Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i arddangos gyda ni yn Arddangosfa Niwclear y Byd (WNE) 2025, Villepinte, Paris.  

Pam yr arddangosfa hon?
WNE yw’r sioe fasnach fwyaf ar gyfer y sector niwclear, ac mae’n denu dros 730 o arddangoswyr o 65 o wledydd, sy’n amrywio o sefydliadau byd eang blaengar i gwmnïau bach. Mae dros 23,000 o bobl yn ymweld â’r sioe ac mae’n cynnig cyfleoedd allforio da i fusnesau Cymreig.

Pam mynd? 
Bydd yr ymweliad hwn yn creu cyfle i chi gyflwyno eich cwmni, meithrin cysylltiadau defnyddiol a chynyddu eich allforion yn y sector hwn.

Trwy gymryd rhan yn yr ymweliad hwn byddwch yn elwa ar y canlynol: 

  • Dull cost effeithiol o ymweld â’r canlynol.
  • Rhwydweithio ac ymwneud â busnesau allweddol a phobl sy’n gwneud penderfyniadau o fewn y farchnad
  • Rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth gyda chyfranogwyr eraill
  • Cymorth â threfniadau teithio drwy asiant teithio penodedig
  • Cyfle i fynychu digwyddiadau rhwydweithio
  • Cewch eich cynnwys mewn unrhyw ddeunyddiau marchnata

Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi* cwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad hwn â marchnad allforio. Gallwch fynychu’r digwyddiad hwn fel arddangosydd neu ymwelyddY gost i arddangos fydd oddeutu £2,700 ar gyfer gofod cydarddangos ym Mhafiliwn Cymru neu oddeutu £750 y cynrychiolydd ar gyfer ymweld yn unig. **

  •  Teithiau awyr dwy ffordd a chludiant o’r maes awyr ac yn ôl yno (if travelling with the core Group)
  • Llety am 3 noson (yn cynnwys brecwast)
  • Tocyn arddangos am 3 diwrnod
  •  Gofod arddangos a chofrestru i arddangos 

    Mae’r cynnig hwn ar gael i ddau gynrychiolydd y bob cwmni.

Manylion y Digwyddiad 
Pryd – 3-6 Tachwedd 2025
Sectorau – Nuclear
Ble – Paris, Ffrainc

Trefn
3 Tachwedd – Gadael am Paris
4-6 Tachwedd –WNE / cyfle i gwmnïau drefnu eu cyfarfodydd eu hunain / dilyn rhaglen wedi’i threfnu o gyfarfodydd 
6 Tachwedd – Dychwelyd i Gymru.

Gwasanaeth Trefnu Cyfarfodydd
Os hoffech wneud y gorau o'ch amser yn y digwyddiad, gallwn gynnig help un o’n hymgynghorwyr busnes i drefnu rhaglen o 3-4 o gyfarfodydd i chi. Gallwn drefnu hyn am £500 neu fwy.
Sylwch, os hoffech y gwasanaeth hwn, yna rhaid i chi gyflwyno eich cais 10 wythnos cyn ymweliad y farchnad allforio neu'r arddangosfa ymadael.
Os cyflwynir eich cais ar ôl yr amser hwn 22 Awst 2025, yna ni allwn warantu bod digon o amser i ddarparu'r cymorth ychwanegol hwn yn effeithiol.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau:

22 Awst 2025 (Teithio a chyfarfodydd a drefnwyd ymlaen llaw)
3 Hydref 2025 Teithio yn unig)

Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau o fewn 24 awr - os nad ydych yn derbyn yr e-bost yma neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y daith fasnach cysylltwch â'n blwch Masnach Ryngwladol - internationaltrade@llyw.cymru

*Os bydd lle ar gael.

*Mae ffi arddangoswr yn destun TAW