Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i ymuno â'i hymweliad â'r farchnad Allforio i San Diego, UDA. Mae'r ymweliad hwn yn cyd-fynd â Chonfensiwn Rhyngwladol Bio 2026 (yn San Diego o 22-25 Mehefin 2026).
Pam De Califfornia?
Yr Unol Daleithiau yw'r economi fwyaf, mwyaf cystadleuol a thechnolegol ddatblygedig yn y byd. Dyma'r farchnad allforio fwyaf ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau o Gymru. Gyda rhwystrau rheoleiddio isel, ychydig o rwystrau iaith a mynediad i'r gadwyn gyflenwi fyd-eang, mae'n cynnig potensial enfawr i allforwyr Cymru.
San Diego
Gyda'i hinsawdd gynnes, trwy gydol y flwyddyn, 50 milltir o arfordir heulog ac atyniadau byd-enwog, mae San Diego yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid. Ond mae gan y metropolis mawr hwn yn Ne California naws hamddenol a hefyd mae yn gartref i fusnesau blaengar ym maes gwyddorau bywyd, genomeg, biotechnoleg, telathrebu, technoleg Dinas Glyfar, meddalwedd, electroneg a diwydiannau arloesol mawr eraill, yn enwedig Amddiffyn a Diogelwch.
Pam mynd?
Bydd yr ymweliad hwn yn creu cyfle i chi gyflwyno eich cwmni, meithrin cysylltiadau defnyddiol a chynyddu eich allforion yn y sector hwn.
Trwy gymryd rhan yn yr ymweliad hwn byddwch yn elwa ar y canlynol:
• Dull cost effeithiol o ymweld â’r canlynol.
• Rhwydweithio ac ymwneud â busnesau allweddol a phobl sy’n gwneud penderfyniadau o fewn y farchnad
• Rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth gyda chyfranogwyr eraill
• Cymorth â threfniadau teithio drwy asiant teithio penodedig
• Cyfle i fynychu digwyddiadau rhwydweithio
• Cewch eich cynnwys mewn unrhyw ddeunyddiau marchnata
Y Gost
Ymwelydd
Mae'r gost yn £2,250. Mae hyn yn cynnwys:
• Hediadau yno ac yn ol
• Trosglwyddiadau yn y farchnad (os ydych yn teithio gyda'r grwp craidd
• 6 noson o lety gyda brecwast (dydd Sadwrn – dydd Gwener)
• Presenoldeb mewn digwyddiadau yn y farchnad
• Cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
Mae’r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmni.
Manylion y Digwyddiad
Pam: 20-25 Mehefin 2026
Sectorau: Aml-sectorau
Where: San Diego
Trefn
20 Mehefin - Gadael am San Diego
20-25 Mehefin – Cyfle i gwmnïau gael eu cyfarfodydd eu hunain / Rhaglen cyfarfodydd wedi'u trefnu ymlaen llaw yn San Diego
26 Mehefin – Dychwelyd i Gymru, cyrraedd Heathrow 27 Mehefin
Gwasanaeth Trefnu Cyfarfodydd
Os hoffech elwa i’r eithaf ar eich amser yn y digwyddiad gallwn gynnig cymorth drwy raglen o 3-4 o gyfarfodydd ar eich cyfer a fydd wedi’u trefnu gan un o’n hymgynghorwyr busnes. Gallwn drefnu hyn am £500 neu fwy.
Nodwch: Os hoffech fanteisio ar y cymorth hwn, mae’n rhaid i chi gyflwyno eich cais 10 wythnos cyn yr ymweliad neu’r arddangosfa. Os caiff eich cais ei gyflwyno ar ôl 10 Ebrill 2026 ni allwn warantu y bydd digon o amser i gynnig y cymorth ychwanegol hwn i chi.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau
10 Ebrill 2026 (Teithio a llety, gyda chyfarfodydd dewisol wedi'u trefnu ymlaen llaw)
23 Mai 2026 (Teithio a llety yn unig)
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau o fewn 24 awr - os nad ydych yn derbyn hyn, cysylltwch â'r blwch post masnach - internationaltrade@llyw.cymru
*Os bydd lle ar gael.