
Canllawiau a chyngor
Mae ein canllawiau allforio manwl yn rhoi gwybodaeth allweddol i chi am fasnach ryngwladol
Canllawiau allforio
Pan fyddwch yn dechrau allforio, mae’r gweithdrefnau y bydd angen i chi eu dilyn yn dibynnu ar y math o gynnyrch neu wasanaeth rydych yn ei werthu yn ogystal â lleoliad eich cwsmer.
Os yw’ch busnes yn ystyried allforio nwyddau, bydd angen i chi holi a oes angen trwydded allforio arnoch.
Rhaid i holl fusnesau'r DU ddatgan unrhyw allforion i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) i sicrhau bod unrhyw TAW, toll, toll gartref neu ardoll mewnforio sy'n ddyledus arnynt yn cael eu casglu.
Mae’n hanfodol eich bod yn dewis y dull mwyaf addas o gludo’ch nwyddau ac yn cael y dogfennau priodol i sicrhau bod eich dulliau o fewnforio neu allforio’n effeithlon ac yn gost-effeithiol.
Mae gofalu’ch bod yn gallu ariannu’r contract, rheoli arian tramor a chael eich talu i gyd yn allweddol i bawb sy’n allforio.
Helpu busnesau fel eich un chi
Cael yr wybodaeth ddiweddaraf i'ch helpu i archwilio marchnadoedd, dod o hyd i gleientiaid, gwirio rhwystrau, rheoli llwythi a llawer mwy.

Diddordeb mewn allforio ond ddim yn gwybod ble i ddechrau? Edrychwch ar y cyrsiau allforio rhagarweiniol a chanolradd ar y Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein (BOSS).

Edrychwch ar ein casgliad o weminarau allforio a recordiwyd sy'n cynnwys canllawiau a chyngor, gwybodaeth am y farchnad a phynciau sy'n canolbwyntio ar y sector.