Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i gymryd rhan yng Nghonfensiwn Rhyngwladol BIO yn San Diego (USA).
Mae’r digwyddiad hwn, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, yn cynnig cyfle cyffrous i fusnesau o bob maint i gynyddu eu gweithgareddau allforio a hynny drwy gysylltu â busnesau o bedwar ban byd sydd yn y sector Gwyddorau Bywyd.
Pam Confensiwn Rhyngwladol BIO?
Mae’r Sefydliad Arloesi Biotechnoleg (BIO) yn cynrychioli mwy na 1100 o gwmnïau biotechnoleg, sefydliadau academaidd, canolfannau biotechnoleg gwladol a chyrff cysylltiedig ledled yr Unol Daleithiau ac mewn mwy na 30 o wledydd eraill.
Y llynedd, arddangosodd BIO 2025 (Boston) bedwar diwrnod o waith rhaglennu ysbrydoledig. Croesawyd mynychwyr o dros 20,559 o gwmnïau o 73 o wledydd a chynhaliwyd 57,044 o gyfarfodydd partneru.
Pam mynd?
Bydd yr ymweliad hwn yn rhoi cyfle ichi arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a datblygu eich allforion yn y sector hwn.
Trwy gymryd rhan yn yr ymweliad hwn byddwch yn elwa ar y canlynol:
• Dull cost effeithiol o ymweld â’r farchnad
• Rhwydweithio ac ymwneud â busnesau allweddol a phobl sy’n gwneud penderfyniadau o fewn y farchnad
• Rhannu dealltwriaeth a gwybodaeth gyda chyfranogwyr eraill
• Cymorth â threfniadau teithio drwy asiant teithio penodedig
• Cyfle i fynychu digwyddiadau rhwydweithio
• Cewch eich cynnwys mewn unrhyw ddeunyddiau marchnata
Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth* i gwmnïau i gymryd rhan yng Nghonfensiwn Rhyngwladol BIO. Ar gyfer y digwyddiad hwn, gallwch gymryd rhan naill ai yn arddangoswr neu yn ymwelydd:
Arddangoswr
Y gost yw £5,700. Mae hyn yn cynnwys:
• Lle ar stondin Cymru
• Hedfan allan ac yn ôl
• Trosglwyddiadau yn y farchnad
• Llety am 6 noson gyda brecwast (Dydd Sadwrn– Dydd Gwener)
• Mynd i ddigwyddiadau yn y farchnad gan gynnwys digwyddiadau rhwydweith
• io i fusnesau
• Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
Mae’r cynnig hwn ar gael i ddau gynrychiolydd o bob cwmni.
Ymwelydd
Y gost yw £2,250. Mae hyn yn cynnwys:
• Hedfan allan ac yn ôl
• Trosglwyddiadau o fewn y farchnad
• Llety am 6 noson gyda brecwast (Dydd Sadwrn– Dydd Gwener)
• Mynediad i’r sioe fasnach
• Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
• Cyfle i ddefnyddio man cyfarfod ar stondin Cymru
• Mynd i ddigwyddiadau yn y farchnad gan gynnwys digwyddiadau rhwydweithio i fusnesau
Mae’r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmni.
Manylion y Digwyddiad
Pryd: 20-26 Mehefin 2026
Sector: Biotechnoleg a fferyllol
Ble: San Diego
Trefn
20 Mehefin – Gadael am San Diego
22-25 Mehefin - Confensiwn Rhyngwladol BIO / Cyfle i gwmnïau drefnu eu cyfarfodydd eu hunain / dilyn rhaglen wedi’i threfnu o gyfarfodydd
26 Mehefin – Dychwelyd i Gymru, , glanio yn Llundain Heathrow Dydd Sadwrn 27 Mehefin.
Gwasanaeth Trefnu Cyfardodydd
Os hoffech elwa i’r eithaf ar eich amser yn y digwyddiad gallwn gynnig cymorth drwy raglen o 3-4 o gyfarfodtydd ar eich cyfer a fydd wedi’u trefnu gan un o’n hymgynghorwyr busnes. Gallwn drefnu hyn am £500 neu fwy.
Nodwch: Os hoffech fanteisio ar y cymorth hwn, mae’n rhaid i chi gyflwyno eich cais 10 wythnos cyn yr ymweliad neu’r arddangosfa. Os caiff eich cais ei gyflwyno ar ôl 10 Ebrill 2026 ni allwn warantu y bydd digon o amser i gynnig y cymorth ychwanegol hwn i chi.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau:
6 Ebrill 2026 - Lle arddangoswr neu ymwelydd (yn cynnwys teithio a llety, gyda chyfarfodydd dewisol wedi'u trefnu ymlaen llaw)
20 Ebrill 2026 - Lle arddangosydd (yn cynnwys teithio a llety)
23 Mai 2026 - (Teithio a llety yn unig)
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau o fewn 24 awr - os nad ydych yn derbyn hyn, cysylltwch â'r blwch post masnach - internationaltrade@llyw.cymru
*Os bydd lle ar gael.