Cymhwysedd
Mae Mentora Busnes Cymru yn wasanaeth rhad ac am ddim. Er mwyn bod yn gymwys, rhaid i'ch busnes fod wedi'i leoli yng Nghymru neu gyflawni rhan o'i weithrediadau yma mewn ffordd sy'n cyfrannu at economi Cymru.
Os nad ydych yn siŵr, mae croeso i chi gofrestru - bydd cydlynydd mentora yn adolygu eich manylion ac yn eich cynghori.
Sut mae'r broses fentora yn gweithio
Unwaith y byddwch yn cofrestru gyda ni, bydd cydlynydd mentora yn cysylltu â ni i drafod eich anghenion.
Bydd y cydlynydd yn adolygu eich gofynion ac yn eu cymharu â sgiliau a phrofiad mentoriaid ar ein cronfa ddata i ddod o hyd i'r paru gorau posibl i chi.
Pan fydd paru da wedi digwydd, byddwn yn eich cyflwyno i'ch mentor arfaethedig. Byddwch yn cael cyfle i gadarnhau eich bod yn hapus cyn trefnu eich sgwrs gyntaf.
Beth sy'n digwydd ar ôl i chi gael eich paru
Ar ôl eich cyfarfod cyntaf, byddwn yn gwirio i wneud yn siŵr bod y paru yn gweithio'n dda ac i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Yna, byddwch yn cydweithio â’ch mentor penodedig i drefnu’ch sesiynau nesaf, eu fformat a’u hamlder
Bydd eich cydlynydd mentora wrth law trwy gydol y broses i ddarparu cymorth lle bynnag y bo modd.