Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i ymuno â’i hymweliad â marchnad allforio San Francisco, UDA. Mae'r ymweliad hwn yn cyd-fynd â Games Developer Conference, 11-13 Mawrth 2026.
Pam San Francisco?
Mae San Francisco yn ganolbwynt enwog ar gyfer deori a datblygu’r economi wybodaeth. Mae llawer o sefydliadau busnes ac academaidd ar flaen y gad ym maes technoleg fyd-eang, gan gynnwys technoleg amgylcheddol a glân, TGCh a datblygu meddalwedd, technoleg feddygol a biotechnoleg, y cyfryngau digidol a chymdeithasol, a gwasanaethau ariannol a phroffesiynol.
Mae San Francisco yn sylfaen dda i archwilio cyfleoedd allforio ym marchnad ehangach Gogledd Califfornia, yn enwedig San Jose a Silicon Valley.
Pam Ymweld?
Bydd yn rhoi’r cyfle i chi arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y sector hon.
Trwy fod yn rhan o’r ymweliad, byddwch yn elwa ar y canlynol:
• Ffordd gost effeithiol o ymweld â sioe masnach byd enwog.
• Rhwydweithio a chysylltu â busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn y farchnad
• Rhannu gwybodaeth gydag eraill sy’n cymryd rhan
• Help gyda’r trefniadau teithio drwy asiant teithio penodedig
• Mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio
• Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth* i gwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad hwn â marchnad allforio.
Pecyn ymwelydd – £1,400 (eich cyfraniad ar gyfer un cynrychiolydd fesul cwmni)
• Hedfan allan ac yn ôl
• Trosglwyddiadau o fewn y farchnad
• Llety am 5 noson gyda brecwast (Dydd Sul - Dydd Gwener)
• Mynychu digwyddiadau yn y farchnad
• Cael eich cynnwys yn llyfryn marchnata a hyrwyddo Llywodraeth Cymru
• Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunyddiau marchnata eraill
Manylion Y Digwyddiad
Pan fyddwn yn – 8-14 Mawrth 2026
Sectorau – Aml Sector
Ble – San Francisco, UDA
Trefn
8 Mawrth – Gadael am San Francisco.
9-13 Mawrth – Cyfle i gwmnïau drefnu eu cyfarfodydd eu hunain / dilyn rhaglen wedi’i threfnu o gyfarfodydd yn San Francisco.
13 Mawrth – Dychwelyd i Gymru, glanio yn Heathrow, Llundain ar 14 Mawrth.
Gwasanaeth Trefnu Cyfarfodydd
Os hoffech elwa i’r eithaf ar eich amser yn y digwyddiad, gallwn gynnig help un o’n hymgynghorwyr busnes i drefnu rhaglen o 3-4 o gyfarfodydd i chi. Gallwn drefnu hyn am £500 neu fwy.
Os hoffech fanteisio ar y gwasanaeth hwn, rhaid i chi gyflwyno eich cais o leiaf 10 wythnos cyn ymadael.
Os byddwch yn cyflwyno eich cais ar ôl 12 Rhagfyr 2026, yna ni allwn warantu bod digon o amser i ddarparu'r cymorth ychwanegol hwn yn effeithiol.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau:
12 Rhagfyr 2025 (Teithio a llety, gyda chyfarfodydd dewisol wedi'u trefnu ymlaen llaw)
9 Ionawr 2026 (Teithio a llety yn unig)
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau o fewn 24 awr - os nad ydych yn derbyn yr e-bost yma neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y daith fasnach cysylltwch â'n blwch Masnach Ryngwladol - internationaltrade@llyw.cymru
*Yn amodol ar gymhwystra.