hamdden Splash Magic (trosglwyddo ased cymunedol), yn mynd i’r afael â’r canlynol:

Beth yw ymgysylltu â gweithwyr, a pham mae’n bwysig?

Beth sy’n digwydd i ymgysylltu â gweithwyr yn ystod gwahanol fathau o newid?

Beth all sefydliadau ei wneud i ddeall a rheoli ymgysylltu â gweithwyr yn ystod adeg o newid?

6. Yn gryfach gyda’n gilydd trwy Waith Consortia

Gall unig fasnachwr neu fusnes bach a chanolig wella ei refeniw, ei broffidioldeb a’i statws, yn ogystal â lleihau ei sylfaen gostau, trwy sefydlu consortia gyda busnesau eraill. Rydym ni ym Musnes Cymdeithasol Cymru yn annog busnesau i ffurfio consortia cydweithredol er mwyn hybu cadwyni cyflenwi byr, gwella cystadleugarwch busnesau a datblygu marchnadoedd lleol. Bydd y gweithdy hwn, a gyflwynir gan ein harbenigwyr mewnol, yn edrych yn fanwl ar sut gall busnesau cymdeithasol weithio gyda’i gilydd yn fwy llwyddiannus i ennill contractau gwasanaeth cyhoeddus a allai ddwyn llawer o elw.

PDF icon

I gofrestru eich lle yng Nghynhadledd a Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2016:

Cliciwch yma