Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (CMCC): Ynni – carbon isel


Image removed.

Amcanion CMCC ar gyfer sectorau  

Cyfrannu'n sylweddol at ddatgarboneiddio ein heconomi ac at ein ffyniant drwy gynyddu faint o ynni adnewyddadwy'r môr sy'n cael ei gynhyrchu.

Datblygu Cymru fel enghraifft o dechnoleg ynni adnewyddadwy morol drwy ddatblygu'r sylfaen sgiliau, seilwaith a gwybodaeth dechnegol hanfodol i gefnogi datblygiad y diwydiant dros yr 20 mlynedd nesaf.

Beth yw’r sector ynni – carbon isel

Mae'r sector Ynni – Carbon Isel yn cynhyrchu ynni adnewyddadwy morol, gan gynnwys ynni o'r gwynt, y tonnau a'r llanw. Mae CMCC yn cydnabod bod adnoddau ynni morol o amgylch Cymru yn:

  • gyfle i gynhyrchu llawer iawn o ynni adnewyddadwy
  • gallu cyfrannu at sicrhau amrywiaeth briodol o ran darparu ynni adnewyddadwy.

Mae CMCC yn cydnabod bod y sector hwn yn un o’r blaenoriaethau strategol ym maes cynllunio morol. 

 

Polisïau yn y CMCC ar gyfer sectorau

Dylech gyfeirio at y ddogfen ei hun i weld disgrifiad llawn o’r polisi.

ELC_01: gwynt (cefnogi) ynni carbon isel

ELC_01 a 

Bydd cynigion ar gynhyrchu ynni gwynt ar y môr yn cael eu cefnogi lle maent yn cyfrannu at amcanion y cynllun hwn.

ELC_01 b

Er mwyn deall cyfleoedd ar gyfer datblygiadau ynni gwynt ar y môr yn y dyfodol, gan gynnwys technolegau sy'n arnofio, mae'r cynllun hwn yn cefnogi cynllunio strategol ar gyfer y sector.

ELC_02: tonnau (cefnogi) ynni carbon isel

ELC_02 a

Bydd cynigion ar gynhyrchu ynni tonnau yn cael eu cefnogi lle maent yn cyfrannu at amcanion y cynllun hwn.

ELC_02 b

Er mwyn deall cyfleoedd ar gyfer ynni tonnau yn y dyfodol, anogir awdurdodau cyhoeddus perthnasol a’r sector, ar y cyd â phartïon eraill â buddiant, i gydweithio i ddeall cyfleoedd ar gyfer defnyddio adnoddau ynni tonnau yn gynaliadwy.

ELC_03: ynni ffrwd lanw (cefnogi) carbon isel 

ELC_03 a

Bydd cynigion ar gynhyrchu ynni ffrwd lanw yn cael eu cefnogi lle maent yn cyfrannu at amcanion y cynllun hwn.

ELC_03 b

Er mwyn deall cyfleoedd yn y dyfodol ar gyfer datblygu ynni ffrwd lanw, anogir awdurdodau cyhoeddus perthnasol a'r sector, ar y cyd â phartïon eraill â buddiant, i gydweithio i ddeall cyfleoedd ar gyfer defnyddio adnoddau ynni ffrwd lanw mewn modd cynaliadwy.

ELC_04: amrediad llanw (cefnogi) ynni carbon isel

ELC_04

Er mwyn deall cyfleoedd ar gyfer amrediad llanw yn y dyfodol, anogir cynllunio strategol ar gyfer y sector.

Map o’r sectorau

Edrychwch ar y sector carbon isel ar y Porth Cynllunio Morol.

Dolenni perthnasol

Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru