1. Gwybodaeth am Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru (CMCC)
Mae ein moroedd yn asedau naturiol anhygoel ac yn rhan annatod o'n hanes, ein heconomi a'n ffordd o fyw. Cafodd CMCC ei fabwysiadu ym mis Tachwedd 2019. Mae'n amlinellu gweledigaeth hirdymor ar gyfer datblygu ein moroedd yn gynaliadwy.
Mae Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir yn darparu sylfaen statudol ar gyfer y gyfundrefn seiliedig ar gynllun i reoli dyfroedd arfordirol yn y Deyrnas Unedig. Fe wnaeth pob un o bedair gweinyddiaeth Datganiad Polisi Morol y DU fabwysiadu'r drefn cynllunio morol ym mis Mawrth 2011. Mae'r Datganiad Polisi Morol yn darparu cyd-destun polisi lefel uchel ar gyfer datblygu Cynlluniau Morol:
- mae'n amlinellu fframwaith ar gyfer:
- paratoi Cynlluniau Morol
- gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar yr amgylchedd morol
- mae'n cynnwys gweledigaeth gyffredin y DU o gael 'cefnforoedd a moroedd glân, iach, diogel, cynhyrchiol a bioamrywiol’
- bydd yn sicrhau cysondeb priodol yn y maes cynllunio morol ledled ardal forol y D
2. Ardal y Cynllun Morol
Mae ardal y cynllun morol o amgylch Cymru yn cwmpasu 32,000 km² o fôr, ac arfordir 2,120 km o hyd. Mae'r cyfrifoldeb am reoli gweithgareddau yn nyfroedd Cymru yn cael ei rannu rhwng:
- swyddogaethau datganoledig (gyda Gweinidogion Cymru yn gweithredu fel awdurdod y cynllun morol), a
- swyddogaethau a ddargedwir (gyda Llywodraeth y DU yn gweithredu fel yr awdurdod)
Dogfennau perthnasol
Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 - Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (legislation.gov.uk)
Datganiad Polisi Morol - UK marine policy statement - GOV.UK (www.gov.uk)
Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru https://www.llyw.cymru/cynllun-morol-cenedlaethol-cymru
Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru: trosolwg Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru: trosolwg | LLYW.CYMRU
Animeiddiad yn esbonio'r broses cynllunio morol Cynllunio Morol yng Nghymru - YouTube
Gweminar Trosolwg o Gynllunio Morol yng Nghymru 1. Trosolwg o Gynllunio Morol yng Nghymru a Chynllun Morol Cenedlaethol Cymru - YouTube
3. Gweledigaeth, amcanion a pholisïau cyffredinol CMCC
Dyma ein gweledigaeth ar gyfer ardal glannau a môr mawr cynllun morol Cymru:
Mae moroedd Cymru yn lân, yn iach, yn ddiogel, yn gynhyrchiol ac yn fiolegol amrywiol:
- trwy reoli ar sail ecosystem. Mae adnoddau naturiol yn cael eu rheoli'n gynaliadwy. Mae ein moroedd yn iach ac yn gydnerth ac yn cynnal economi gynaliadwy a ffyniannus
- trwy sicrhau
- mynediad i
- dealltwriaeth o, a
- mwynhad o'r amgylchedd morol a threftadaeth ddiwylliannol y môr,
mae iechyd a llesiant yn gwella;
- trwy Dwf Glas mae mwy o swyddi a chyfoeth yn cael eu creu. Mae hyn yn helpu cymunedau'r arfordir i fod yn fwy
- cydnerth
- ffyniannus, a
- theg
gyda diwylliant bywiog
- trwy ddefnyddio technolegau carbon isel yn gyfrifol. Mae ardal forol Cymru yn gwneud cyfraniad cadarn at:
- ynni
- diogelwch, a
- thargedau allyriadau newid yn yr hinsawdd
Bydd y weledigaeth yn cael ei gwireddu drwy 13 amcan y Cynllun.
Gallwch ddod o hyd i Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru: gweledigaeth, amcanion a pholisïau (cyfeiriad cyflym) (ar llyw.cymru).
4. Polisïau Trawsbynciol Cyffredinol y Cynllun
Mae CMCC yn cynnwys 25 o bolisïau cyffredinol a pholisïau sectorau y mae'n rhaid eu hystyried wrth wneud pob penderfyniad perthnasol. Mae'r nodau cyffredinol yn cefnogi datblygiad cynaliadwy ardal forol Cymru. Maent yn cyfrannu at y saith nod llesiant a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae polisïau cyffredinol yn ymdrin â sawl maes, gan gynnwys:
- twf economaidd cynaliadwy
- cydfodolaeth
- mynediad
- y Gymraeg
- llifogydd
- cydnerthedd
- sbwriel morol
- ansawdd dŵr
Mae rhagor o fanylion ar gael am y 25 polisi cyffredinol. Ewch i Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru: gweledigaeth, amcanion a pholisïau (cyfeiriad cyflym) (ar llyw.cymru).
Mae rhagor o wybodaeth am y polisïau sectorau ar gael yma
5. Polisïau sectorau
Mae rhagor o wybodaeth am y polisïau sectorau ar gael yma
Mae’r polisïau sectorau wedi'u hamlinellu ar gyfer y mathau amrywiol o weithgarwch sy'n digwydd yn ein moroedd
Mae gan y rhan fwyaf o sectorau:
- bolisïau cefnogi i hyrwyddo twf cynaliadwy:
- trwy gefnogaeth gyffredinol, neu
- mewn ardaloedd sydd â photensial da ar gyfer gweithgareddau yn y dyfodol
- polisïau diogelu i helpu i sicrhau bod pob sector:
- yn ystyried anghenion ei gilydd
- yn osgoi peryglu ardaloedd pwysig ac yn hybu cydfodolaeth
Mae SAF-01a yn bolisïau sy'n seiliedig ar awdurdodiad.
Mae SAF-01b yn bolisïau sy'n seiliedig ar weithgareddau.
Mae rhagor o fanylion am bob sector wedi'u cynnwys ym mhob un o'r adrannau.
Trosolwg o gynnwys Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru - YouTube
Cynnwys technegol Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru - YouTube
6. Rhoi'r Cynllun Morol ar waith
Rolau a chyfrifoldebau
Gweinidogion Cymru yw awdurdod y cynllun morol. Maent yn gyfrifol am lunio polisi a pharatoi cynlluniau morol yng Nghymru. Mae eu rôl yn cynnwys:
- creu cynlluniau morol a'u hadolygu
- goruchwylio'r broses o roi cynlluniau morol ar waith
- monitro ac adrodd ar effeithiolrwydd cynllunio morol
Mae datblygwyr yn gyfrifol am sicrhau bod eu cynigion yn cydymffurfio â'r cynllun hwn. Mae eu rôl yn cynnwys:
- ymgysylltu'n gynnar â rhanddeiliaid perthnasol
- ystyried y cynllun yn gynnar wrth ddatblygu prosiect
- defnyddio polisïau'r cynllun i lunio cynigion
- darparu gwybodaeth sydd ei hangen er mwyn i'r awdurdod cyhoeddus perthnasol asesu cynigion
- casglu a rhannu tystiolaeth lle bo hynny'n briodol
Mae awdurdodau cyhoeddus yn gyfrifol am asesu a yw cynigion yn cydymffurfio â'r cynllun. Mae eu rôl yn cynnwys:
- hyrwyddo ymgysylltiad cynnar rhwng rhanddeiliaid
- gwneud penderfyniadau awdurdodi neu orfodi sy'n cydymffurfio â'r cynllun, neu
- gyhoeddi rhesymau os nad yw unrhyw benderfyniad yn cydymffurfio â'r cynllun
- rhoi ystyriaeth ffafriol i gynigion sy'n cyfrannu at weledigaeth ac amcanion y cynllun
- sicrhau bod tystiolaeth a chanllawiau perthnasol ar gael i helpu i roi'r cynllun ar waith
7. Adnoddau sydd ar gael i helpu i roi'r cynllun ar waith
Rydym wedi cynhyrchu llawer o adnoddau i helpu i roi'r cynllun ar waith. Mae'r adnoddau hyn yn gallu helpu datblygwyr ac awdurdodau cyhoeddus i asesu a yw'r cynigion yn cydymffurfio â CMCC.
8. Canllawiau gweithredu
Rydym wedi datblygu canllawiau gweithredu. Mae angen darllen y canllawiau hyn ochr yn ochr â CMCC. Maent yn cynnwys mwy o fanylion am bolisïau CMCC er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu rhoi ar waith:
- yn effeithiol, ac
- yn gyson
Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru: canllawiau gweithredu (ar llyw,cymru)
Sut i gymhwyso Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (ar YouTube)
9. Porthol Cynllunio Morol Cymru
Mae porthol cynllunio morol Cymru yn galluogi unrhyw un i weld mapiau ar-lein. Mae'r mapiau’n dangos dosbarthiad gweithgareddau pobl ac adnoddau naturiol ym moroedd Cymru. Mae'r porthol yn adnodd cynllunio rhyngweithiol. Bwriad y porthol yw cefnogi'r broses cynllunio morol drwy:
- godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r data morol sydd ar gael
- darparu dealltwriaeth o'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer cynllunio morol sydd ar gael ar hyn o bryd
- rhoi cyfle i bartïon â diddordeb wneud sylwadau ar:
- y sylfaen dystiolaeth, ac
- anghenion tystiolaeth ofodol eraill
Wrth i'r sylfaen dystiolaeth ddatblygu, byddwn:
- yn ychwanegu haenau newydd, ac
- yn diweddaru haenau data presennol
Fideo gwybodaeth am Borth Cynllunio Morol Cymru (ar YouTube)
10. Cynllunio morol a chynllunio ar y tir
Bydd yr adnoddau canlynol yn eich hysbysu:
- pryd, a
- sut
y dylech ystyried CMCC mewn gwaith cynllunio ar y tir.
Cynllunio y môr a'r tir: ffeithlun (ar llyw.cymru)
Ystyried cynlluniau morol o fewn caniatadau cynllunio ar y tir: ffeithlun (ar llyw.cymru)
11. Datganiadau technegol
Mae Datganiadau Technegol Cynllunio Morol wedi'u datblygu ar gyfer y sectorau isod. Diben y dogfennau hyn yw
- galluogi defnyddwyr y cynllun morol i ddeall meysydd sy'n bwysig i weithgarwch mewn sectorau penodol
- darparu canllawiau ar weithredu polisi diogelu Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru ar gyfer y sectorau hyn
Datganiad technegol cynllunio morol: polisi diogelu ar gyfer cychod hamdden (ar llyw.cymru)
https://www.llyw.cymru/datganiad-technegol-cynllunio-morol-polisi-diogelu-ar-gyfer-ceblau-tanfor
12. Canllawiau lleoliadol ar gyfer sectorau
Rydym wedi datblygu canllawiau lleoliadol sectorau ar gyfer ynni ffrwd lanw, ynni’r tonnau a dyframaethu. Mae'r adroddiadau’n darparu tystiolaeth, dadansoddiad a data gofodol yn ymwneud â datblygiadau ar gyfer y sectorau hyn. Mae data gofodol ar gael drwy Borthol Cynllunio Cymru.
Canllawiau lleoliadol ar gyfer sectorau: ynni ffrwd lanw (ar llyw.cymru)
Canllawiau lleoliadol ar gyfer sectorau: ynni'r tonnau (ar llyw.cymru)
Canllawiau lleoliadol ar gyfer sectorau: dyframaethu (ar llyw.cymru)