Reacta Healthcare/Head of Commercial/Belinda Mortell

 


Sefydlwyd Reacta Healthcare, sydd â’i wreiddiau ym Mhrifysgol Manceinion a’i bencadlys ar Lannau Dyfrdwy yn y gogledd, yn 2013 i ddatrys sialens sylweddol yn y maes profi am alergeddau.

Tra bod profion traddodiadol am alergeddau bwyd yn gofyn i’r cleifion fwyta neu yfed yr alergen o dan sylw, fel pysgnau, wyau neu laeth, mae cynhyrchion Reacta’n cynnwys dos diffiniedig cudd o’r alergen sy’n caniatáu ar gyfer profion mwy diogel, cyson a safonol.

 

 

Taith Allforio

Mentrodd y cwmni i farchnadoedd rhyngwladol am y tro cyntaf yn 2017 gyda’i gynnyrch profi ar gyfer pysgnau, cyn ehangu ei bortffolio i gynnwys diagnosteg alergenau llaeth ac wy mewn ymateb i fwlch yn y farchnad o fewn y sector.

Mae allforio wedi sbarduno twf anferth i Reacta, gyda thwf aruthrol o 400% yn ei refeniw ers 2023.  Heddiw mae cynnyrch Reacta’n cael ei ddosbarthu i rwydwaith byd-eang o tua 300 o safleoedd profi clinigol ar draws Ewrop, Gogledd America, Awstralia a Seland Newydd. Mae’r cwmni’n chwarae rhan flaenllaw mewn treialon pwysig ar brofi am alergeddau, yn arbennig yn UDA lle mae ymchwil clinigol yn y maes yn ddatblygedig iawn.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Reacta wedi parhau i gryfhau ei ôl troed byd-eang, gan ddiogelu cleientiaid newydd yn Ewrop ac UDA, wrth gynyddu ei weithlu o 50 o 80 o gydweithwyr, ac mae recriwtio pellach ar y gweill wrth i gynhyrchiant dyfu i fodloni’r galw am astudiaethau byd-eang.

Mae’r cwmni bellach yn y broses o ddatblygu cynnyrch sy’n addas i blant dros chwe mis oed, a fydd yn ei alluogi i gynorthwyo profion alergedd ar draws pob grŵp oedran, ac ehangu ei sylfaen o gleientiaid ymhellach eto.
Er mwyn cynorthwyo twf cyflym ei allforion, mae’r cwmni’n bwriadu agor ail gyfleuster wrth ymyl ei safle cyfredol ar Lannau Dyfrdwy, gan ychwanegu 50% at ei arwynebedd. Bydd y gofod ychwanegol yma’n caniatáu i’r cwmni ehangu ei swyddogaethau labordy ac ymchwilio a datblygu.
 

Cymorth Llywodraeth Cymru

Mae twf rhyngwladol Reacta wedi cael ei hwyluso gan gyngor a chymorth allforio gan Llywodraeth Cymru, gan gynnwys cymorth i fynychu ymweliadau â marchnadoedd tramor a chynadleddau rhyngwladol, yn ogystal ag arweiniad parhaus gan Ymgynghorwyr Masnachu Rhyngwladol i ffeindio’r ffordd o gwmpas marchnadoedd byd-eang cymhleth.

Wrth edrych tua’r dyfodol, mae Reacta wrthi’n asesu cyfleoedd i ehangu ymhellach i Asia ac ymestyn ei bortffolio o gynnyrch er mwyn darparu ar gyfer y galw yn y sector alergeddau bwyd yn y rhanbarth hwnnw.

Dywedodd Belinda Mortell, Pennaeth Masnachol Reacta:

“Mae allforio wedi bod yn hanfodol bwysig i’n twf, ac mae hi bellach yn adlewyrchu beth rydyn ni’n ei wneud fel busnes. Mae ar dreialon clinigol byd eang angen diagnosteg alergeddau sy’n ddiogel, yn ddibynadwy ac yn safonol, ac mae ein cynhyrchion ni’n caniatáu hynny, wrth leihau risg a gwella’r profiad ar gyfer cleifion."
“Mae’r twf a welwyd dros y flwyddyn ddiwethaf - o ddyblu maint ein tîm i agor cyfleuster newydd - o ganlyniad uniongyrchol i gynnydd yn y galw rhyngwladol. Mae’r cymorth rydyn ni wedi ei gael gan Llywodraeth Cymru trwy Busnes Cymru wedi bod yn amhrisiadwy wrth ein helpu ni i fentro i farchnadoedd newydd a chryfhau ein presenoldeb rhyngwladol.”

 

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen