Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i gymryd rhan yn ei ymweliad â marchnad allforio Sydney, Awstralia.
Pam Awstralia?
Mae Awstralia yn wlad ddelfrydol ar gyfer profi a datblygu cynnyrch a gwasanaethau newydd. Mae tua tair rhan o bump o boblogaeth Awstralia yn byw yn y 4 dinas fwyaf, sy’n ei gwneud hi’n hawdd i flaenoriaethu ble i lansio eich cynnyrch neu wasanaeth.
Awstralia yw 15 fed marchnad allforio fwyaf y DU, a chafwyd gwerth £14.9 biliwn o fasnach rhwng y DU ac Awstralia yn y 12 mis a ddaeth i ben ym mis Medi 2021.
Mae cyfleoedd yn bodoli ar gyfer cwmnïau o’r DU mewn sectorau amrywiol iawn, gan gynnwys gwasanaethau ariannol a thechnoleg ariannol, technoleg, seiber ddiogelwch a seilwaith.
Pam Mynd?
Bydd yr ymweliad hwn yn rhoi cyfle ichi arddangos eich cwmni, ennill cysylltiadau gwerthfawr adeiladau chynyddu eich allforion yn y farchnad hon.
Drwy fod yn rhan o’r rhith-ymweliad, byddwch yn elwa ar y canlynol:
- Ffordd gosteffeithiol o ymweld â’r farchnad.
- Golwg gyffredinol ar y farchnad a’r sefyllfa ddiweddaraf.
- Rhith-gyfarfod i ddod i adnabod cysylltiadau busnes a phenderfynwyr defnyddiol yn y farchnad.
- Cymorth un-i-un gan ein cynrychiolydd yn y farchnad
- Eich cynnwys mewn deunydd marchnata digidol.
Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi* cwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad hwn â'r farchnad allforio.
Y gost yw £1,800 y person. Mae'r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmni a mae hyn yn cynnwys:
- Y daith yn ôl ar yr awyren
- Trosglwyddiadau yn y farchnad
- Llety am 6 noson gyda brecwast (ddydd Sul i dydd Gwener)
- Mynediad at ddigwyddiadau yn y farchnad
- Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
Manylion y Digwyddiad
Pryd: 21 Chwefror – 1 Mawrth 2024
Sectorau: Pob sectorau
Ble: Sydney
Trefn
- 21 Chwefror– Gadael am Abu Dhabi
- 25 Chwefror – 1 Marwth 2024 – Cyfle i gwmnïau drefnu eu cyfarfodydd eu hunain / dilyn rhaglen wedi’i threfnu o gyfarfodydd
- 3 Marwth 2024 – Nôl i Gymru
Gwasanaeth Trefnu Cyfardodydd (ITO)
Os hoffech elwa i’r eithaf ar eich amser yn y digwyddiad gallwn gynnig cymorth drwy raglen o 3-4 o gyfarfodtydd ar eich cyfer a fydd wedi’u trefnu gan un o’n hymgynghorwyr busnes. Gallwn drefnu hyn am £500 neu fwy.
Nodwch: Os hoffech fanteisio ar y cymorth hwn, mae’n rhaid i chi gyflwyno eich cais 10 wythnos cyn yr ymweliad neu’r arddangosfa. Os caiff eich cais ei gyflwyno ar ôl 15 Rhagfyr 2024 ni allwn warantu y bydd digon o amser i gynnig y cymorth ychwanegol hwn i chi.