BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Modelau rôl

Charles Lewis

Fit my floor

Cysylltu gyda Charles Lewis



Charles Lewis
Swyddogaeth:
Cyfarwyddwr
Sector:
Lleoliad:
Newport

Amdano

Astudiais Astudiaethau Busnes ym Mhrifysgol Plymouth a graddiais â Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf. Roedd yn gwrs gradd 4 blynedd yn cwmpasu pob agwedd ar fusnes a rhoddodd llawer iawn o wybodaeth i mi am agweddau pwysig megis cyfrifyddu, marchnata a gweithrediadau. Rwyf hefyd wedi gweithio'n helaeth mewn manwerthu, wedi bod yn gynorthwyydd marchnata mewn sefydliad amlwladol ac wedi gweithio yn y maes gwerthu ar lefel uchel yn gwerthu nwyddau gwerth uchel. Rwyf wedi meddu ar ysbryd entrepreneuraidd erioed ac mae bob amser wedi bod yn freuddwyd gennyf i gael busnes teuluol fy hun.

Mae gennyf ddealltwriaeth dda iawn o sut i ddefnyddio marchnata ar-lein i gynyddu cynulleidfa, a denu busnes - yn enwedig trwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Rwyf yn arbenigo mewn defnyddio Facebook yn effeithiol i dyfu busnes.

Hefyd, mae gennyf wybodaeth am optimeiddio peiriannau chwilio, golygu gwefannau a Google Ad Words.

Gair i Gall

Datblygu enw da am fod yn ddibynadwy.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.