Sefydlwyd Frontier Medical Group yn Nhredegar ym 1990, ac mae’n arweinydd rhyngwladol ym maes gofal briwiau pwyso.
Mae’r cwmni’n dylunio ac yn cynhyrchu dyfeisiau meddygol arloesol i atal a thrin briwiau pwyso - anafiadau sy’n cael eu hachosi gan bwysedd estynedig ar y croen sy’n gallu achosi cymhlethdodau difrifol i gleifion.
Mae Repose®, sef prif gynnyrch y cwmni, wedi cael ei ddefnyddio i drin dros dair miliwn o gleifion ar draws y byd, ac wedi ei ategu gan dros 20 mlynedd o ddata clinigol.
Canolbwyntiwch ar Allforio
Erbyn hyn, allforio yw maen clo strategaeth twf Frontier. Bellach mae’r busnes yn masnachu mewn 34 o wledydd ar draws Ewrop, y Dwyrain Canol, Asia, Gogledd a De America, ac allforion sydd i gyfrif am 30% o’i holl drosiant. Mae gan y cwmni ddwy ganolfan ryngwladol yn yr Almaen ac UDA hefyd, sy’n cynorthwyo ei gwmpas byd-eang.
Ers canolbwyntio ar ehangu’n rhyngwladol, mae’r cwmni wedi cofnodi twf o 70% mewn masnachu rhyngwladol dros y tair blynedd diwethaf. Cyflawnwyd hyn trwy gryfhau ei statws gyda’i ddosbarthwyr cyfredol, yn ogystal â mentro i farchnadoedd newydd gyda phartneriaid newydd.
Dros y tair blynedd diwethaf, mae Frontier wedi llofnodi cytundebau gydag 11 o ddosbarthwyr newydd ar draws naw marchnad allweddol gan gynnwys Hong Kong a Seland Newydd. Yn ogystal â’r cam newydd yma o dwf, mae gan y cwmni gynlluniau i ymestyn i mewn i Sgandinafia a De Corea, lle mae’r galw am atebion meddygol datblygedig ar gynnydd.
Mae cefnogaeth rhaglenni allforio Llywodraeth Cymru wedi bod yn allweddol i lwyddiant allforio’r cwmni, gan ddarparu arbenigedd mewn marchnadoedd penodol, teithiau masnach, a gwybodaeth am y farchnad er mwyn gallu manteisio ar diriogaethau newydd yn gynt.
Yn ogystal â chyflenwi darparwyr gofal iechyd yn y DU, Ewrop a Gogledd America yn uniongyrchol, mae Frontier yn gweithio gyda 24 o ddosbarthwyr ar draws y byd gan gynnwys yng Nghanada, y Swistir, Hong Kong, Awstralia, Benelux, Mecsico a Singapore.
Mae adborth gan y partneriaid rhyngwladol yma wedi galluogi’r cwmni i fireinio ac addasu ei gynnyrch i ddiwallu anghenion gofal iechyd rhanbarthol penodol.
Arloesedd yw'r Allwedd i Lwyddiant
Mae arloesi’n parhau i fod yn rhan greiddiol o strategaeth Frontier, gan sicrhau ei fod yn cadw ei fantais gystadleuol. Mae’r cwmni wedi agor hyb arloesi newydd yn Medicentre Caerdydd – menter ar y cyd gan Brifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro – i ddatblygu cenhedlaeth newydd o atebion ar gyfer gofal iechyd byd-eang. Bydd yr hyb yn cynnig mynediad uniongyrchol at arbenigedd academaidd, clinigol a pheirianegol blaenllaw i Frontier.
Dywedodd Ian Poulter, Rheolwr Dosbarthu Rhyngwladol Frontier Medical Group:
“Mae allforio wedi dod yn allweddol wrth yrru twf. Mae ehangu i farchnadoedd newydd wedi lleihau ein dibyniaeth ar unrhyw diriogaeth unigol, ac wedi ein galluogi ni i gyrraedd miloedd yn ragor o gleifion ar draws y byd.”
“Rydyn ni wedi cryfhau ein perthnasau cyfredol gyda dosbarthwyr ac wedi mentro i naw marchnad newydd, ac ni fyddai hynny wedi bod yn bosibl heb gymorth ymgynghorwyr masnachu rhyngwladol Llywodraeth Cymru. Mae eu cymorth wedi bod yn amhrisiadwy wrth ddatblygu ein hôl-troed rhyngwladol ac wrth ddod ag atebion meddygol dilys i ragor o ddarparwyr gofal iechyd ar draws y byd.”