Hysbysiad Preifatrwydd - Cymorth Allforio
Cafodd yr hysbysiad hwn ei ddiweddaru ar 15 Ebrill 2024.
Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Lywodraeth Cymru, ac yn unol â'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) rydym wedi datblygu Hysbysiad Preifatrwydd sy'n egluro pam rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch a sut rydym yn ei defnyddio. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn sicrhau y bydd eich data personol yn cael eu prosesu mewn modd teg, cyfreithlon a thryloyw.
Treuliwch ychydig o funudau yn ymgyfarwyddo â'n harferion preifatrwydd.
- Pam rydym yn casglu ac yn prosesu'r data a gesglir
Llywodraeth Cymru fydd y Rheolydd Data ar gyfer y data personol yr ydych yn eu darparu ar ffurflenni cais y rhaglen allforio. Byddwn yn ei brosesu yn unol a'n tasg gyhoeddus i'ch adnabod a darparu ein rhaglenni allforio ar eich cyfer chi a'ch busnes
Caiff y data ei brosesu gan sefydliadau sydd dan gontract gyda Llywodraeth Cymru i gyflenwi ein rhaglenni cymorth allforio Bydd hefyd yn cael ei brosesu gan weinyddwyr technegol sy'n cefnogi'r system TG Gall sefydliadau ymchwil cymdeithasol cymeradwy hefyd brosesu eich data wrth gynnal ymchwil a dadansoddiad ar berfformiad ein rhaglenni.
- Am faint fyddwn ni'n cadw'ch manylion
Cedwir eich manylion ar ein systemau yn unol â pholisi cadw Llywodraeth Cymru am hyd at ddwy flynedd, fel rhan o'n hadolygiadau parhaus o hyfforddiant ac ansawdd. Caiff eich gwybodaeth ei gadw hefyd at ddibenion archwilio.
Ar gyfer defnyddwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaethau a ddarperir gan Busnes Cymru y polisi cadw yw:
- os yw'r data yn gysylltiedig a chymorth gan yr UE gellir ei gadw tan 2030
- os yw'r data yn gysylltiedig a Chymorth Gwladwriaethol yna gellir ei gadw am 10 mlynedd.
- gellir cadw pob data arall am 3 mlynedd er mwyn gwella ansawdd a hyfforddiant mewnol.
- Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawl:
- i gael mynediad at y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn ei gadw amdanoch;
- gofyn inni gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data hwnnw;
- (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu'r data
- i’ch data gael ei ‘ddileu’ (o dan rai amgylchiadau)
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Customer Contact
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.gov.uk
Am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth:
Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru drwy'r isod:
Cyfeiriad post:
Swyddog Diogelu Data,
Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
CAERDYDD
CF10 3NQ
Cyfeiriad e-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru