Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i gymryd rhan yn ei hymweliad marchnad allforio â Toronto a Montreal, Canada.
Pam Canada?
Mae Canada ymysg y 10 marchnad allforio uchaf yng Nghymru. Mae ganddi gysylltiadau diwylliannol, hanesyddol a ieithyddol da gyda’r Deyrnas Unedig, ac mae’n cynnig amgylchedd gyfarwydd a hygyrch i funsesau o Gymru sydd am ehangu yn rhyngwladol.
Mae'r cytundeb masnach rhwng y DU a Chanada yn parhau i gefnogi a gwella cysylltiadau masnach, gan greu platfform sefydlog sy'n tyfu i allforwyr.
Mae Canada yn cynnig cyfleoedd allforio da i gwmnïau Cymreig ym mhob sector.
Pam Mynd ar yr Ymweliad?
Bydd yn rhoi’r cyfle i chi i arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y farchnad hon.
Drwy fod yn rhan o’r ymweliad, byddwch yn elwa o’r canlynol:
• Ffordd gost effeithiol o ymweld â'r farchnad.
• Rhwydweithio a chysylltu â busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn y farchnad
• Rhannu gwybodaeth gydag eraill sy’n cymryd rhan
• Help gyda’r trefniadau teithio drwy asiant teithio penodedig
• Mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio
• Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata ar gyfer yr ymweliad
Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth* i gwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad hwn â marchnad allforio.
Mae’r gost yn £1,650.00. Mae hyn yn cynnwys:
• Hedfan allan ac yn ôl
• Trosglwyddiadau o fewn y farchnad (os yn teithio gyda’r grŵp craidd)
• Llety am 5 noson gyda brecwast
• Mynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad
• Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
Mae’r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmni.
Manylion y Digwyddiad
Pryd - 22 – 28 Chwefror 2026
Sectorau – Aml- sector
Ble – Toronto a Montreal, Canada
Trefn
22 Chewfror– Gadael am Toronto
23-25 Chwefror – Cyfle i gwmnïau drefnu eu cyfarfodydd eu hunain / dilyn rhaglen wedi’i threfnu o gyfarfodydd in Toronto.
25 Chwefror – Gadael am Montreal (pm)
25-28 Chwefror – Cyfle i gwmnïau drefnu eu cyfarfodydd eu hunain / dilyn rhaglen wedi’i threfnu o gyfarfodydd in Montreal.
28 Chwefror – Dychwelyd i Gymru.
Gwasanaeth Trefnu Cyfarfodydd
Os hoffech wneud y gorau o'ch amser yn y digwyddiad, gallwn gynnig help un o’n hymgynghorwyr busnes i drefnu rhaglen o 3-4 o gyfarfodydd i chi. Gallwn drefnu hyn am £500 neu fwy.
Sylwch, os hoffech y gwasanaeth hwn, yna rhaid i chi gyflwyno eich cais 10 wythnos cyn ymweliad y farchnad allforio neu'r arddangosfa ymadael.
Os cyflwynir eich cais ar ôl yr amser hwn 14 Rhagfyr 2025, yna ni allwn warantu bod digon o amser i ddarparu'r cymorth ychwanegol hwn yn effeithiol.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau:
13 Rhagfyr 2025 (Teithio a chyfarfodydd a drefnwyd ymlaen llaw)
24 Ionawr 2026 (Teithio yn unig)
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau o fewn 24 awr - os nad ydych yn derbyn yr e-bost yma neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y daith fasnach cysylltwch â'n blwch Masnach Ryngwladol - internationaltrade@llyw.cymru
*Os bydd lle ar gael.