Ein Mentoriaid
Hidlo yn ôl
251 canlyniad
Busnes:
Barbara Ravens
Rwy’n strategydd busnes gyda dros 10 mlynedd o brofiad sy’n amrywio o amgylcheddau corfforaethol i fusnesau newydd.
Busnes:
Bernie Davies Global Ltd
Yn Awdures lwyddiannus, Siaradwraig, Strategydd Busnes, mae Bernie Davies wedi hyfforddi cannoedd o fusnesau o’r Sector Preifat a’r Sector Cyhoeddus, ers cyn belled yn ôl â 2009. Mae hi wedi hyfforddi’n fewnol ar gyfer Tîm Datblygiad Economaidd Cyngor Caerdydd, Johnson & Johnson, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Prosiect Chwarae Teg Agile Nation a 4Ward Development, i enwi rhai yn unig. Yn bersonol, mae Bernie wedi cyflwyno seminarau hyfforddiant misol di-ri, hynod boblogaidd i nifer o gannoedd o fusnesau yn ne Cymru. Yn rheolaidd, mae hi’n eistedd ar baneli Beirniadu Gwobrau fel Arbenigwr Busnes. Mae Bernie wedi bod ac yn parhau i fod yn gyfrannwr rheolaidd ar BBC Radio Wales ac yn bersonoliaeth amlwg yn y cyfryngau.
Busnes:
?
Mae Beverley Jones yn disgrifio 2009 fel ei 'annus horribilis'; y flwyddyn pan aeth ei gyrfa gorfforaethol 30 mlynedd i’r gwellt pan gafodd ddiagnosis o iselder a gorbryder. Cymrodd flwyddyn i wella, ac ym mis Awst 2010 agorodd ddrysau ei busnes hyfforddi, Awaken. Yn sgil ei phrofiad, mae Beverley bellach yn byw ei gweledigaeth a’i breuddwyd o fod yn awdur cyhoeddedig a pherchennog busnes llwyddiannus. Fel hyn mae hi’n parhau i helpu llawer o bobl eraill i ddeall bod cyfoeth yn dechrau o fewn ac nid yn y byd ffisegol, materol.
Busnes:
?
Extensive HR experience in large national and international companies directly responsible, in some cases, for up to 40 members of staff.Successfully tendered for Welsh Government contracts to deliver the Workforce Development Programme; Investors in People; SME Equality Project and various other programmes.
Busnes:
CAMCAD Services, Tycho Project Management, Cosy Homes, Tabernacle Property Investment, Friendberry
Yn 1979 dechreuais fy ngyrfa mewn peirianneg, gyda hyfforddiant ar sail ymarfer mewn prentisiaeth. Gweithiais fy ffordd i fyny'r raddfa ac yn 1988 cymhwysais fel peiriannydd.
Busnes:
Catherine Bailey Thomas Consulting Ltd
Helo, fy enw yw Catherine ac rwy’n falch iawn o fod yn fentor Busnes Cymru. Mae fy angerdd a’m cred mewn mentora yn deillio o brofiad uniongyrchol i’r effaith drawsnewidiol y gall ei chael.
Busnes:
?
Bûm yn gweithio i gwmni blaenllaw rhyngwladol am 30 mlynedd a mwy cyn sefydlu fy musnes fy hun.
Busnes:
Elevate Group Limited
Catrin ydw i, ymgynghorydd gyda chefndir ac arbenigedd amrywiol mewn gweithrediadau, arweinyddiaeth, a phrofiad cwsmeriaid.
Busnes:
Fit my floor
Astudiais Astudiaethau Busnes ym Mhrifysgol Plymouth a graddiais â Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf.
Busnes:
ECAS DEALS
Mae gen i brofiad penodol o fusnesau bach a chanolig. Pam? Oherwydd fy mod wedi llwyddo i greu ac aeddfedu tri busnes gwasanaeth o’r fath fy hun.