Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (CMCC): Carthu a gwaredu
Amcanion CMCC ar gyfer sectorau
Cynnal mynediad mordwyol diogel ac effeithiol ar gyfer llongau, cychod pysgota a hamdden a hybu twf yn y dyfodol a chynnydd yng nghyfleusterau porthladdoedd a meintiau llongau gan hyrwyddo’r defnydd cynaliadwy gorau posibl o ddeunydd a garthwyd a sicrhau bod cyfleusterau digonol ar gael ar gyfer gwaredu deunydd.
Beth yw'r sector carthu a gwaredu
Mae carthu a gwaredu’n cynnwys:
- symud deunydd o un ardal o wely’r môr
- adleoli’r deunydd a gloddiwyd mewn man arall i’w waredu.
Caiff y rhan fwyaf o waith carthu a gwaredu morol ei wneud:
- at ddibenion mordwyo llongau
- er mwyn datblygu porthladdoedd sydd eisoes yn bod a rhai a gaiff eu datblygu yn y dyfodol. Mae’r gwaith hwn yn cael ei wneud hefyd er mwyn hwyluso mathau eraill o waith yn y môr.
Mae carthu a gwaredu’n wahanol i garthu agregau, lle mae agregau’n cael eu carthu am eu gwerth economaidd.
Polisïau yn y CMCC ar gyfer sectorau
D&D_01: carthu a gwaredu (cefnogi)
Bydd cynigion sy’n cadw sianeli mordwyadwy a mynediad hirdymor i safleoedd agored ar y môr ar gyfer gwaredu deunydd priodol yn cael eu cefnogi pan fyddant yn cyfrannu at amcanion y cynllun hwn. Dylai cynigion gydymffurfio â pholisïau cyffredinol perthnasol a pholisïau diogelu’r cynllun hwn ac unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill.
Map o’r sectorau
Edrychwch ar y sector carthu a gwaredu ar y Porth Cynllunio Morol.