Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (CMCC): Ceblau o dan y môr
Amcanion CMCC ar gyfer sectorau
Helpu i ddosbarthu trydan yn y ffordd orau bosibl ac i sicrhau gwell cyfathrebu rhyngwladol drwy dyfu rhwydweithiau cyfathrebu digidol.
Dyma rai o weithgareddau’r sector ceblau o dan y môr:
- gosod
- cynnal a chadw
- datgomisiynu
ceblau telathrebu a throsglwyddo trydan (pŵer) o dan y môr.
Mae CMCC yn cefnogi datblygiad seilwaith telathrebu band eang ledled Cymru ac yn hyrwyddo ffordd integredig o:
- ddarparu
- adnewyddu
seilwaith ynni a thelathrebu.
Polisïau yn y CMCC ar gyfer sectorau
CAB_01: ceblau o dan y môr (cefnogi)
Bydd cynigion sy'n hwyluso twf rhwydweithiau cyfarthrebu digiol a/neu'r ffyrdd gorau posibl o ddosbarthu trydan yn cael eu cefnogi pan fyddant yn cyfrannu at amcanion y cynllun hwn. Dylai cynigion gydym ffurfio â pholisïau cyffredinol perthnasol a pholisïau diogelu'r cynllun hwn ac unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill.
Map o’r sectorau
Edrychwch ar y sector ceblau o dan y môr ar y Porth Cynllunio Morol.
Dolenni perthnasol
Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru