BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Modelau rôl

Bernadette Davies

Bernie Davies Global Ltd

Cysylltu gyda Bernadette Davies



Swyddogaeth:
Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol
Sector:
Lleoliad:
Neath Port Talbot

Amdano

Yn Awdures lwyddiannus, Siaradwraig, Strategydd Busnes, mae Bernie Davies wedi hyfforddi cannoedd o fusnesau o’r Sector Preifat a’r Sector Cyhoeddus, ers cyn belled yn ôl â 2009. Mae hi wedi hyfforddi’n fewnol ar gyfer Tîm Datblygiad Economaidd Cyngor Caerdydd, Johnson &  Johnson, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Prosiect Chwarae Teg Agile Nation a 4Ward Development, i enwi rhai yn unig. Yn bersonol, mae Bernie wedi cyflwyno seminarau hyfforddiant misol di-ri, hynod boblogaidd i nifer o gannoedd o fusnesau yn ne Cymru. Yn rheolaidd, mae hi’n eistedd ar baneli Beirniadu Gwobrau fel Arbenigwr Busnes. Mae Bernie wedi bod ac yn parhau i fod yn gyfrannwr rheolaidd ar BBC Radio Wales ac yn bersonoliaeth amlwg yn y cyfryngau.

Mae Bernie yn parhau i ddatblygu gyrfa fel entrepreneur cyfresol, strategydd busnes, siaradwr ysgogol ac awdures bellach yn lansio ei hail lyfr “Your Business Your Way…A Unique Perspective on Business Development”, sydd â’r bri o fod yn Ffefryn Newydd #1 Amazon ym mhob un o’r 3 categorïau Hyfforddiant AD, Hyfforddi a Mentora a Sgiliau Rheoli ac Arwain, ac ymhlith gwerthwyr gorau Amazon.

Mae hi wedi gwasanaethu fel Model Rôl Dynamo ar gyfer Llywodraeth Cymru, roedd hi ymysg aelodau cyngor sefydlu Siambr Fasnach De Cymru, roedd hi’n Gadeirydd Siambr Fasnach Castell-nedd ac yn aelod o Gonsortiwm Canol Tref Castell-nedd. Mae hi wedi derbyn nifer o anrhydeddau gan gynnwys bod ymhlith y 100 Menyw Fusnes gorau yng Nghymru 2017 (Gwobrau IAM WOMAN), Bwyty Caribïaidd gorau yng Nghymru 2019, Eicon Du Abertawe 2019 ac enillydd Gwobr Rhagoriaeth mewn Busnes 2017, a ddyfarnwyd yn y Senedd fel rhan o Fis Hanes Pobl Dduon.

Gair i Gall

Ni fydd eich busnes yn rhagori ar eich cyfyngiadau eich hun…Chi yw eich cynnyrch gorau. Felly mae angen i chi ganolbwyntio ar eich hun yn gyntaf. Dylech o ganlyniad ganfod beth sy’n unigryw amdanoch CHI a’ch busnes CHI a gwneud hynny’n frand a BUSNES personol buddugol i chi…Ymfalchïwch ynddo! Gwnewch yn fawr ohono! Gwerthwch hynny!


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.