Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (CMCC):Porthladdoedd a morgludo
Amcanion CMCC ar gyfer sectorau
Diogelu llwybrau morgludo sefydledig a hybu twf cynaliadwy yn y sector porthladdoedd a morgludo.
Beth yw’r sector porthladdoedd a morgludo
Mae’r sector Porthladdoedd a Morgludo’n cynnwys adeiladu, gweithredu a chynnal a chadw:
- porthladdoedd
- harbyrau
- terfynfeydd
- marinas.
Mae CMCC yn cydnabod bod y sector yn:
- faes sy’n cael blaenoriaeth er mwyn datblygu Cymru yn y dyfodol
- blaenoriaeth strategol ym maes cynllunio morol.
Polisïau yn y CMCC ar gyfer sectorau
P&S_01: porthladdoedd a morgludo (cefnogi)
P&S_01 a
Bydd cynigion ar gyfer porthladdoedd, harbyrau a gweithgareddau morgludo yn cael eu cefnogi lle maent yn cyfrannu at amcanion y Cynllun hwn. Dylai cynigion gydymffurfio â pholisïau cyffredinol perthnasol a pholisïau diogelu’r Cynllun hwn ac unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill.
P&S_01 b
Anogir awdurdodau cyhoeddus perthnasol a’r sector, ar y cyd â phartïon cysylltiedig eraill, i gydweithio i ddeall cyfleoedd i gefnogi twf cynaliadwy’r sector porthladdoedd a morgludo drwy gynllunio morol.
P&S_02: porthladdoedd a morgludo (cefnogi)
Bydd cynigion sy’n darparu ar gyfer cynnal, atgyweirio, datblygu ac arallgyfeirio cyfleusterau porthladdoedd a harbyrau yn cael eu cefnogi lle maent yn cyfrannu at amcanion y Cynllun hwn. Dylai cynigion gydymffurfio â pholisïau cyffredinol perthnasol a pholisïau diogelu’r Cynllun hwn ac unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill.
Map o’r sectorau
Edrychwch ar y sector porthladdoedd a morgludo ar y Porth Cynllunio Morol.
Dolenni perthnasol
Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru