Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i ymuno â’i hymweliad â marchnad allforio San Francisco, UDA. Mae'r ymweliad hwn yn cyd-fynd â Games Developer Conference, 17-21 Mawrth 2025.

Pam San Francisco?
Mae San Francisco yn ganolbwynt enwog ar gyfer deori a datblygu’r economi wybodaeth. Mae llawer o sefydliadau busnes ac academaidd ar flaen y gad ym maes technoleg fyd-eang, gan gynnwys technoleg amgylcheddol a glân, TGCh a datblygu meddalwedd, technoleg feddygol a biotechnoleg, y cyfryngau digidol a chymdeithasol, a gwasanaethau ariannol a phroffesiynol. 

Mae San Francisco yn sylfaen dda i archwilio cyfleoedd allforio ym marchnad ehangach Gogledd Califfornia, yn enwedig San Jose a Silicon Valley.

Pam Ymweld? 
Bydd yn rhoi’r cyfle i chi arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y sector hon.

Trwy fod yn rhan o’r ymweliad, byddwch yn elwa ar y canlynol:

  • Ffordd gost effeithiol o ymweld â sioe masnach byd enwog.
  • Rhwydweithio a chysylltu â busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn y farchnad
  • Rhannu gwybodaeth gydag eraill sy’n cymryd rhan
  • Help gyda’r trefniadau teithio drwy asiant teithio penodedig
  • Mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio
  • Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata

Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth* i gwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad hwn â marchnad allforio. Mae’r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmni. Mae’r gost yn £1,800. Mae hyn yn cynnwys:

  • Hedfan allan ac yn ôl
  • Trosglwyddiadau o fewn y farchnad
  • Llety am 6 noson gyda brecwast (Dydd Sul - Dydd Gwener)
  • Mynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad
  • Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata

Manylion Y Digwyddiad
Pan fyddwn yn – 17-22 Mawrth 2024
Sectorau – Aml Sector 
Ble – San Francisco

Trefn 
16 Mawrth – Gadael am San Francisco
17-22 Mawrth – Cyfle i gwmnïau drefnu eu cyfarfodydd eu hunain / dilyn rhaglen wedi’i threfnu o gyfarfodydd yn San Franciso.
22 Mawrth – Dychwelyd i Gymru, glanio yn Heathrow, Llundain ar 23 Mawrth. 

Trefniant Gwasanaeth Cyfarfodydd 
Os hoffech elwa i’r eithaf ar eich amser yn y digwyddiad gallwn gynnig cymorth drwy raglen o 3-4 o gyfarfodydd ar eich cyfer a fydd wedi’u trefnu gan un o’n hymgynghorwyr busnes. Gallwn drefnu hyn am £500 neu fwy.
Nodwch: Os hoffech fanteisio ar y cymorth hwn, mae’n rhaid i chi gyflwyno eich cais 10 wythnos cyn yr ymweliad neu’r arddangosfa. Os caiff eich cais ei gyflwyno ar ôl 20 Rhagfyr 2024 ni allwn warantu y bydd digon o amser i gynnig y cymorth ychwanegol hwn i chi.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau:
20 Rhagfyr 2024 (Teithio a chyfarfodydd a drefnwyd ymlaen llaw)
10 Ionawr 2025 (Teithio yn unig)

Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau o fewn 24 awr - os nad ydych yn derbyn yr e-bost yma neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y daith fasnach cysylltwch â'n blwch Masnach Ryngwladol - internationaltrade@llyw.cymru

*Yn amodol ar gymhwystra.