Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru

Gwybodaeth am Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru (CMCC)

Mae ein moroedd yn asedau naturiol anhygoel ac yn rhan annatod o'n hanes, ein heconomi a'n ffordd o fyw. Cafodd CMCC ei fabwysiadu ym mis Tachwedd 2019. Mae'n amlinellu gweledigaeth hirdymor ar gyfer datblygu ein moroedd yn gynaliadwy.  

Mae Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir yn darparu sylfaen statudol ar gyfer y gyfundrefn seiliedig ar gynllun i reoli dyfroedd arfordirol yn y Deyrnas Unedig. Fe wnaeth pob un o bedair gweinyddiaeth Datganiad Polisi Morol y DU fabwysiadu'r drefn cynllunio morol ym mis Mawrth 2011. Mae'r Datganiad Polisi Morol yn darparu cyd-destun polisi lefel uchel ar gyfer datblygu Cynlluniau Morol:

  • mae'n amlinellu fframwaith ar gyfer:
    • paratoi Cynlluniau Morol
    • gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar yr amgylchedd morol
  • mae'n cynnwys gweledigaeth gyffredin y DU o gael 'cefnforoedd a moroedd glân, iach, diogel, cynhyrchiol a bioamrywiol’
  • bydd yn sicrhau cysondeb priodol yn y maes cynllunio morol ledled ardal forol y DU

Ardal y Cynllun Morol

Mae ardal y cynllun morol o amgylch Cymru yn cwmpasu 32,000 km² o fôr, ac arfordir 2,120 km o hyd. Mae'r cyfrifoldeb am reoli gweithgareddau yn nyfroedd Cymru yn cael ei rannu rhwng:

  • swyddogaethau datganoledig (gyda Gweinidogion Cymru yn gweithredu fel awdurdod y cynllun morol), a
  • swyddogaethau a ddargedwir (gyda Llywodraeth y DU yn gweithredu fel yr awdurdod)

Image removed.

 

Dogfennau perthnasol

Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 - Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (legislation.gov.uk)

Datganiad Polisi Morol - UK marine policy statement - GOV.UK (www.gov.uk)

Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru https://www.llyw.cymru/cynllun-morol-cenedlaethol-cymru

Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru: trosolwg Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru: trosolwg | LLYW.CYMRU

Animeiddiad yn esbonio'r broses cynllunio morol Cynllunio Morol yng Nghymru - YouTube

Gweminar Trosolwg o Gynllunio Morol yng Nghymru 1. Trosolwg o Gynllunio Morol yng Nghymru a Chynllun Morol Cenedlaethol Cymru - YouTube