BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Ein Mentoriaid

Hidlo yn ôl

Sector
Ardal

252 canlyniad

Busnes: (Yn flaenorol) Big Blue Adventures
Siaradwyr cymraeg sylfaenol

Rwy'n entrepreneur sy'n canolbwyntio ar bobl. Mae gennyf 10 mlynedd o brofiad o sefydlu ac ehangu Big Blue Adventures, sef busnes digwyddiadau a theithiau grŵp preifat arobryn. Trwy fy ngweledigaeth, fy awydd, a fy ngallu i feithrin rhwydwaith cadarn o bartneriaid, tyfodd y busnes o deithiau dydd lleol bychain i fusnes refeniw blynyddol gwerth £1m+, gan gyflawni dwsinau o ddigwyddiadau sawl diwrnod ledled Ewrop ar gyfer timau byd-eang o 100+ o bobl.

Dysgais gryn dipyn yn ystod y daith honno, drwy'r llwyddiannau a'r camgymeriadau. Roedd gwersi allweddol yn cynnwys pwysigrwydd gweithio ar y busnes yn ogystal ag ynddo, gosod nodau clir, deall sut mae'r uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau’n effeithio arnom yn bersonol fel arweinwyr, rheoli pobl yn effeithiol, ac, wrth gwrs, ymdopi â’r argyfwng achlysurol.

Daeth fy nghyfnod fel perchennog busnes i ben yn ystod haf 2026, yn bennaf oherwydd rhesymau teuluol. Fodd bynnag, rwy'n falch iawn o'r degawd rwyf wedi’i dreulio’n datblygu’r busnes ac rwyf bellach yn frwdfrydig i drosglwyddo’r hyn a ddysgais. Rwy'n edrych ymlaen at fentora entrepreneuriaid eraill a all fod yn profi heriau tebyg, gan eu helpu i weithio drwy eu problemau a symud yn nes at le maen nhw eisiau bod.

Rhai o fy hoff elfennau o redeg busnes oedd mentora a hyfforddi fy nhîm bach a gwneud fy ngorau i greu diwylliant gwych. I mi, mae llwyddo mewn busnes yn golygu helpu pobl a chael effaith gadarnhaol ar hyd y ffordd. Gweithiais hefyd gyda llawer o arweinwyr AD, gan eu helpu i gyflawni eu nodau o ran pobl drwy ddigwyddiadau pwrpasol oddi ar y safle. Rwyf wedi mabwysiadu cipolygon gwerthfawr gan uwch-arweinwyr technoleg twf uchel a’u trosglwyddo.

Os ydych yn chwilio am fentor modern sy'n gyfeillgar, yn dda am wrando, a chanddo feddylfryd twf, yna dewch i ni gael sgwrs.
None
Busnes: ?
Helô, Dan yw fy enw i. Mae gen i dros 30 mlynedd o brofiad yn y sectorau Logisteg, Ynni (Olew a Nwy) a Manwerthu.
Busnes: RMS
Yn Brif Gweithredwr Gwasanaethau Marchnata Manwerthu (RMS), a sefydlydd Flex, mae Daniel wedi defnyddio ei brofiad mewn darparu newid trawsffurfiol i ehangu a chryfhau etifedd ei ddiweddar dad.
Daniel O’Toole
Busnes: Making Lean Work Ltd
Darren Walsh yw Cyfarwyddwr a Hyfforddwr Arwain Making Lean Work Ltd. Mae ganddo dros 30 o flynyddoedd o brofiad yn arwain trawsnewidiad gyda chwmnïau fel Sony Aiwa, Sega, Boston Scientific, Parker, Zodiac Aerospace a gyda’r Lean Institute.
Darren Walsh
Busnes: Summit Venture
Rwy'n entrepreneur profiadol gyda 25+ blwyddyn o brofiad o ddechrau, rhedeg a gwerthu busnesau. Rwyf wedi gwerthu 3 busnes yn llwyddiannus, ond hefyd wedi cael rhai methiannau, gyda'r cyfan yn cyfrannu at ddysgu gwersi gwerthfawr.

Fel sylfaenydd, rwyf wedi gweithio mewn rôl ymarferol mewn bron bob agwedd o fusnes yn ystod fy ngyrfa: arweinyddiaeth/rheolaeth, gwerthiant, marchnata, gweithrediadau, gwasanaeth cwsmer, peirianwaith, cyllid, AD, cyfreithiol a.y.y.b. Rwyf wedi sefydlu ac adeiladu o'r ffwythiannau hyn ac wedyn wedi recriwtio pobl wych i'w cymryd ymlaen.

Rwyf wedi canolbwyntio dros y degawd diwethaf ar adeiladu platfform SaaS aml-gynnyrch ar gyfer y sector diogelu gan weithio ar lefel bwrdd yn dyfeisio ac yn goruchwylio'r strategaeth.

Yn hollbwysig, drwy redeg y busnesau hyn (y llwyddiannau a'r methiannau), rwyf wedi darganfod yr hanfodion ar gyfer llwyddiant: creu'r diwylliant cywir; recriwtio'r bobl gywir a'u hysgogi i gyflawni gweledigaeth a rennir; gan fod â ffocws cryf sy'n treiddio, tra ar yr un pryd bod yn agored i newid cyfeiriad; gwybod pryd i gymryd camau gweithredu; gor-gyfathrebu'r neges; mwynhau'r daith; a, sut i fwyta eliffant.
Busnes: GSD Business Consultancy
Mae fy nod ar gyfer GSD yn syml. Rwyf eisiau helpu entrepreneuriaid a’r farchnad BBaCch i ffynnu a bod y gorau posib bob dydd.
Busnes: Iscennen Coach and Mentor
Rwyf wedi gweithio mewn sawl gwahanol ddiwydiant ers dros 40 o flynyddoedd. Treuliais y 20 mlynedd gyntaf fel Rheolwr a Thechnolegydd Bwyd yn y Diwydiant Bwyd, yn gweithio gyda chwmnïau fel Kraft General Foods, Nabisco, Northern Foods, Eden Vale.
Busnes: ?
Yn ystod yr 1970au roedd David yn astudio Peirianneg ac yn gweithio i British Aerospace ar amrywiaeth o brosiectau ar gyfer Concorde, profi amgylcheddol ar gyfer aráe paneli solar i Intelsat IV a gwella dibynadwyaeth systemau taflegrau.
Busnes: Dewi Development Ltd
Mae gennyf dros 15 mlynedd o brofiad yn y sector elusennol, ac rwyf wedi bod yn gyfrifol am ddatblygu’r staff a gwirfoddolwyr ar draws Cymru, drwy gydgysylltwyr staff a thîm o diwtoriaid gwirfoddol.
Busnes: ?
Meysydd arbenigedd: Mynediad at gyllid ac ariannu; cynlluniau a strategaethau ariannol; sicrhau parodrwydd ar gyfer buddsoddiad a chynnig am fuddsoddiad; mireinio potensial cynnyrch/proses; gwahaniaethu cynnyrch a phrosesau.

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.