Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau

Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Welsh Government
  • EN
  • CY
Business Wales Home
  • Business Wales Hafan
  • Pencadlys Newyddion
  • Mwy
Business Wales - Accelerated Growth Programme
Toggle navigation
  • Cartref
  • Beth yw'r Rhaglen Cyflymu Twf?
  • A yw fy musnes yn gymwys?
  • Astudiaethau Achos a Newyddion
  • Proffiliau hyfforddwyr twf
  • Cysylltwch â ni
  1. Home
  2. Case Studies and News
  3. 2020

2020 Case Studies and News

BW AGP
Newyddion

Saith o gleientiaid y Rhaglen Cyflymu Twf yn cipio Gwobrau Busnesau Newydd Cymru

5 October 2020
|

Mae saith busnes sy'n rhan o Raglen Cyflymu twf Busnes Cymru wedi ennill Gwobrau Busnesau Newydd Cymru.

Cafodd y cwmnïau newydd gorau yng Nghymru eu hanrhydeddu mewn seremoni wobrwyo rithwir ddydd Iau 1 Hydref 2020, ac aeth y prif deitl i Project Blu, brand cynaliadwy ar gyfer anifeiliaid anwes. Mae Project Blu o Gaerdydd yn chwyldroi'r farchnad ategolion anifeiliaid anwes drwy drawsnewid deunyddiau sy’n llygru, gan gynnwys rhwydi pysgota, plastig sy’n mynd i’r môr, gwastraff lledr a dillad wedi'u hailgylchu, yn gynhyrchion anifeiliaid anwes fel gwelyau i gŵn, coleri, tenynnau a theganau...
cps
Astudiaeth Achos

Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn hybu llwyddiant cwmni argraffu

25 September 2020
|

"Ers ymuno â Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, mae trosiant wedi cynyddu 85%. Mae’r rhaglen wedi bod yn hynod werthfawr inni.”

Mae cynllunio twf ar gyfer busnes yn hollbwysig, ac mae cwmni argraffu o Gaerffili wedi cyflawni hyn drwy gaffael doeth. Gyda chymorth ac arbenigedd Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, mae CPS wedi dod yn gwmni llwyddiannus sy’n datblygu. Dechreuodd hyn i gyd oherwydd bod angen i’r sylfaenydd Simon Green sicrhau cadwyni cyflenwi diogel ar gyfer ei gleientiaid. Yma, mae Laura James o CPS, yn dweud sut y bu i Simon Green feithrin ac ehangu ei...
BV Logo thumbnail 150x100
Astudiaeth Achos

Y busnesau yng Nghymru sydd ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn COVID-19

18 September 2020
|

“Rydyn ni wedi gwneud cynnydd arbennig hyd yn oed yn ystod y cyfnodau heriol hyn mewn pandemig byd-eang, diolch i Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.”

Mae llawer o bethau o fewn y gwasanaeth iechyd rydym yn eu cymryd yn ganiataol, heb feddwl fawr ddim am yr holl gyfarpar sy’n cael ei ddefnyddio at sawl diben gan y meddygon. Un o’r offerynnau pwysig yn yr ymdrech yn erbyn COVID-19 yw’r fisgomedr clinigol. Er efallai nad ydych wedi clywed amdano, mae fisgomedr clinigol yn mesur pa mor ludiog yw hylifau’r corff, a rhannau o’r gwaed yn benodol megis plasma, serwm a gwaed...
NHQ
Astudiaeth Achos

Y busnes sy’n paratoi cwmnïau ar gyfer y chwyldro deallusrwydd artiffisial

14 September 2020
|

“Cawson ni gymorth dan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru i ddatblygu strategaeth twf uchel.”

Mae awtomatiaeth yn rhywbeth sy’n fwyfwy amlwg yn yr economi fodern, a bydd hyd yn oed yn fwy pwysig dros y misoedd a’r blynyddoedd sydd i ddod. Bydd busnesau sydd ar flaen y gad ac ym merw’r chwyldro awtomeiddio yn hollbwysig i ffyniant Cymru yn y dyfodol. Mae Nightingale HQ yn un o’r cwmnïau hynny. Mae’r cwmni’n defnyddio’i arbenigedd i helpu eraill i addasu i fyd newydd cyffrous awtomeiddio, nad yw’n ddim i’w ofni, yn...
PPF thumbnail 150x100
Astudiaeth Achos

Cwmni gwasanaethau ariannol yn mwynhau twf cyflym gyda help Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

7 September 2020
|

“Ni fyddem mor llwyddiannus ag ydym heddiw heb gymorth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.”

Mae llif o gyllid yn hanfodol i sicrhau economi sy’n gweithio, lle y mae modd buddsoddi a dod i gytundebau. I fenthyg a benthyca, a chael mynediad i gronfeydd mae angen llawer iawn o wybodaeth a phrofiad. Sefydlwyd Pure Commercial Finance gan y bancer proffesiynol Ben Lloyd. Ei weledigaeth oedd sefydlu busnes a allai gael mynediad i gyllid a ganfyddir yn “rhy anodd” i fenthycwyr prif ffrwd. Mae eisoes wedi bod yn stori lwyddiant fawr...
Totally Welsh Logo thumbnail 150x100
Astudiaeth Achos

Y cwmni cynnyrch llaeth Totally Welsh yn trafod ehangu a llwyddiant yn ystod yr argyfwng COVID-19.

28 August 2020
|

"Mae’r gefnogaeth a gafwyd gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi bod yn eithriadol.” 

Mae gan Gymru gynnyrch fferm rhagorol, sy’n enwog ledled y byd am ei safon. Mae cynnyrch llaeth yn elfen hanfodol o dirwedd amaethyddol Cymru. Un cwmni sydd mewn sefyllfa dda i fanteisio ar hynny, gan gynnig cynnyrch llaeth i amrywiol gwsmeriaid, yw Totally Welsh. Dyma gwmni Mark Hunter, sefydlodd ei fusnes yn 1990, ac mae’r brand wedi ei adeiladu ar safon eu cynnyrch a safon eu gwasanaeth. Yma mae John Horsman, o Totally Welsh, yn...
Cognitia Logo thumbnail 150x100
Astudiaeth Achos

Cwmni hyfforddi yn gosod y nod iddo’i hun o ehangu’n fyd-eang

21 August 2020
|

“Rwy’n ddiolchgar iawn am gefnogaeth ac arbenigedd Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru – mae’n adnodd mor werthfawr.”

Mae datblygu proffesiynol yn hanfodol i gwmnïau sydd am wella sgiliau eu gweithwyr yn ogystal ag i unigolion sydd am eu gwneud eu hunain yn fwy addas i’w cyflogwyr. Nod Cognitia, cwmni o’r Porth yng Nghwm Rhondda, yw rhoi sgiliau newydd i’r dysgwyr sy’n cofrestru ar ei gyrsiau. Ers ei sefydlu yn 2015 gan Nigel Lewis, Cognitia yw un o’r cwmnïau hyfforddiant arbenigol sy’n tyfu gyflymaf yn y Deyrnas Unedig. Dyma Nigel Lewis yn adrodd...
Camilleri-logo
Astudiaeth Achos

Camilleri Construction yn falch o’u perfformiad mewn blwyddyn anodd

14 August 2020
|

"Mae cyngor, arbenigedd a hyfforddiant Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi bod yn allweddol i’n twf."

I fusnesau ledled Cymru, mae 2020 wedi creu heriau nad oedd modd eu rhagweld – o’r llifogydd ar ddechrau’r flwyddyn, i’r pandemig COVID-19 ac anhawsterau y cyfyngiadau symud, cadw pellter cymdeithasol a’r cyfyngu cyflym ar yr economi. Mae Camilleri Construction o Gaerdydd, cwmni adeiladu sy’n canolbwyntio ar y sector yswiriant, wedi bod yn flaenllaw ac yng nghanol yr argyfyngau hyn. Ond, fel yr eglura Robert Camillieri y rheolwr-gyfarwyddwr, bu’n gyfnod o falchder mawr yn yr...
ITWW Logo thumbnail
Astudiaeth Achos

Y ddistyllfa gyda nod uchelgeisiol o gynhyrchu wisgi cyfan-gwbl Gymreig

12 August 2020
|

“Mae’r cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi bod yn hanfodol yn ein datblygiad a’n twf.”

Mae’r farchnad diodydd crefft yn un sy’n datblygu’n gyflym. Caiff pob mathau o ddiodydd eu cynhyrchu gan fragwyr a distyllwyr gydag awydd I ddarparu diodydd o safon gan ganolbwyntio ar gynnyrch brodorol, arloesi a blas. Mae In The Welsh Wind, a sefydlwyd gan Alex Jungmayr ac Ellen Wakelam, yn manteisio ar boblogrwydd gin, gan gynhyrchu gwirodydd gyda brand arbennig I ddwsinau o gleientiaid. Yma, mae Ellen Wakelam yn egluro stori y cwmni ac yn datgelu...
AGP Logo thumbnail
Newyddion

Pum arweinydd busnes y Rhaglen Cyflymu Twf yn cael eu henwi’n Sêr y Dyfodol gan gylchgrawn Insider

11 August 2020
|

Mae cylchgrawn Insider wedi datgelu ei Sêr y Dyfodol ar gyfer 2020 – unigolion sy’n cael effaith sylweddol ar fusnes ac a fydd yn bendant yn cyflawni llawer mwy yn y dyfodol.

Mae carfan eleni yn cynnwys unigolion o bob cwr o Gymru sy’n gweithredu mewn amrywiaeth o feysydd gan gynnwys bwyd figan, technoleg diogelwch a lletygarwch. Ymhlith y 25 o Sêr y Dyfodol a ddatgelwyd yn llawn yng nghylchgrawn diweddaraf Insider y mae arweinwyr pum busnes sy’n rhan o Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, sef: Callum Griffith - Clydach Farm Toby White - Market Mate Chris McDermid - MM Engineering Stephanie Locke - Nightingale HQ Emma...

Pagination

  • Previous page <<
  • Page 2
  • Next page >>

Archive

  • June 2025 (2)
  • May 2025 (3)
  • April 2025 (5)
  • March 2025 (5)
  • February 2025 (10)
  • January 2025 (1)
  • December 2024 (3)
  • November 2024 (3)
  • March 2024 (2)
  • January 2024 (1)
  • December 2023 (4)
  • November 2023 (1)

Cysylltwch â ni

Facebook Icon LinkedIn Icon Twitter Icon Youtube Icon Instagram Icon

Tanysgrifio i ebost

Tanysgrifiwch i dderbyn e-gylchlythr

Tanysgrifio

I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03000 6 03000

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg

  • Darganfyddwch fwy Amdanom ni
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Cwcis
  • Hawlfraint
  • Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Datganiad Iaith Gymraeg
Llywodraeth Cymru | Welsh Government

Mae'r holl gynnwys ar gael yn Open Government Licence, oni noder yn wahanol

Busnes Cymru. Llywodraeth Cymru © 2025