Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (WNMP): Pysgodfeydd
Amcanion CMCC ar gyfer sectorau
Cefnogi a diogelu sector pysgota amrywiol a phroffidiol yn cynnwys hyrwyddo pysgodfeydd lle mae dalfeydd yn gynaliadwy a sicrhau’r gwerth economaidd mwyaf posibl o’r pysgod a ddelir fel cyflenwad protein cynaliadwy.
Beth yw'r sector pysgodfeydd
Mae sector pysgota masnachol Cymru yn ddiwydiant amrywiol. Yn nyfroedd Cymru, canolbwyntir ar:
- pysgod cregyn cramaceaidd a molysgaidd, a
- pysgod asgellog gan gynnwys draenogod môr, lledod coch a lledod llyfn.
Mae CMCC yn cydnabod bod pysgota masnachol yn allweddol o ran cyflogaeth mewn cymunedau arfordirol gwledig. Mae gwerth economaidd a chymdeithasol y sector yn fwy na gwerth gwerthiant cyntaf cynhyrchion pysgod a physgodfeydd. Mae ganddo hefyd gysylltiadau diwylliannol a chysylltiadau o ran treftadaeth, ac mae'n ychwanegu at hunaniaeth leol. Mae CMCC yn annog cyfleoedd i arallgyfeirio'n gynaliadwy er mwyn cynyddu gwerth gweithgareddau a dalfeydd presennol. Mae hefyd yn tynnu sylw at yr angen i gynllunio at y dyfodol i fynd i'r afael â heriau’r newid yn yr hinsawdd.
Polisïau yn y CMCC ar gyfer sectorau
FIS_01: Pysgodfeydd (cefnogi)
FIS_01 a
Bydd cynigion sy’n cefnogi ac yn gwella gweithgareddau pysgota cynaliadwy yn cael eu cefnogi pan fyddant yn cyfrannu at amcanion y cynllun hwn. Dylai cynigion gydymffurfio â pholisïau cyffredinol perthnasol a pholisïau diogelu’r sector y cynllun hwn ac unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill.
FIS_01 b
Anogir awdurdodau cyhoeddus perthnasol a’r sector, ar y cyd â phartïon cysylltiedig eraill, i gydweithio i ddeall cyfleoedd i ddatblygu sail dystiolaeth strategol i wella dealltwriaeth o gyfleoedd ar gyfer datblygu pysgodfeydd mewn modd cynaliadwy er mwyn cefnogi datblygiad cynaliadwy’r sector pysgodfeydd trwy gynllunio morol.
Map o’r sectorau
Edrychwch ar y sector pysgodfeydd ar y Porth Cynllunio Morol.