Y Prif Siaradwyr

Ken Skates smiling

Mae ein prif siaradwyr yn dod o amrywiol gefndiroedd – llywodraeth, y sector preifat, y sector cyhoeddus a mentrau cymdeithasol – ond byddant oll yn rhoi safbwynt ysbrydoledig a heriol ar rôl busnesau cymdeithasol dynamig mewn Cymru ffyniannus a llewyrchus.  

Ken Skates AM, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith

Cafodd Ken Skates ei eni yn Wrecsam ym 1976 a’i addysgu yn Ysgol Alun, yr Wyddgrug. Aeth ymlaen i astudio Gwyddor Cymdeithasol a Gwleidyddol ym Mhrifysgol Caergrawnt. Yn ei amser rhydd, mae’n mwynhau rhedeg, nofio, heicio a golff yn ogystal â’i ddiddordeb mewn garddio, celf a dylunio pensaernïol. Arferai Ken fod yn newyddiadurwr ac roedd yn gynorthwyydd i Mark Tami AS. Yn 2008, cafodd ei ethol yn gynghorydd cymuned. Mae diddordebau Ken yn cynnwys gweithgynhyrchu, iechyd meddwl, chwaraeon a hamdden, dileu tlodi ac economi wleidyddol. Mae ei ddiddordebau gwleidyddol yn cynnwys hyfforddiant sgiliau, twristiaeth, diogelu’r amgylchedd, iechyd meddwl, chwaraeon a ffitrwydd a chynhwysiant cymdeithasol. Ym Mis Mehefin 2013, penodwyd Ken Skates yn Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg. Ym Mis Medi 2014, penodwyd Ken yn Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Ym mis Mai 2016 penodwyd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith.

Sophie Howe

Cafodd Sophie Howe ei phenodi'n Gomisiynydd cyntaf Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ym mis Chwefror 2016. Ei rôl yw gweithredu fel gwarcheidwad buddiannau cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru, a chefnogi'r cyrff cyhoeddus a restrir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i weithio tuag at gyflawni'r nodau llesiant. Cyn y rôl hon, Sophie oedd Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu cyntaf De Cymru. Yn y rôl hon, bu'n arwain rhaglenni i fynd i'r afael â throseddu treisgar a thrais yn erbyn menywod a merched, gan ganolbwyntio ar ymyrraeth gynnar a gweithio mewn partneriaeth. Diwygiodd raglenni ar gamddefnyddio sylweddau a rheoli troseddwyr a negydodd y rhaglen waith a rennir gyntaf rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru a Heddlu De Cymru. Mae Sophie hefyd wedi gweithio fel Cynghorwr Arbennig i'r Llywodraeth gan roi cyngor polisi a gwleidyddol ar gymunedau, llywodraeth leol, diogelwch cymunedol, tai, adfywio a chydraddoldeb. Ar hyn o bryd mae'n aelod o Bwyllgor Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Andy Middleton

Andy  yw Cyfarwyddwr Sefydlol TYF Group, sef menter gymdeithasol arloesol a gweledigaethol sydd wedi’i lleoli yn Nhyddewi, Sir Benfro. Mae TYF yn gorfforaeth fuddiannau sydd â chenhadaeth i hyfforddi chwyldroadwyr - gan roi’r ysgogiad a’r brwdfrydedd i rieni, teuluoedd, timau ac arweinwyr o bob sector newid y ffordd y maent yn chwarae, yn meddwl ac yn ymgysylltu â natur. Mae nodau TYF yn cynnwys helpu busnesau i fanteisio i’r eithaf ar effaith eu gweithgareddau cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol ar gyfer y gymuned a chenedlaethau’r dyfodol. Mae Andy yn Aelod o Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn aelod o Gyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi. Fel Partner Sefydlol ‘Do Lectures’ a chydlynydd ‘Do Collective’, mae’n cydweithio â sefydliadau i gysylltu’r hyn y maent yn ei wneud â chyflymder a graddfa’r newid sydd ei angen, gan fanteisio ar 25 mlynedd o brofiad mewn mentro, dysgu gweithredol, bioddynwarededd a chynaliadwyedd. Yn ogystal â rhannu ei brofiad o reoli un o fusnesau twristiaeth antur enwocaf y DU yn rheolaidd, mae Andy wedi cyflwyno prif sgyrsiau ar sawl achlysur ar gyfer Croeso Cymru a Llywodraeth Cymru yng Nghymru, Tsieina, Hong Kong ac India ar arloesi, arweinyddiaeth a chynaliadwyedd.

Rachael Flanagan

Mae Rachael, sef Cyfarwyddwr Sefydlol Mrs Bucket, yn entrepreneur ifanc arobryn ac enwog sydd â stori anhygoel o ran twf busnes. Yn 16 oed, nid oedd gan Rachael unrhyw syniad beth yr hoffai ei wneud, ond ymyrrodd ffawd un diwrnod pan na ddaeth eu glanhawr domestig, a chynigiodd Rachael i lanhau ar gyfer ei mam. Naw mlynedd yn ddiweddarach, trwy waith caled a chraffter busnes da, mae gan Rachael 200 o staff sy’n gwasanaethu dros 150 o adeiladau masnachol bob dydd.
I gydnabod ei llwyddiant busnes, mae Rachael wedi mynychu derbyniadau arbennig â chyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus Cheryl Gillan AS, a’r Prif Weinidog yn 10 Downing Street. Ar ddechrau 2014, cafodd Rachael ei dewis gan Dywysog Cymru fel un o bobl fusnes flaenllaw Cymru i fynychu digwyddiad dathliadol yn ystod uwchgynhadledd NATO. Mae Rachael yn siaradwr cyfareddol ac ysbrydoledig, ac mae’r brwdfrydedd sydd ganddi tuag at fusnes yn heintus.

Further keynote speakers are still to be announced.

PDF icon

I gofrestru eich lle yng Nghynhadledd a Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2016:

Cliciwch yma