Ein Mentoriaid
Hidlo yn ôl
251 canlyniad
Busnes:
Ally Merchant HR Consultancy Ltd
Mae fy nghefndir mewn Adnoddau Dynol ac arwain pobl yn strategol, gyda phrofiad allweddol yn gweithio gyda Busnesau newydd ac yn ehangu busnesau i ddylunio a gweithredu eu prosesau pobl. Cychwynnais fy ngyrfa gyda Marks and Spencer cyn symud i Bartneru Busnes AD yn Centrica. Yn fwyaf diweddar, rwyf wedi gweithio gyda busnesau ar draws gwahanol sectorau, gan gynnwys Cyllid, y Cyfryngau, Elusen a Gofod, a’m swydd ddiweddaraf yw Pennaeth Pobl yn Space Forge, busnes newydd technoleg uwch sy’n gweithredu yn fyd-eang, gyda phencadlys yng Nghaerdydd.
Busnes:
The social butterfly marketing Ltd
Ers cychwyn y cwmni’n 24 oed, mae Amy wedi creu ei busnes ar sail ei chariad at natur ac wedi datblygu asiantaeth farchnata rithwir ac integredig gyntaf Cymru gyda’r canlyniad o’i thîm yn gallu gweithio o unrhyw leoliad.
Busnes:
AMG Advisory Group Ltd
Mae Andrew Glass yn Weithredwr sy’n cael ei arwain gan ganlyniadau a gyda dros ddau ddegawd o brofiad yn arwain trawsnewidiadau effaith uchel sy’n rhai masnachol, gweithredol, a rhai gyda chynaliadwyedd wrth eu gwraidd ar draws y sectorau ynni, ymgynghori, seilwaith a diwydiannol.
Busnes:
Andrew Miller Photography
Ar ôl gadael Lluoedd EM, mae Andrew wedi treulio’r blynyddoedd diwethaf yn ennill profiad ym meysydd Adnoddau Dynol ac Ymchwil a Datblygu, ac yntau â hanes blaenorol o gyflawni a llwyddo yn y diwydiannau Caledwedd TG, Milwrol, Telathrebu, Ymgynghoriaeth, Fferyllol, Gwasanaethau, Llywodraeth Leol a Chenedlaethol, a Phetrocemegol ar lefel fyd-eang.
Busnes:
Anderson Consulting
Wedi iddo gymhwyso fel biocemegydd, dechreuodd Andy ei yrfa yn y diwydiant bwyd cyn symud i ofal iechyd yn 1980 ym maes profi clefyd siwgr. Mae wedi gweithio i nifer o gwmnïau rhyngwladol mewn rolau gwerthu a marchnata hŷn cyn dychwelyd i'r diwydiant bwyd yn 1992 gyda'r cwmni Biotrace o Gymru.
Busnes:
NextFriday Ltd
Rwy’n mentora’n rhan amser yng Nghymru ac o amgylch fy mhrif rôl yn y diwydiant cyfryngau sydd wedi ei leoli yn Llundain. Mae’r egni yn ystod y cyfnod cynharaf o gychwyn busnesau newydd yn heintus ac y mae’n amser ble y gall fy nghyngor gael yr effaith fwyaf.
Busnes:
?
Fel llawer o bobl cefais fy arwain i amrywiaeth eang o sefyllfaoedd busnes gan fy ngyrfa. Ar ôl deuddeg o flynyddoedd yn y Fyddin cefais brofiad o reoli gweithgynhyrchu arbenigol ar gyfer y diwydiant argraffu, mewn gweithredu meddalwedd rheoli warws ac mewn cadwyn gyflenwi fyd-eang ar gyfer cwmnïau dyfeisiadau meddygol. Daeth Cynllunio Gwerthiant a Gweithrediadau (S&OP) yn swydd bob dydd tra bod prosiectau cymhleth gan gynnwys caffaeliadau, integreiddiadau, systemau ERP a throsglwyddiadau gweithgynhyrchu technegol yn rhoi llawer o sylw i wahanol sefydliadau a diwylliannau busnes.
Busnes:
?
Yn ddiweddar ymddeolais o The Prince’s Trust Cymru ble y gweithiais am 13 blynedd fel Rheolwr Menter yn cefnogi pobl ifanc gyda syniad busnes i sefydlu eu busnes eu hunain. Roeddwn hefyd yn Rheolwr Gwirfoddoli a Secondiadau, yn hyfforddi gwirfoddolwyr i fentora’r bobl ifanc hyn.
Busnes:
?
Cymrawd siartredig o’r IPD gyda gradd feistr mewn HRM a CMI Lefel 7 mewn rheoli ac arweinyddiaeth Strategol.
Busnes:
Always Responsive Cleaning
Fi yw Rheolwr Gyfarwyddwr a Chyd-sylfaenydd Always Responsive, cwmni rheoli cyfleusterau meddal sy’n tyfu’n gyflym ac yn arbenigo mewn glanhau, diogelwch, rheoli plâu, a gwasanaethau ystafell ymolchi.